Gwerthu lluniau Kyffin am bron 拢40,000
- Cyhoeddwyd
Mae darluniau gan yr artist Syr Kyffin Williams a gafodd eu canfod mewn t欧 yn Sir Stafford wedi eu gwerthu am bron 拢40,000.
Cafodd dau baentiad olew a dau lun mewn inc eu canfod gan arwerthwr wrth ymweld 芒 chartref yn Burton upon Trent.
Fe werthodd y ddau lun olew am 拢25,000 a 拢14,000.
Mae Kyffin Williams yn cael ei ystyried yn un o artistiaid enwocaf Cymru, ac mae'n cael ei adnabod fwyaf am ei ddarluniau o gefn gwlad Cymru.
Mae'r lluniau a werthwyd yn cadw at yr un arddull, gydag un yn dangos bwthyn gwledig, a'r llall yn dangos tirwedd fynyddig Cymru.
Cafodd y darluniau eu gwerthu gan yr arwerthwr Charles Hanson, a ddywedodd bod y lluniau wedi dod o gartref i gyfeillion i'r artist.
"Roedd y p芒r oedd wedi prynu'r lluniau yn 1961, yn uniongyrchol o stiwdio Kyffin Williams, yn ffrindiau da gyda'r artist cyn ei fod yn enwog," meddai.
"Y s么n ydy eu bod nhw'n arfer benthyg lluniau o'i stiwdio am fis neu ddau ac yna eu newid nhw am un arall."
Ychwanegodd bod y lluniau yn "ganfyddiad hollol arbennig" ac y byddai'n hoffi eu gweld yn "mynd yn 么l i Gymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2018