大象传媒

Swyddogion meddygol o blaid brechu plant 12-15 oed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plentyn yn cael ei frechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant bregus dros 12 oed eisoes yn gymwys ar gyfer cael brechiad Pfizer/BioNTech

Mae pedwar prif swyddog meddygol y DU yn dweud y dylid brechu pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed rhag Covid-19.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ynghyd 芒'r swyddogion cyfatebol yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn argymell dos cyntaf o'r brechiad Pfizer-BioNTech i blant yn yr oedran dan sylw.

Maen nhw eisiau i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) roi barn ynghylch a oes angen ail ddos, ond ni fyddai hynny'n digwydd cyn tymor y gwanwyn.

Maen nhw'n dweud bod hi'n "debygol y bydd brechu'n helpu lleihau trosglwyddiad Covid-19 mewn ysgolion".

Fe wnaethon nhw ychwanegu: "Mae brechu cyfran sylweddol o ddisgyblion yn debygol o leihau'r tebygolrwydd o'r fath ddigwyddiadau sy'n debygol o achosi clystyrau lleol mewn, neu'n gysylltiedig ag, ysgolion.

Mae brechu, maen nhw'n dweud, "yn debygol o leihau (ond nid dileu) amhariad i addysg".

135,000 o blant

Yn eu datganiad, ychwanegodd y Prif Swyddogion Meddygol: "Os yw gweinidogion yn derbyn y cyngor hwn, mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc 12-15 oed a'u rhieni'n cael eu cefnogi wrth wneud penderfyniadau, beth bynnag yw'r penderfyniadau, a ddim yn wynebu stigma am dderbyn neu wrthod cynnig o frechiad.

"Rhaid derbyn dewisiadau unigol."

Mae yna oddeutu 135,604 o bobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gweinidogion Cymru yn ystyried yn ofalus y cyngor a gafwyd heddiw gan y pedwar prif swyddog meddygol, ochr yn ochr 芒'r cyngor blaenorol gan y JCVI cyn penderfynu a ddylid bwrw 'mlaen gyda rhaglen frechu i blant 12-15 oed."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r cyhoeddiad yn "ddatblygiad positif", a dywedodd eu llefarydd iechyd Russell George AS y dylai "rhieni a phobl ifanc nawr benderfynu gyda'i gilydd os ydyn nhw am gael brechlyn".

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei bod yn "croesawu'r penderfyniad" ac yn falch o weld bod "ein Prif Swyddog Meddygol wedi cadarnhau bod hawliau plant yn chwarae r么l o fewn penderfyniadau yng Nghymru".