Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arweinwyr uned Hergest 'wedi'u symud' yn dilyn marwolaeth
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae rhai o arweinwyr uned iechyd meddwl yn y gogledd wedi eu symud o'u swyddi ar 么l i glaf farw yno.
Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan 大象传媒 Cymru, mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead yn cadarnhau'r newid staff ar 么l i'r claf benywaidd lwyddo i "grogi ei hun" fis Ebrill eleni.
Hi oedd yr ail glaf i farw mewn amgylchiadau tebyg o fewn chwe mis wedi i'r bwrdd gael ei gymryd allan o fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i'r hyn ddigwyddodd.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y bwrdd iechyd "yn parhau'n destun ymyrraeth", a bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau mwy o welliannau.
Ond mae Plaid Cymru yn dweud bod y bwrdd wedi cael ei dynnu allan o fesurau arbennig yn rhy gynnar.
Yn dilyn y digwyddiad ar ward Aneurin fis Ebrill fe ddaeth adolygiad brys i'r casgliad fod nifer o faterion i ymchwilio ymhellach iddyn nhw, gan gynnwys bod y claf wedi mynegi syniadau am ladd ei hun, ond nad oedd hi ar wely pwrpasol i'w chadw'n ddiogel ar y ward.
Mewn llythyr at yr Arolygiaeth Gofal Iechyd, mae Ms Whitehead yn dweud bod pennaeth gweithrediadau'r gorllewin wedi ei "atal" o'i swydd tra bod ymchwiliadau'n parhau a phennaeth nyrsio'r gorllewin wedi ei "symud i waith gwahanol".
Mae Ms Whitehead yn esbonio bod "trefniadau meddygol eraill wedi cyflwyno" a bod 'na "ragor o sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth gryfach" ar draws yr adran.
Roedd cefnogaeth hefyd yn cael ei gynnig i'r staff.
Adroddiadau beirniadol
Fe ddaeth llythyr Ms Whitehead mewn ymateb i bryder gan aelod arall o staff a ysgrifennodd ati yn ddienw yn galw am "sefydlogrwydd".
Yn y llythyr, mae'r gweithiwr dienw yn honni bod yna "ddiwylliant gwenwynig yn yr adran ac mae angen ei adolygu".
"Mae'r adran yn teimlo'n anniogel ac mae'r bobl sydd 芒'r profiad a'r wybodaeth i gadw'r cyfan i fynd yn cael eu symud o'u swyddi," medd y llythyr dienw.
Yn 2014 fe ddywedodd adroddiad mewnol Holden bod "uned Hergest mewn trafferth ddifrifol", gan rybuddio am "safonau gofal pryderus" yno.
Ni chafodd yr adroddiad erioed ei gyhoeddi'n llawn, ond fe gafodd ei baratoi yr un adeg ag y daeth problemau eraill i'r amlwg yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Yn 2015, cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei osod o dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru, gyda gwasanaethau iechyd meddwl ymhlith y prif bryderon.
Ym mis Tachwedd 2020 cafodd ei dynnu allan o fesurau arbennig er bod y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, wedi disgrifio gwasanaethau iechyd meddwl fel maes oedd yn "dal yn achos pryder".
Fis Rhagfyr 2020 fe agorodd cwest i farwolaeth claf yn uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gafodd ei ddarganfod "gyda rhwymyn o amgylch ei wddf".
'Problem ers blynyddoedd maith'
Mewn ymateb i'r datblygiadau diweddaraf, mae Plaid Cymru, a gafodd afael gyntaf ar y llythyron, yn dweud bod y bwrdd wedi ei dynnu allan o fesurau arbennig yn "rhy gynnar".
Dywed eu llefarydd iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod yn broblem yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers blynyddoedd maith.
"Mi oedd o'n un o'r prif resymau eu bod nhw o dan fesurau arbennig a r诺an 'dan ni'n gofyn mewn difrif oedd hi'n rhy gynnar i dynnu'r bwrdd o fesurau arbennig yn y cyfnod cyn yr etholiad.
"Dwi'n credu ei bod hi. Mae staff yn dweud wrtha i eu bod nhw'n credu ei bod hi."
'Angen gweithredu sylweddol'
Dywedodd Ms Whitehead na fyddai'n briodol "dyfalu am ganfyddiadau'r ymchwiliad annibynnol" tra'i fod yn mynd rhagddo.
"Ni allwn wneud sylw cyhoeddus am faterion staffio unigol ond gallwn sicrhau y bydd pob aelod o staff yn cael eu trin yn deg ac yn unol 芒'n gwerthoedd a'n polis茂au," meddai.
"Rydyn ni'n annog ac yn croesawu staff i godi pryderon ac yn hyderus y bydd yr ymchwiliad annibynnol yn rhoi ffeithiau ac awgrymiadau gwrthrychol i'r bwrdd iechyd."
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "yn parhau'n destun ymyrraeth wedi ei dargedu", yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Dywedodd bod "gwelliannau wedi'u gwneud, ond mae yna bedwar maes allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl, sydd angen gweithredu sylweddol ar ran y corff" ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n parhau i oruchwylio'r rheiny.
Ychwanegodd bod 拢82m y flwyddyn yn rhagor wedi ei ymroddi dros dair blynedd a hanner i gefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo barhau 芒'r gwaith sy'n mynd rhagddo i sicrhau mwy o welliannau.
Bydd "y buddsoddiad sylweddol yma" medd y llefarydd yn cael ei ddefnyddio i wella, ymhlith pethau eraill, gwasanaethau iechyd meddwl.