大象传媒

Arddangosfa o lythyrau caru mewn adfail ar ochr mynydd

  • Cyhoeddwyd
Angharad Tomos ym MrynllidiartFfynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angharad Tomos tu allan i'r tyddyn, a rhan o lythyr caru Silyn

Mewn oes pan mae cyplau yn dangos eu gwir gariad drwy yrru emoji, mae adlais o'r hen ffordd Gymreig o wneud pethau i'w weld mewn murddun yn Nyffryn Nantlle.

Roedd Brynllidiart yn gartref i R Silyn Roberts aeth yn ei flaen i fod yn brifardd, gweinidog a sosialydd wnaeth helpu addysgu'r dosbarth gweithiol.

I nodi 150 mlynedd ers ei eni, mae dyfyniadau o'i lythyrau caru wedi eu gosod mewn arddangosfa awyr agored yn yr union dyddyn ble cafodd nhw eu hysgrifennu dros ganrif yn 么l.

Yr awdur Angharad Tomos, o Benygroes, sydd wedi creu'r arddangosfa ar 么l dod o hyd i dros hanner cant o lythyrau caru Silyn at ei ddarpar wraig Mary, yn Archifau Prifysgol Bangor.

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Brynllidiart tua milltir i ffwrdd o'r ffordd agosaf

Meddai Angharad: "Maent yn llythyrau arbennig iawn gan sgwennwr naturiol, ac fe'u cadwyd yn ffyddlon gan ei wraig am dros drigain mlynedd cyn iddi eu cyflwyno i'r Archifdy. Wrth i mi eu rhannu ag ambell ffrind, yr ymateb a gawn oedd 'Rhaid cyhoeddi y rhain'."

Felly fe ysgrifennodd frawddegau o'r llythyrau ar hen lechi to a'u gosod tu allan i'r adfail diarffordd - tyddyn uchaf Dyffryn Nantlle - ar 么l eu cario yno am filltir gan nad oes posib mynd i'r lleoliad efo car.

Mae hi hefyd wedi sgwennu rhai llythyrau cyflawn mewn llyfr a'i osod mewn bocs plastig wrth y murddun i unrhyw un ei ddarllen.

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r llythyrau wedi eu cop茂o yn 'Llyfr Du Brynllidiart' gan Angharad Tomos

Mae Silyn a'i wraig Mary yn cael eu coff谩u am osod sylfeini'r WEA, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, yn y gogledd pan yn byw yn Nhanygrisiau ar 么l priodi.

Silyn, adawodd Ysgol Nebo yn 14 oed i fynd i'r chwarel, oedd un o'r cyntaf i ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Bangor a chafodd ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol 1902.

Roedd Mary Parry yn un o Gymry Llundain ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn priodi.

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mary ac R Silyn Roberts

Fe ddisgynnodd y ddau mewn cariad ar 么l cyfarfod mewn fferm yn Nyffryn Nantlle pan oedd Mary yn ddeunaw oed ac yn ymweld 芒 pherthnasau tra'r oedd hi ar wyliau.

"Mae'n stori garu anhygoel," meddai Angharad. "Mae'n werth gwneud y daith hanner ffordd i fyny'r mynydd i gael eu darllen. Mae yna wefr arbennig i'w chael o ddarllen y llythyrau hyn sgwennwyd ganrif a chwarter yn 么l o'r union fan hon.

"Ar un wedd, maent yn hynod fodern, ar y wedd arall, roedd yn oes heb drydan na ffordd. Maent yn cyfeirio at Baris, at Dde America, at Affrica, eto caent eu sgwennu yn y man mwyaf diarffordd o fewn golwg y Wyddfa. Rhyfeddol - dyna'r unig ffordd o'u disgrifio."

Ffynhonnell y llun, Marika Fusser
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau brifardd wedi eu magu yn y bwthyn diarffordd Brynllidiart - R Silyn Roberts a'i nai Mathonwy Hughes

Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o'r llythyrau rhwng 1897 a 1900, ond dim ond rhai Silyn at Mary sydd wedi dod i'r golwg.

"Maent yn trafod popeth dan haul, sydd ym myd pobl ifanc," meddai Angharad. "Eu gobeithion a'u breuddwydion am y dyfodol, cariad at Mary, a'r awydd cyson i'w gweld, hiwmor, hiraeth, digalondid, rhyfeddod - mae'r cyfan yma, wedi ei fynegi yn gywrain a difyr a deifiol, fel y disgwyliech gan fardd. Wedi eu plethu rhwng y dyfyniadau, mae darnau o gerddi Silyn."

Mae'r arddangosfa yn agored bob awr o'r dydd a'r nos.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig