大象传媒

Pennaeth Cyngor Celfyddydau i ymddeol am resymau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Sian TomosFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd disgwyl i Sian Tomos ddechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi

Mae prif weithredwr nesaf Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu ymddeol cyn dechrau ar ei swydd newydd.

Cafodd Sian Tomos ei phenodi ym mis Mehefin, ac roedd disgwyl iddi ddechrau ym mis Medi.

Ond mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru bod Sian Tomos yn ymddeol am resymau iechyd.

Dywedodd y cadeirydd, Phil George, bod Mrs Tomos wedi dioddef "materion iechyd gwanhaol" ers y penodiad, a dod i'r casgliad na fyddai modd ymgymryd 芒'r gwaith yn y modd yr oedd hi wedi gobeithio.

Cyn ei phenodiad yn brif weithredwr, roedd Sian Tomos yn gyfarwyddwr datblygu celfyddydau.

Dywedodd Mr George y byddai cyfarfod i drafod y sefyllfa'r wythnos hon, er mwyn dechrau ar y broses o benodi prif weithredwr.

Pynciau cysylltiedig