大象传媒

Anafiadau a Covid yn taro carfan Cymru'n galed

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey'n agos谩u at y g么lFfynhonnell y llun, Mike Hewitt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aaron Ramsey yn un o bum chwaraewr i dynnu'n 么l o garfan Cymru gydag anaf

Bydd t卯m p锚l-droed Cymru heb sawl chwaraewr profiadol, gan gynnwys Aaron Ramsey, ar gyfer ei gemau rhyngwladol yr wythnos hon.

Mae'r chwaraewyr canol cae Ramsey, David Brooks a George Thomas, ynghyd 芒'r amddiffynwyr Joe Rodon a Neco Williams wedi tynnu'n 么l o'r garfan oherwydd anafiadau.

Mae Brendan Cooper, Mark Harris, Josh Sheehan a Ben Woodburn wedi eu galw i'r garfan yn eu lle.

Fore Mawrth, daeth cadarnhad gan y Gymdeithas B锚l-droed fod y golwr, Adam Davies, wedi cael prawf positif am Covid-19.

Bydd yn rhaid iddo hunan-ynysu am 10 diwrnod ac mae Tom King o Salford wedi'i enwi yn y garfan yn ei le.

Mewn datganiad pellach yn y prynhawn, dywedodd CBDC bod yr ymosodwr Kieffer Moore, fel un fu mewn cysylltiad agos ag Adam Davies, yn gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod. O'r herwydd "nid yw ar gael" ar gyfer tair g锚m nesaf Cymru.

Mae'r garfan yn teithio i'r Ffindir brynhawn Mawrth ar gyfer g锚m gyfeillgar nos Fercher, cyn wynebu Belarws yn Rwsia ac yna Estonia yng Nghaerdydd mewn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Ond i ychwanegu at broblemau'r prif hyfforddwr Rob Page, ni fydd tri chwaraewr ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Belarws oherwydd problemau fisa.

Bydd rhaid i Tyler Roberts, Ethan Ampadu a Cooper aros yng Nghymru gan na chafodd eu fisas Rwsiaidd eu prosesu yn ddigon buan.