大象传媒

Dyn o Wrecsam methu dod adref oherwydd diffyg gofalwyr

  • Cyhoeddwyd
Gwyneth a Ron Taylor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Gwyneth Taylor bod ei g诺r sy'n 89 angen gofalwyr ddwywaith y dydd

Dywed dynes o Wrecsam nad yw ei g诺r sy'n byw 芒 dementia yn medru dychwelyd adref o'r ysbyty am nad oes digon o ofalwyr.

Mae cartref Gwyneth Taylor wedi ei addasu ar gyfer ei g诺r Ronald, ond dywedodd nad yw'n gallu edrych ar ei 么l ar ei phen ei hun.

Fe aeth Ronald Taylor, 89, i'r ysbyty ym Mai wedi iddo ddisgyn.

Wedi cyfnod byr mewn cartref gofal dychwelodd i'r ysbyty ac mae o bellach wedi bod yn Ysbyty Maelor Wrecsam am bum wythnos.

Mae Mrs Taylor wedi cael gwybod nad oes modd iddo ddod allan o'r ysbyty am nad oes digon o ofalwyr i edrych ar ei 么l.

"Mae gen i bob dim yma ond dwi angen gofalwyr i ddod yma ryw ddwywaith y diwrnod - i'w gael yn barod yn y bore ac yna yn y nos," meddai.

"Mae modd iddo eistedd yn y gadair gydol y dydd gyda'i deulu ond gan nad oes gofalwyr dydy o ddim yn gallu gadael yr ysbyty."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwyneth Taylor yn canmol y gofal yn Ysbyty Maelor Wrecsam ond mae am i'w g诺r ddod adref

Mae Mrs Taylor yn ychwanegu bod y gofal y mae'n ei dderbyn yn yr ysbyty yn rhagorol ac nad oes unrhyw fai ar y staff, ond bod y sefyllfa yn hynod rwystredig i bawb.

"Mae o'n blocio gwely y gallai person s芒l a allai wella ei ddefnyddio," ychwanegodd.

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Mae prinder difrifol o staff gofal cartref ar hyn o bryd ac mae hyn yn cael effaith ar bob rhan o Gymru.

"Ry'n ni'n gweithio'n ddyfal gyda'n darparwyr presennol i gynnal y gofal sy'n bodoli eisoes ac yn annog mwy o staff i ymgymryd 芒'r gwaith er mwyn sicrhau fod pob unigolyn yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid cael mwy o staff ac i'r staff hynny gael cyflogau uwch,' medd Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru

Dywedodd Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, ei bod yn "teimlo dros bobl sy'n aros am ofal a bod y sefyllfa yn ofnadwy ar hyn o bryd.

"Rhaid i ni godi cyflogau y sector gofal cymdeithasol yn y tymor hir a sicrhau ein bod yn cydnabod cyfraniad y gweithwyr. Mae cyflogau yn rhy isel ar hyn o bryd a dyw gweithwyr ddim yn cael digon o barch.

"Drwy'r pandemig mae gweithwyr cymdeithasol wedi gweithio'n galed iawn. Ry'n yn cydnabod fod prinder gweithwyr yn broblem ar draws Cymru ar hyn o bryd."