Olew a phetrol yn llygru nant ar 么l t芒n mewn ffatri
- Cyhoeddwyd
Mae olew a phetrol wedi llygru nant a lladd pysgod ar 么l t芒n mewn ffatri ailgylchu.
Fe gydiodd y t芒n yn Yst芒d Ddiwydiannol Penallta, Caerffili am 15:13 ddydd Mercher.
Dywedodd y diffoddwyr t芒n bod tua 200 tunnell o blastig, eitemau trydanol, batris, silindrau nwy a pheiriannau wedi mynd ar d芒n.
Mae'r broses lanhau eisoes ar waith gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymateb Arllwysiadau Cymru a'r gwasanaeth t芒n.
Dywedodd CNC fod "llawer iawn" o olew a phetrol wedi mynd i mewn i nant ger y safle a bod nifer o bysgod marw wedi'u gweld.
Rhybuddiwyd pobl i osgoi dod i gysylltiad 芒 d诺r yn Nant Cylla, un o isafonydd Afon Rhymni, yn ogystal 芒 chyrsiau d诺r cyfagos tra bo'r gwaith glanhau'n cael ei gwblhau.
Dywedodd CNC fod mesurau wedi'u cymryd i amsugno'r olew a phetrol, ac mae argaeau wedi'u hadeiladu mewn nentydd cyfagos.
Mae pibellau hefyd wedi'u gosod i adael i dd诺r gl芒n fynd trwodd.
'Hanfodol' gwarchod yr amgylchedd
Dywedodd David Letellier o CNC ei bod yn "hanfodol" bod preswylwyr a'r amgylchedd yn cael eu gwarchod.
"Byddwn yn parhau i fonitro'r effaith ar ansawdd aer a chyrsiau d诺r lleol dros y dyddiau nesaf," meddai.
Dywedodd rheolwr gorsaf gwasanaeth t芒n de Cymru, Mark Kift, fod y criwiau wedi gweithio'n "ddiflino" i fynd i'r afael 芒'r t芒n a'i atal rhag lledaenu.
"Mae'r t芒n bellach wedi'i ddiffodd ac mae'r diffoddwyr wedi gadael y lleoliad," meddai Mr Kift.
"Mae'r broses lanhau bellach ar y gweill a hoffwn atgoffa trigolion lleol fod y ffatri ailgylchu yn parhau ar gau ar yr adeg hon, ac i ddilyn unrhyw ganllawiau gan CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch 芒'r ardal gyfagos."
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth t芒n: "Oherwydd maint y t芒n, parhaodd y deunyddiau oedd ar d芒n i fudlosgi ac roedd yn rhaid i griwiau weithio mewn partneriaeth i benderfynu ar gamau gweithredu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021