大象传媒

Leanne Wood ac Adam Price 'ddim yn ffrindiau ers blynyddoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Leanne Wood ac Adam Price mewn digwyddiad yn 2016Ffynhonnell y llun, WalesOnline
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Leanne Wood ac Adam Price, y ddau yn y llun mewn digwyddiad yn 2016, heb siarad ers blynyddoedd

Dywed cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei bod hi ac Adam Price "heb fod yn ffrindiau ers blynyddoedd" ers iddo ei herio am yr arweinyddiaeth yn 2018.

Roedd amseru Mr Price a'r ffordd y digwyddodd hynny yn benderfyniad "gwael" ar ei ran, meddai Ms Wood.

Dywedodd hefyd fod y blaid wedi mynd "yn 么l" ers iddi golli ei sedd yn y Rhondda yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Mewn ymateb, canmol ei "chyfraniad amhrisiadwy" i'r blaid wnaeth Plaid Cymru a dywedodd ei bod yn falch o gael ei "harwain gan aelodau".

'Dydyn ni ddim yn ffrindiau nawr'

Mae Mr Price wedi dweud yn y gorffennol mai un o'i benderfyniadau anoddaf oedd herio un o'i "ffrindiau hynaf mewn gwleidyddiaeth".

Roedd Ms Wood wedi dweud yn wreiddiol ei bod hi wedi'i "synnu" gan yr her ond nad oedd hi wedi "cymryd [colli'r arweinyddiaeth] yn bersonol".

Cafodd Leanne Wood ei hethol yn arweinydd Plaid Cymru yn 2012, cyn colli ei swydd yn 2018 ar 么l gorffen yn drydydd y tu 么l i Adam Price a Rhun ap Iorwerth.

Fe enillodd sedd y Rhondda oddi ar Lafur yn 2016 - un o ganlyniadau mwyaf nodedig yr etholiad i Blaid Cymru wrth iddyn nhw geisio lledaenu eu cyrhaeddiad yn y cymoedd.

Ond fe gollodd y sedd ym mis Mai, wrth i Blaid Cymru ennill llai o seddi na Llafur a'r Ceidwadwyr.

Yn gynharach yn 2018, roedd Mr Price wedi bygwth herio Ms Wood am arweinyddiaeth y blaid os nad oedd yn fodlon rhannu'r swydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Leanne Wood yn arweinydd Plaid Cymru am chwe blynedd

Wrth siarad 芒 phodlediad gwleidyddol Walescast 大象传媒 Cymru, dywedodd fod y cynnig i gael dau arweinydd yn "anghyfansoddiadol".

"Dwi ddim yn teimlo iddo gael ei wneud yn gywir mewn gwirionedd ac mae'n debyg bod hynny'n rhan o pam mae wedi bod yn eithaf anodd," meddai.

"Dydyn ni ddim yn ffrindiau nawr. Dydyn ni ddim wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd."

Pan ofynnwyd a oedd hynny wedi bod yn anodd delio ag ef, atebodd: "Mae colli cyfeillgarwch yn anodd yn dydy?

"A cholli cyfeillgarwch o dan yr amgylchiadau gwleidyddol yma, pan fydd y prosiect rydych chi'n credu ynddo ac yn cyrraedd rhywle yn cael ei stopio, mae hynny'n ychwanegu haen ychwanegol o anhawster."

'Pwysau aruthrol' gan Price ac eraill

Yn sgil canlyniad refferendwm Brexit yn 2016, fe alwodd nifer am ail bleidlais - rhywbeth a oedd yn "syniad gwael iawn", yn 么l Ms Wood.

Dywedodd Ms Wood ei bod yn dadlau y tu 么l i'r llenni y dylid parchu canlyniad 2016 - lle pleidleisiodd Cymru dros adael.

"Roeddwn i wastad wedi meddwl bod y syniad o ail refferendwm yn syniad gwael iawn," meddai wrth Walescast.

"Roeddwn i wir yn teimlo'n gryf iawn, os ydych chi'n gofyn cwestiwn i bobl mewn democratiaeth mae'n rhaid i chi dderbyn y canlyniad ni waeth faint nad ydych chi'n ei hoffi."

Dywedodd Ms Wood fod y "pwysau'n aruthrol" gan Adam Price ac eraill o fewn y blaid i gefnogi arolwg barn newydd gan yr UE.

Ychwanegodd: "Ro'n i'n treulio llawer o amser yn fewnol o fewn Plaid Cymru yn ceisio perswadio pobl bod angen i ni dderbyn y canlyniad hwn, gan geisio perswadio pobl bod y negeseuon a'r geiriau yr oeddem yn eu defnyddio i ddisgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn achosi dicter mawr ymysg pobl mewn rhai lleoedd.

"Ond roedd hi'n ddadl na allai pobl ei hwynebu dwi'n meddwl."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn etholiad cyntaf Adam Price yn y Senedd fel arweinydd Plaid Cymru, enillodd y blaid un sedd ychwanegol i gyrraedd 13, ond llithrodd yn 么l i'r trydydd safle y tu 么l i Lafur a'r Ceidwadwyr

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Adam Price addo y byddai Plaid Cymru yn cynnal i Gymru petaen nhw'n dod i rym yn y Senedd.

Roedd yn gyferbyniad sylweddol i ddull Leanne Wood, a dywedodd hi nad oedd digon o waith wedi'i wneud ar lawr gwlad i roi atebion ar gyfer "rhai o'r cwestiynau real iawn" oedd gan bleidleiswyr.

"Nid yw'n dda dweud 'gadewch i ni ei wneud, gadewch i ni fynd' oherwydd yr unig bobl rydych chi'n mynd i fynd gyda chi yno yw'r bobl sydd eisoes y tu 么l i'r syniad hwnnw."

Dywedodd Ms Wood nad oes ganddi gynlluniau i ddychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen.

"Rydw i wedi penderfynu cymryd peth amser allan nawr dros yr haf i ymlacio a myfyrio," meddai.

"Nid wyf wedi cael amser i ffwrdd ers amser maith lle nad wyf wedi cael rhywbeth i'w wneud neu ryw achos i boeni amdano neu rywun i wylio amdano y tu 么l i chi.

"Felly mae'n adfywiol ac yn llesol i allu cymryd yr amser hwn allan."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Leanne Wood wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith Plaid Cymru ac yn ddi-os bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus ehangach Cymru yn y dyfodol.

"Mae Plaid Cymru yn falch o fod yn blaid sy'n cael ei harwain gan aelodau sy'n grymuso ei haelodaeth i wneud penderfyniadau allweddol, gan gynnwys rhoi mandad clir i'r arweinydd trwy etholiadau arweinyddiaeth."

Gallwch wrando ar bodlediad Walescast ar 大象传媒 Sounds.

Hefyd gan y 大象传媒