大象传媒

Aled Si么n Davies: O'r ardd gefn i gapten Prydain

  • Cyhoeddwyd
Aled Sion DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Aled Si么n Davies yn cystadlu yn y taflu pwysau F63 am 11:00 ddydd Sadwrn

Fel rhan fwyaf o'r athletwyr allan yn Tokyo yr haf yma, mae paratoadau Aled Si么n Davies wedi bod yn hollol wahanol i'r arfer.

Mae'r athletwr o Ben-y-bont ar fin cymryd rhan yn ei drydydd Gemau Paralympaidd wrth gystadlu yn y taflu pwysau F63 ddydd Sadwrn.

Mae hefyd yn chwilio am ei drydedd fedal aur.

Wrth sgwrsio gyda 大象传媒 Radio Cymru, disgrifiodd Davies ei baratoadau anarferol yn ystod y cyfnodau clo.

"O'n i 'di troi'r garej mewn i gampfa i godi pwysau a phethau fel 'na," dywedodd.

"Ac o'n i wedi adeiladu cylch yn yr ardd gefn a thaflu mewn i rwyd sy'n hongian rhwng dwy goeden."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Si么n Davies yn cystadlu yn y taflu pwysau yn Tokyo, ond mae hefyd wedi ennill medalau yn y ddisgen

Yn wahanol i rai cystadleuwyr, dywedodd Davies fod y profiad o ymarfer yn ystod pandemig yn un positif.

"O'n i wedi mwynhau'r sialens newydd," meddai.

"O'n i'n gwybod oedd e'n mynd i fod yn sialens anodd iawn, ond nes i garu fe i ddweud y gwir.

"Nawr dwi yma a fi yn y si芒p gorau erioed a fi methu aros i daflu."

Enillodd Davies aur yn y taflu pwysau yn Rio 2016 gan ychwanegu at ei fedal efydd yn y gamp a medal aur yn y ddisgen o Lundain 2012.

Ond fe fydd Tokyo yn brofiad gwahanol i Davies o'i gymharu 芒 chystadlaethau cynt ar 么l iddo gael ei ethol yn gyd-gapten t卯m Prydain.

Ffynhonnell y llun, Atsushi Tomura/Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Si么n Davies yn ceisio ychwanegu at ei ddwy fedal aur o Rio a Llundain

"O'n i ddim yn gallu credu e i ddweud y gwir," dywedodd.

"Ma'n fraint enfawr achos oedd y t卯m wedi pleidleisio i fi fod y person yna.

"Ma' mor wahanol achos am flynyddoedd fi 'di bod yr un ifanc ar y t卯m, a nawr dwi'n un o'r athletwyr ma' pobl yn edrych lan at."

Mae Davies yn arwain y t卯m mewn Gemau Paralympaidd digynsail wrth i effeithiau Covid-19 barhau yn Japan.

Er na fydd torfeydd yn gwylio'r Gemau, mae Davies yn falch i fod n么l yn cystadlu.

"O'n i'n teimlo fel y bydde'r gystadleuaeth yma byth yn mynd i ddigwydd," meddai.

"'Sa i'n gallu aros i fynd mas yno oherwydd dwi wedi bod yn ymarfer mor galed... ma' dal mynd i fod yr un bobl dwi'n cystadlu yn erbyn.

"Ma' Japan wedi bod yn fendigedig yn 'neud y lle yma i deimlo fel cartref. Ma'n jyst mor drist bod nhw methu mynd i weld yr holl chwaraeon yma yn fyw."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Si么n Davies yn arwain t卯m o dros 200 o athletwyr Prydeinig.

Er y pandemig, mae Davies dal yn hyderus y bydd y gystadleuaeth yn un llwyddiannus i Brydain.

"Ni hefo t卯m anhygoel sy'n mynd i gymryd gymaint o fedalau, dwi jyst mor browd ohonyn nhw," meddai.

Mae Davies hefyd yn anelu am fuddugoliaeth bersonol, gan ddweud bydd ennill trydedd fedal aur yn golygu "popeth" iddo.

"Dwi wedi rhoi fy holl fywyd i fod y gorau," meddai. "Fi ond yn dod yma am un lliw."

Pynciau cysylltiedig