Gwasanaeth canser arloesol yn cynnig gobaith i filoedd
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd yn rhagor o gleifion canser yng Nghymru yn byw'n hirach ac yn gallu osgoi ymweliadau ysbyty a thriniaethau cemotherapi diolch i wasanaeth arloesol newydd gan y GIG.
Mae gwasanaeth CYSGODI (Cymru Service for Genomic Oncology Diagnoses) yn bwriadu cynyddu'n sylweddol ar eu gallu i gynnal profion genetig.
O ganlyniad, bydd doctoriaid yn gallu adnabod mwy o newidiadau mewn mwy o enynnau nag erioed o'r blaen - cynnydd o 30 i 500.
Trwy well dealltwriaeth o eneteg canser bydd y GIG yn gallu cynnig triniaethau wedi eu teilwra ar gyfer unigolion, sy'n golygu y bydd angen llai o apwyntiadau ysbyty a chemotherapi.
Cynnal mwy o brofion
Mae'n golygu y gall rhai cleifion gyda chanser gradd pedwar barhau i weithio a byw bywyd mor normal 芒 phosib.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn caniat谩u i feddygon brofi am fwy o wahanol fathau o diwmorau nag erioed o'r blaen.
Mae Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (All Wales Medical Genomic Service - AWGOG) o fewn Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, yn bwriadu parhau i ehangu ei gapasiti i gynnal profion dros y 10 mlynedd nesaf.
Dywedodd y prif wyddonydd canser genomegol, Rhian White: "Clefyd y genom ydy canser, ac mae'r gwasanaeth CYSGODI yn golygu y gallwn ehangu ein profi genomegol ar gyfer cleifion gyda chanser.
"Hyd yma dydyn ni ond wedi gallu adnabod newidiadau genetig mewn tua 30 o enynnau, ond mae'r gwasanaeth yn golygu y gallwn nawr adnabod newidiadau mewn tua 500 o enynnau.
"Rydym hefyd yn gallu profi mwy o wahanol fathau o diwmorau felly mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn ymwneud 芒 phrofi canserau'r ysgyfaint, colorectal, melanomas a chwpl o fathau eraill.
"Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gallu dechrau profi ar gyfer ystod llawer mwy eang o diwmorau."
Gwella ansawdd bywyd
Bydd mwy o gleifion sydd 芒 chanser datblygedig yn gallu defnyddio triniaethau amgen yn eu cartref hefyd, yn hytrach na mynd drwy brosesau mwy ymledol.
Gall triniaethau o'r fath fod yn haws eu goddef, a gallent wella ansawdd bywyd cleifion.
Dywedodd Dr Samantha Cox, oncolegydd clinigol yng nghanolfan canser Felindre, a chadeirydd AWGOG: "Mae'r profi genynnol yma yn rhoi'r arfau angenrheidiol i'r timau clinigol er mwyn adnabod y triniaethau gorau.
"Mae i gyd yn ymwneud 芒 chyflwyno meddyginiaeth fanwl gywir er budd cleifion, achos rydym yn gwybod os allwn ni dargedu newidiadau penodol yn y DNA, gallwn ddiffodd y signalau hynny sy'n dweud wrth y celloedd canser i dyfu'n fwy effeithiol.
"Pan fyddwn yn cymharu triniaethau gwrth-ganser newydd gyda rhai mwy traddodiadol fel cemotherapi, rydym yn gwybod bod y canlyniadau yn aml yn well yn nhermau rheoli'r canser yn well a helpu cleifion i fyw'n hirach."
Cafodd Kate Molton o Gaerdydd ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint gradd pedwar yn 2017.
Ar 么l profi samplau gwelodd doctoriaid nad oedd angen trin ei thiwmor gyda chemotherapi.
Neidiodd Ms Molton, 57, ar y cyfle i gael triniaeth amgen.
"Am ei fod yn ganser gradd pedwar, meddyliais y byddwn angen rhaglen hirach o chemo," meddai.
"Roeddwn i ofn mai chemo fyddai'r unig opsiwn pan gefais wybod i ddechrau."
Yn lle hynny cafodd Ms Molton feddyginiaeth i'w gymryd adref, a dros y pedair blynedd ddiwethaf dyw hi ond wedi gorfod cymryd un dabled y dydd.
Mae hynny wedi caniat谩u iddi weithio a byw bywyd normal.
"Mae yna sgil effeithiau ond i roedd hynny'n well na chemotherapi. Rydych chi'n dysgu byw gyda nhw neu mae'n bosib cael meddyginiaeth arall i drin y sgil effeithiau," meddai.
"Mae rhai o'r sgil effeithiau'n gallu bod yn ddychrynllyd, fel y croen yn hollti i lawr ochr eich ewinedd, neu rash ar y corff, ond mae modd cael eli sy'n trin y broblem.
"Mae'n gallu bod yn erchyll ond i mi mae'n well na byw gyda chemo."
Ychwanegodd: "Pe baech chi yn fy ngweld i, fyddech chi ddim yn gwybod bod canser arnaf fi oherwydd y driniaeth yma. Dwi'n byw bywyd hollol normal.
"Y cyflwr mwyaf gwanychol sydd gennyf yw crydcymalau gwynegol."
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: "Mae CYSGODI yn rhoi Cymru ar y blaen yn nhermau profi genomeg yn y DU, ac mae'n cadarnhau ein lle fel arweinydd yn y maes.
"Bydd y gwasanaeth hwn yn cynnig profi arloesol ac opsiynau triniaeth i bobl gyda chanser ac yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ofalu am fwy o bobl gan ddefnyddio'r gwelliannau genomaidd diweddaraf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020