大象传媒

'Angen i arholiadau barhau'n rhan o'r drefn asesu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
neuadd arholiadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canlyniadau TGAU 2021 yn seiliedig ar asesiadau athrawon

Mae yna r么l i arholiadau "yn sicr" wrth asesu pobl ifanc yn y dyfodol, yn 么l y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau.

Fe fydd myfyrwyr TGAU yn cael eu canlyniadau swyddogol ddydd Iau wedi i athrawon bennu graddau yn sgil canslo arholiadau.

Roedd disgwyl patrwm tebyg i ganlyniadau Safon Uwch ddydd Mawrth pan roedd bron i hanner y graddau yn A* ac A.

Dywedodd undeb dysgu nad yw hi'n glir o gwbl os oes angen "set anferth o arholiadau" yn 16 oed.

Tra'n mynnu bod angen cadw arholiadau, dywedodd Cymwysterau Cymru y dylen nhw fod yn rhan o gymysgedd o ddulliau asesu.

Mae'r gweinidog addysg wedi dweud bod lle i drafod ynghylch asesu disgyblion yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd bron i hanner graddau Safon Uwch yng Nghymru yn A neu A* eleni

Mae cymwysterau 16 oed yn cael eu hystyried yn y cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno o 2022, gyda chymwysterau TGAU newydd yn cael eu gwneud gyntaf yn 2027.

Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud y dylid cadw'r enw TGAU ac mae'r corff wedi bod yn ymgynghori ar sut yn union y byddan nhw'n gweithio.

Dywedodd Plaid Cymru y llynedd y bydden nhw'n cael gwared ar gymwysterau TGAU ac yn cyflwyno trefn a fyddai'n seiliedig ar asesiadau athrawon.

'Y ffordd decaf o asesu'

Dywedodd David Jones, cadeirydd Cymwysterau Cymru y byddai "gwendid yn y system" pe na bai yna brofiad o arholiadau.

"Mae lot o bobl ifanc yn mynd i brifysgol lle mae dal llawer o bwyslais ar wneud arholiadau," meddai.

"Hefyd ar 么l gorffen gradd mae lot o bobl yn gweithio mewn meysydd proffesiynol a dysgu am oes ac mae pobl angen gwneud arholiadau proffesiynol."

Fe allai profiad y pandemig helpu i lywio'r drafodaeth am asesu dan y cwricwlwm newydd, meddai.

Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud mai arholiadau, ochr yn ochr 芒 mathau eraill o asesu "yw'r ffordd decaf o hyd i asesu lefel cyrhaeddiad dysgwr".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod lle i arholiadau yn y dyfodol

Yn siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru, dywedodd y Gweinidog Addysg bod lle i drafod dyfodol asesu disgyblion yng Nghymru.

Yn 么l Jeremy Miles, mae angen edrych yn greadigol ar sut mae disgyblion Cymru yn cael eu graddau. Er bod lle i arholiadau, dywedodd bod angen balans wrth i Gymru gyflwyno cwricwlwm newydd.

Ychwanegodd y bydd arholiadau'r flwyddyn nesaf, ond gyda newidiadau i adlewyrchu heriau'r pandemig i ddisgyblion dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

Ychwanegodd fod y system eleni yn "deg ac yn ddibynadwy" sydd yn "adlewyrchu cyd-destun rhyfedd y pandemig".

'Angen newid sylweddol'

Yn 么l undeb UCAC byddai cael gwared ar neu leihau gofynion TGAU yn sylweddol yn rhyddhau llawer o amser tuag at barhau i ddysgu.

"Mae cwestiynau mawr yn codi ynghylch diben ac addasrwydd TGAU. Nid yw'n glir o gwbl bod angen set anferth o arholiadau allanol, ffurfiol yn 16 oed bellach," meddai Rebecca Williams, swyddog polisi'r undeb.

"Gellir cael mynediad at y camau nesaf o addysg neu hyfforddiant drwy ddulliau asesu eraill, mwy cymesur, a mwy adeiladol.

"Gyda'r cwricwlwm newydd ar ei ffordd, mae UCAC yn credu bod angen newid sylweddol i'r drefn TGAU.

"Bydd angen i'n systemau asesu gyd-fynd gydag amcanion ac ethos y cwricwlwm newydd - ac mae TGAU, fel ag y mae ar hyn o bryd, yn bell iawn o gyflawni'r gofynion hynny."

Eleni mae graddau TGAU wedi eu pennu gan ysgolion ac mae disgyblion eisoes wedi cael graddau dros dro.

Fe fydd Elin, 16 oed o Abergele, yn mynd mewn i'w hysgol i gael ei chanlyniadau swyddogol ar 么l sefyll 12 pwnc TGAU.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Elin o Abergele a Finley o'r Rhyl eu bod yn edrych ymlaen i gael y canlyniadau swyddogol

"Dwi'n teimlo'n iawn. Dwi bach yn nerfus ond dwi'n hapus i gael y canlyniadau ar bapur - byddai'n falch o gael y cadarnhad," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi bod yn flwyddyn "really anodd i bawb".

Yn un o chwech o blant, dywedodd Elin bod gweithio gartref ac adolygu wedi bod yn her yn ei hun.

"Mae pawb wedi gorfod gweithio a chario 'mlaen drwy'r adegau anodd. 'Dan ni wedi gweithio'n fwy caled.

"Doeddan ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd drwy blwyddyn 11 gan bo' pethau'n newid ac roedd y gwaith cwrs yn gallu cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth," meddai Elin.

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at fynd mewn i'r ysgol i weld ei ffrindiau a'u gweld nhw'n cael eu graddau swyddogol, er eu bod wedi derbyn rhai dros dro fis Mehefin.

'Rhyddhad'

Mae Finley, 16, o'r Rhyl hefyd wedi gwneud 12 TGAU ac am fynd mewn i'r ysgol.

"Dwi'n teimlo'n iawn," meddai. "Bydd o'n gr锚t cael y canlyniadau ar bapur, dwi bach yn nerfus a bydd rhyddhad i weld y canlyniadau'n swyddogol."

Dywedodd fod ei flwyddyn ysgol yn haeddu eu graddau ond roedd yn pryderu nad oedden nhw wedi sefyll arholiadau ffurfiol ers blynyddoedd.

"Efallai y bydd hyn yn gwneud pethe'n anoddach yn y chweched, ond gallai fod yn gyfnod newydd hefyd," ychwanegodd.