大象传媒

Cwtogi g诺yl Jazz Aberhonddu yn 'ergyd' i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Band sy'n perfformio yn yr 诺yl eleni

Mae nifer o fusnesau yn Aberhonddu wedi mynegi siom bod digwyddiadau stryd g诺yl jazz flynyddol y dref wedi cael eu canslo eleni, er bod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu codi yng Nghymru.

Mae trefnwyr yr 诺yl, sy'n cael ei chynnal gydol Awst eleni yn hytrach na thros un penwythnos, hefyd yn cyfyngu ar nifer y gynulleidfa ar gyfer perfformiadau byw yng nghanol y dref.

Dywed nifer o dafarndai a bwytai lleol bod y newidiadau'n ergyd ariannol iddyn nhw, ond mae'r trefnwyr yn pwysleisio bod angen parhau i fod yn ofalus yn sgil y pandemig

Maen nhw hefyd yn dweud bod posib i fwy o bobl nag erioed fwynhau'r arlwy eleni, sy'n cyfuno perfformiadau byw a rhai ar-lein.

'Amser od'

Fel arfer, mae'r 诺yl yn cael ei chynnal dros un penwythnos, sef ail benwythnos mis Awst, gan ddenu degau ar filoedd o ymwelwyr.

Mae rhai o gewri'r byd jazz wedi perfformio yno dros y blynyddoedd, gan gynnwys George Melly a Jools Holland, ac mae'r strydoedd yn orlawn wrth i bobl fwynhau'r gerddoriaeth, digwyddiadau ymylol a chynnyrch stondinau bwyd.

Eleni mae yna gyfres o berfformiadau drwy'r mis cyfan, ac mae perfformiadau byw ac wedi eu recordio'n cael eu dangos ar-lein.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heulwen Thomas yn falch bod posib cynnal g诺yl eleni wedi cyfnod mor heriol

Mae'n rhaid canmol y trefnwyr, "bod nhw wedi dod i ben gyda gwneud cymaint 芒 hyn mor gyflym" wedi 18 mis mor anodd, medd Heulwen Thomas, sy'n cyflwyno bandiau yn ystod yr 诺yl.

"Mae wedi bod yn amser od a mae'n anodd i drefnu'r petha' ma' ta beth," meddai.

"Ni'n hapus bod e wedi dod i'r pwynt yma ble mae cynulleidfa'n gallu dod mewn a gweld be' sy'n mynd 'mlaen.

"Llynedd doedd dim byd ymlaen. Eleni mae yna fwy o bethe ymlaen. Blwyddyn nesa' gobeithio [bydd] llawer, llawer mwy eto."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Does neb yma,' meddai'r perchennog siop sglodion, Claire Lyndon

Ond mae'r cyfyngu ar y trefniadau arferol, er i'r rhan helaeth o gyfyngiadau Covid ddod i ben at 7 Awst, wedi peri rhwystredigaeth.

"Dan ni mor siomedig," meddai Claire Lyndon, perchennog siop sglodion ar y stryd fawr. "Mae'r dref fel arfer yn llawn cyffro... ond fel y gwelwch chi does neb yma."

"Mae fel arfer yn dod 芒 lot o arian mewn i'r dre' achos mae pobol yn dod o bobman," meddai Nia Morgan, un o drigolion yr ardal.

"Dwi'n credu bod e yn rhoi impact ar y pubs lleol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lynne Gornall nad yw'r credu y byddai pobl yn dymuno gweld gormod o bobl ar y strydoedd eleni

Yn 么l un o drefnwyr yr 诺yl, Lynne Gornall fe fuon nhw'n ymgynghori gyda'r gymuned o flaen llaw.

"Rydym wedi cydweithio gyda Chyngor Sir Powys - maen nhw wir wedi bod o gymorth gan roi cyngor, a chael golwg ar y rhaglen, felly mae wedi ei wneud yn ofalus.

"Ni allwn ddenu niferoedd mawr o bobl i lenwi'r strydoedd a dydw i ddim yn credu y byddai pobl yn dymuno hynny eleni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r 诺yl 'wedi colli tir' yn y degawdau cyn y pandemdig, medd y cerddor 'r cyflwynydd Tomos Williams

Roedd yr 诺yl wedi cael problemau ariannol a gostyngiad yn nifer ymwelwyr cyn y pandemig, ond mae'r trefnwyr yn ymdrechu i adfer ei statws, medd y cerddor a'r cyflwynydd jazz, Tomos Williams.

G诺yl Aberhonddu, meddai oedd yr un pwysicaf ym Mhrydain, ac roedd yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw drwy Ewrop "ryw 20, 30 mlynedd yn 么l [ond] mae wedi colli tir ers hynny".

Ychwanegodd: "Mae'r trefnwyr ar hyn o bryd yn trio codi e'n 么l i fyny, maen nhw'n ei cadw i fynd.

"Maen nhw'n defnyddio nifer o gerddorion lleol ac o Gymru felly mae'n deg i 'weud bydd yn dal yn ddigon pwysig ar y calendr jazz ond dyw e ddim hanner mor bwysig ag oedd e."