大象传媒

Beth ydych chi'n wybod am Owain Glynd诺r?

  • Cyhoeddwyd
Owain Glynd诺r

Gan ei bod hi'n Ddiwrnod Owain Glynd诺r, a sawl stori anghredadwy amdano, mae Cymru Fyw wedi penderfynu gwahanu'r gwir o'r gau am ei fywyd.

Dyma naw 'ffaith' am hanes Owain Glynd诺r, ond ydych chi'n gallu gwahaniaethu'r gwir o'r gau am y Cymro olaf i fod yn Dywysog ar Gymru?

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y goeden y cuddiwyd corff Hywel Sele ynddi

1. Lladdwyd Hywel Sele, un o gefnogwyr Owain Glynd诺r, gan b锚l ganon, wrth amddiffyn Castell Aberystwyth.

Anghywir

William Gwyn ap Rhys Llwyd oedd y person a laddwyd gan b锚l ganon yn Aberystwyth yn 1408.

Ceisiodd Hywel Sele lofruddio Glynd诺r yn Nannau yn 1401 - ond roedd Owain wedi llwyddo i'w ladd ac yna cuddio ei gorff mewn coeden.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brenin Ffrainc, Siarl VI

2. Anfonodd Brenin Ffrainc fyddin i gefnogi Glynd诺r yn 1405.

Cywir

Anfonodd Siarl VI, Brenin Ffrainc, fyddin o dros 2500 o filwyr i gefnogi Glynd诺r yn ei wrthryfel.

Fe lanion nhw yn Aberdaugleddau ym mis Awst 1405 ac ymladd gyda byddin Owain trwy dde Cymru ac ar draws y ffin i mewn i Loegr cyn belled 芒 Chaerwrangon.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arbais Gwynedd ar y chwith, ac un Glynd诺r ar y dde

3. Newidiodd Owain Glynd诺r faner Gwynedd i'w ddefnyddio fel ei arfbais.

Anghywir

Owain Lawgoch, un o ddisgynyddion T欧 Gwynedd, a newidiodd y faner yn 么l pob s么n.

Defnyddiwyd y faner wrth ymladd dros y Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y 1370au. Newidiwyd y pedwar llew fel eu bod yn ymosodol (yn sefyll ar un droed gefn gyda thri troed yn yr awyr) - yn lle'n amddiffynnol (cerdded gyda thair troed ar y ddaear a dim ond y droed flaen dde wedi'i chodi).

4. Brwydrodd Owain Glynd诺r yn erbyn byddin Lloegr a Richard II ar ei ymgyrch yn erbyn yr Alban.

Anghywir

Roedd Glynd诺r yn rhan o fyddin Richard II yn ystod ei ymgyrch i'r Alban.

Fel uchelwr (roedd Owain yn Arglwydd Cynllaith a Glyndyfrdwy) roedd yn rhaid iddo gasglu milwyr ac ymladd yn enw Brenin Lloegr pan fo angen.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sycharth

5. Yn 1403, llosgodd Henry V gartrefi Glynd诺r yn Sycharth a Glyndyfrdwy i'r ddaear.

Cywir

Ym mis Mai 1403, dinistriodd Tywysog Harri a'i ddynion blasty Glynd诺r yn Sycharth, ac yna ei fwthyn hela yng Nglyndyfrdwy. Cafodd y tir o gwmpas ei ddifetha hefyd, a lladdwyd nifer o gefnogwyr Owain.

6. Curodd byddin Glynd诺r 1,500 o Saeson gyda dim ond tua 120-500 o filwyr.

Cywir

Ym Mehefin 1401, trechodd byddin fach Glynd诺r fyddin y Saeson mewn brwydr enwog ar Fynydd Hyddgen. Gan fod milwyr y Saeson wedi gwisgo arfau trwm, roedd corsydd y mynydd yn gwneud symud yn anodd iddynt.

Lladdwyd dros 200 o'r Saeson a chafodd y rhan fwyaf o'r gweddill eu dal fel carcharorion.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Castell Harlech

7. Ysgrifennodd y bardd, Iolo Goch, gerdd ryddiaith enwog am gartref Glynd诺r yn Harlech.

Anghywir

Ysgrifennodd Iolo Goch gerdd am gartref Glynd诺r yn Sycharth. Ni wnaeth Owain Gastell Harlech yn gartref iddo tan 1404, a bu farw Iolo ychydig flynyddoedd ynghynt.

8. Astudiodd Glynd诺r y gyfraith ac roedd yn rhugl mewn pedair iaith.

Cywir

Astudiodd Glynd诺r fel prentis yn y Gyfraith yn Inns of Court yn Llundain am nifer o flynyddoedd ac roedd yn rhugl yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Lladin.

Cafodd ei gymryd o dan adain Syr David Hanmer, cyfreithiwr amlwg a thad-yng-nghyfraith Owain yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Owain Glynd诺r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

T诺r Llundain

9. Bu farw Glynd诺r a'i fab hynaf, Gruffudd, yn Nh诺r Llundain rywbryd tua 1415.

Anghywir

Cipiwyd Gruffudd ym mrwydr Pwll Melyn yn 1405, ac fe'i cadwyd yn Nh诺r Llundain o hynny hyd ei farwolaeth tua 1412.

Yn 1409, ymunodd ei fam, dwy o'i chwiorydd a thair nith, 芒 Gruffudd yn y T诺r, a bu farw pob un ohonynt yno hefyd cyn 1413.

Ni ddaliwyd Glynd诺r erioed gan y Saeson ond credir iddo farw yn nh欧 un o'i ferched ym mis Medi 1415.