Awgrym y gallai fod ymchwiliad Covid penodol i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi llythyr gan y Prif Weinidog sy'n nodi y gallai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad Covid-19 wedi'r cyfan.
Yn y llythyr, sydd wedi'i rannu gan Andrew RT Davies, dywed Mark Drakeford y gallai fod ymchwiliad penodol i Gymru os nad yw'n fodlon 芒 thelerau'r un ar gyfer y pedair gwlad.
"Edrychaf ymlaen at drafod cylch gorchwyl yr ymchwiliad ledled y DU gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth y DU fel bod gennyf y sicrwydd yr wyf yn ei geisio ar gyfer ymchwiliad cynhwysfawr," meddai Mr Drakeford yn y llythyr.
"Os gwelir bod telerau manwl dull Llywodraeth y DU yn annigonol yna rydyn ni, wrth gwrs, yn cadw'r hawl i ailystyried."
Mae pwysau wedi bod yn cynyddu ar Lywodraeth Cymru ar 么l i weinidogion yn Holyrood gyhoeddi y byddai'r Alban yn cynnal ei hymchwiliad ei hun erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am ymchwiliad penodol i Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr 芒'n hymgysylltiad parhaus 芒 Llywodraeth y DU ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad.
"Rydyn ni'n ceisio ymrwymiad y bydd ymchwiliad y pedair gwlad yn delio'n gynhwysfawr 芒 gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru."
Ym mis Mai, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y bydd ymchwiliad cyhoeddus annibynnol - ledled gwledydd y DU - yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021