大象传媒

Pum peth y gallai Llafur a Phlaid Cymru gytuno arnynt

  • Cyhoeddwyd
Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai鈥檙 fargen ei gwneud hi鈥檔 haws i Lafur Cymru reoli鈥檙 Senedd

Bum mlynedd ers etholiad y Senedd yn 2016 ac mae Llafur unwaith eto yn siarad 芒 Phlaid Cymru i geisio taro bargen i helpu gweinidogion Llafur i lywodraethu.

Mae'r amgylchiadau'n wahanol y tro hwn.

Yn 么l yn 2016 bu bron i Carwyn Jones golli ei swydd fel prif weinidog gan ymdrech annhebygol Plaid Cymru, y Ceidwadwyr ac UKIP.

Yn dilyn etholiad 2021 roedd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi cytuno i Mark Drakeford ddychwelyd fel prif weinidog.

Ond nid yw hynny'n golygu y bydd popeth y mae'r llywodraeth eisiau ei wneud yn pasio heb gymorth o ryw fath.

Mae Llafur yn wynebu naill ai taro bargen achos wrth achos, fel y mae wedi'i wneud o'r blaen, neu rywbeth mwy ffurfiol a sefydlog.

O ddatganiad dydd Mawrth mae'n edrych fel bod Llafur eisiau'r olaf - cytundeb sy'n brin o fargen glymblaid a allai roi mwy o sicrwydd i weinidogion.

Dyma bum peth a allai godi yn y trafodaethau ac un mater mawr - annibyniaeth - na fydd Llafur a Phlaid Cymru yn cytuno arno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pwerau'r Senedd yn fwy na phwerau gwleidyddion Bae Caerdydd 20 mlynedd yn 么l

1. Diwygio'r Senedd

Mae Plaid Cymru wedi galw ers amser am Senedd fwy gyda mwy o wleidyddion, fel y mae lleisiau eraill o blaid datganoli dros y blynyddoedd.

Mae bob amser wedi bod yn fater anodd i wleidyddion, yn enwedig ers sgandal treuliau 2009.

Ond mae wedi ei gymeradwyo gan Mark Drakeford ar 么l i'r etholiad olygu mwyafrif o ASau a oedd o blaid mwy o bwerau i'r Senedd.

Gallai diwygio olygu mwy o aelodau'r Senedd, a system bleidleisio newydd a fyddai'n adlewyrchu'n well sut roedd pobl wedi pleidleisio.

Credir ei fod yn rheswm allweddol pam mae gan Blaid Cymru ddiddordeb mewn gweithio gyda Llafur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A allai'r pleidiau gytuno ar ddiwygio gofal cymdeithasol?

2. Gofal cymdeithasol

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiwygio'r system gofal cymdeithasol yn sylweddol.

Er i Lafur feirniadu Plaid Cymru ar y pryd, mae gan y ddwy blaid nodau tebyg o ran eisiau gweld system sydd am ddim pan fo'r angen.

Dywedodd maniffesto Llafur ei bod am weld datrysiad ledled y DU, ond dywedodd hefyd y byddai'n gweithredu pe na bai llywodraeth y DU yn gwneud hynny.

Y cwestiwn yw beth mae gweinidogion yn meddwl y gallen nhw'i fforddio, a sut y byddai hynny'n cyd-fynd 芒 gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig, os o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi addo diwygio'r dreth gyngor, sy'n helpu i ariannu casgliadau sbwriel

3. Newidiadau i'r dreth gyngor

Mae'r ddwy ochr wedi ymrwymo i ddiwygio y dreth gyngor - a feirniadwyd yn hir am fod yn seiliedig ar werth eiddo yn hytrach na'r gallu i dalu.

Dywedodd Plaid Cymru yn yr ymgyrch etholiadol ei bod am leihau biliau cyfartalog trethdalwyr trwy ddiwygio'r system.

Ymrwymodd Llafur hefyd i ddiwygio'r dreth gyngor.

Nid yw'r naill na'r llall wedi dweud sut, gan roi'r lle iddynt daro bargen pe byddent yn dewis gwneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae llawer ar y chwith wedi galw am weithredu radical ar brydau ysgol am ddim

4. Prydau ysgol am ddim

Daeth prydau ysgol am ddim yn fater totemig i lawer ar y chwith yn ystod 2020, tra bod pandemig Covid yn achosi hafoc yn yr economi.

Roedd Plaid Cymru eisiau prydau bwyd am ddim i'r holl ddisgyblion cynradd. Mae Llafur wedi bod yn llai parod i wneud ymrwymiad mor eang.

Ond mae gweinidogion wedi bod dan bwysau gan eu rhengoedd eu hunain ar y mater.

Mae Llafur wedi dweud y byddai'n ymestyn cymhwysedd cyn belled ag y byddai adnoddau'n caniat谩u - ble allai'r ddwy ochr gwrdd?

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton / Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ail gartrefi wedi bod yn gynyddol ddadleuol yn ystod y blynyddoedd diwethaf

5. Ail gartrefi

Mae'r mater wedi dod yn hynod ddadleuol ym mherfeddwlad Plaid Cymru yng ngorllewin a gogledd orllewin Cymru.

Mae Llafur yn credu bod angen gwneud rhywbeth ac yn bwriadu treialu polis茂au newydd.

Mae'n rhywbeth y gallech chi weld Plaid Cymru eisiau llusgo Llafur i weithredu'n galetach arno.

Mae'r blaid wedi cynnig cap ar ail gartrefi a chau bwlch sy'n caniat谩u i berchnogion tai gofrestru eu tai fel busnesau er mwyn osgoi premiymau treth gyngor.

Ni fydd cytuno ar annibyniaeth

Bydd gwrthwynebwyr Llafur Cymru yn codi aeliau dros unrhyw fargen 芒 phlaid sydd am i Gymru adael y DU.

Er y bydd Plaid Cymru a Llafur yn debygol o alw am fwy o ddatganoli, nid yw gwthio am annibyniaeth i Gymru yn rhywbeth a fydd yn rhan o'r fargen hon.

Er bod ychydig o leisiau o blaid annibyniaeth yn Llafur Cymru, maent y tu allan i gr诺p y Senedd.

Mae Mark Drakeford, er ei fod yn feirniadol o lywodraeth y DU, yn unoliaethwr ac yn syml nid yw ar ei agenda.