´óÏó´«Ã½

Al Lewis: Y galar a'r gân

  • Cyhoeddwyd
Al LewisFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan

"O'n i o hyd yn credu cyn colli Dad fod poen galar yn rhywbeth oedd yn lleihau'n raddol dros amser; be' dwi wedi sylweddoli ers hynny yw bod galar byth yn mynd i ffwrdd."

Mae'r canwr Al Lewis wedi osgoi siarad am golli ei dad am bymtheg mlynedd ond wedi sylweddoli'n ddiweddar bod cadw'r boen dan glo ddim yn helpu.

Mewn darn i Cymru Fyw, mae Al yn trafod ei golled a beth mae wedi dysgu o'i alar.

Galar. Wal enfawr i'w throsi ellith neb ei hosgoi yn anffodus.

Mae hi wedi bod yn daith hir a brwydr gymhleth wrth i mi brosesu fy ngalar.

Colles i fy nhad pan o'n i'n 21 oed.

Mi oeddwn i newydd raddio o'r coleg ac o fewn 'chydig wythnosau roedd Dad wedi marw (oherwydd cymhlethdodau yn deillio o'i MS - afiechyd ar y pryd oedd yn gymhleth ac yn greulon iawn ar Dad, er dwi'n falch o ddweud fod 'na lawer o ddatblygiadau positif wedi bod yn y maes triniaeth erbyn heddiw).

Does gennai'm brodyr na chwiorydd a 'nath Mam a Dad ysgaru pan o'n i'n ifanc iawn, felly fy nghyfrifoldeb i oedd hi i glirio tÅ· Dad.

Ar y pryd doedd gennai'm y cryfder meddwl na'r awydd i glirio'r tÅ· yn gyfan gwbl - oedd y boen o fynd drwy'r pethe i gyd yn llawer rhy amrwd.

Felly neshi benderfynu rhentu'r tÅ· allan a rhoi rhan sylweddol o bethe Dad yn yr atig.

Wrth edrych nôl, dyna oedd fy ffordd i o ddelio ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Al Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Al Lewis a'i dad

Dydy galar byth yn mynd i ffwrdd

Rhoi popeth i mewn i ryw focs mewn cornel dywyll o fy ymennydd fel mod i'm yn gorfod prosesu'r poen.

Pymtheg mlynedd yn hwyrach, yn ystod y pandemig, wnes i'r penderfyniad o werthu tŷ Dad... a dringo'r ysgol 'na nôl fyny i'r atig am un tro olaf ac wynebu'r galar unwaith eto.

Mi oedd hi fel bo' Dad 'mond wedi marw wythnos d'wetha, dyna sut ma'r galar yn medru'ch taro chi weithie.

O'n i o hyd yn credu cyn colli Dad fod poen galar yn rhywbeth oedd yn lleihau'n raddol dros amser; be' dwi wedi sylweddoli ers hynny yw bod galar byth yn mynd i ffwrdd.

Mae o hefyd yn gallu ail-gydio ar adegau annisgwyl...

Yn ystod gwylio rhaglen deledu, wrth wrando ar ddarn o gerddoriaeth, neu drwy weld fy merched yn gwenu fel oedd Dad yn gwenu.

Mae fy mhlant yn un o'r rhesymau pennaf pam 'nes i benderfynu wythnos diwethaf i sgwennu am Dad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dwi isho i'r merched wybod pwy oedd 'Taid' ac felly dim ond wrth siarad amdano (er mor boenus weithie fydd hi) y medra i gadw ei ysbryd o'n fyw iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Al Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Al Lewis

Mae gan alar gymaint o agweddau..

Ma' canu a chyfansoddi o hyd wedi bod o gymorth i mi wrth drio leddfu'r boen.

Dyna'r prif reswm pam wnes i'r penderfyniad, yn syth ar ôl colli Dad, i drio gwneud gyrfa o fod yn gerddor a chyfansoddwr.

'Da ni wedi ein hadeiladu fel pobl i greu cysylltiadau a chyffredinedd ac er bod pawb yn prosesu galar mewn ffyrdd gwahanol, mae rhannu fy nheimladau a'u mynegi drwy fy nghaneuon sicr yn fy helpu.

Mae gymaint o bwy ydw i heddiw a'r hyn dwi wedi'i wneud yn fy mywyd hyd yn hyn wedi cael ei lunio drwy ei golli.

Mae gan alar gymaint o agweddau (rhai dwi'n dal i brosesu hyd at heddiw) ond gall galar ddarparu cryfder yn wyneb adfyd ac yn sicr rydw i wedi tynnu o'r cryfder hwnnw dros y blynyddoedd.

Eleni, dwi wedi penderfynu bod yn llawer mwy agored ynglŷn â fy ngalar o fewn fy nghyfansoddi yn y gobaith, trwy rannu fy ngholled, y bydd rhywun sy'n gwrando yn cael rhywfaint o gysur o'r caneuon.

Gwrandewch ar Al Lewis ar raglen Bwrw Golwg am 12:30, Dydd Sul, 12 Medi ar Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig