大象传媒

Ambiwlansys 'erioed wedi gweld pwysau fel hyn'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi mynnu nad ydy hi'n "cuddio" a'i bod yn "bendant yn cymryd cyfrifoldeb" am y sefyllfa sy'n wynebu'r gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd Eluned Morgan fod y gwasanaeth "erioed wedi gweld pwysau fel hyn o'r blaen".

"Mae pawb yn y gwasanaeth yn dweud wrtha i fod y pwysau ar hyn o bryd yn waeth nag unrhyw beth sydd wedi'i weld o'r blaen," meddai yn y Senedd.

Roedd y Ceidwadwyr wedi galw ar weinidogion i ddatgan argyfwng yn y gwasanaeth mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher.

Ond cafodd cynnig y Ceidwadwyr ei ddileu gan welliant gan Lafur, ac fe gafodd y cynnig diwygiedig ei basio gyda 37 o blaid a 10 yn erbyn.

Dywedodd Ms Morgan nad oedd hi'n credu y byddai'n briodol datgan argyfwng, ond ei bod yn cydnabod "bod yna broblem yma sydd angen ei ddatrys".

Ychwanegodd y bydd cynllun i fynd i'r afael 芒'r heriau yn cael ei weithredu rhwng nawr a Mawrth 2022.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi'n credu y byddai'n briodol datgan argyfwng

Yn y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher bu aelodau hefyd yn rhoi esiamplau o'r problemau y mae eu hetholwyr nhw wedi eu hwynebu gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn ddiweddar.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George bod y gwasanaeth mewn "argyfwng" ac mai dyma'r achos "ers sawl mis bellach".

Ychwanegodd bod 400 o bobl yng Nghymru wedi disgwyl dros 12 awr am ambiwlans ym mis Gorffennaf eleni.

Gan roi un esiampl o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu, dywedodd fod un o'i etholwyr wedi cael cais i gymryd aelod o'r teulu i'r ysbyty ei hun, er eu bod yn amau ei fod wedi cael trawiad ar y galon.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "weithredu yn syth" er mwyn "sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth ambiwlans maen nhw'n ei haeddu a'i angen".

'Disgwyl am 13 awr am ambiwlans'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y teulu wedi cael gwybod fod achos Dorothy Roberts yn "flaenoriaeth"

Ym mis Gorffennaf bu'n rhaid i Dorothy Roberts, 94, ddisgwyl am 13 awr am ambiwlans wedi iddi syrthio yn gynnar yn y bore a thorri ei chlun.

Ar y pryd roedd hi yng nghartref ei merch, Ann Williams, yn Henllan ger Dinbych.

Cafodd Ann, 72, wybod i gychwyn y byddai'n rhaid disgwyl tua chwe awr, ond bod achos Mrs Roberts yn "flaenoriaeth".

Ar 么l hynny, penderfynodd Ann a'i g诺r, Geraint, godi Mrs Roberts yn ofalus oddi ar y llawr a'i gosod ar wely fel ei bod yn fwy cyfforddus.

Yn 么l Geraint, 73, roedd diffyg gwybodaeth yn ystod y dydd yn rhwystredig.

"'San nhw'n medru dweud wrth bobl be' maen nhw'n debyg o'i gael ac o lle mae'r ambiwlans yn dod, a be' sy'n digwydd wedyn," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ann a Geraint wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Ambiwlans yngl欧n 芒'r oedi

Tua 16:00, daeth ymatebwr i'r t欧 i edrych ar anaf Mrs Roberts, ond bu'n rhaid aros tan 20:00 am yr ambiwlans.

Er eu bod yn credu iddi gael gofal "arbennig" gan y staff meddygol, mae'r teulu wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Ambiwlans i ofyn am esboniad.

"Sut maen nhw'n gallu gadael dynes oedd bron yn 94 yn disgwyl cyhyd am ambiwlans?" meddai Ann.

"Beth wnaeth fy synnu i oedd bod 'na ddim ambiwlansys [yn aros] yn Ysbyty Glan Clwyd pan gyrhaeddais i yno - ble oedden nhw i gyd?"

"Does gen i ddim cwyn efo'r staff," meddai Geraint. "Efallai ei bod hi'n amser cael mwy ohonyn nhw fel bod pobl yn cael eu trin ynghynt."

'Problemau dwfn'

Hefyd yn y ddadl dywedodd AS Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ei fod yn adnabod etholwr oedd wedi gorfod disgwyl 15 awr am ambiwlans.

Dywedodd fod "problemau dwfn" yn y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol, a bod ambiwlansys yn gorfod disgwyl am gyfnodau hir tu allan i ysbytai am nad oes digon o welyau a diffyg gofal cymdeithasol.

"Fe fyddai'n wych gweld mwy o ambiwlansys a pharafeddygon ar gael i ymateb ar y rheng flaen, ond rwy'n ofni mai'r oll fyddai hyn yn ei wneud fyddai ychwanegu at y ciwiau o ambiwlansys tu allan i unedau brys," meddai.

"Mae angen i ni edrych i fyny'r system er mwyn gweld pam ei fod wedi llethu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais ffurfiol am gymorth gan y lluoedd arfog

Ychwanegodd aelod Llafur Dwyrain Abertawe, Mike Hedges nad ydy Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio'n effeithiol ac y dylai'r byrddau iechyd redeg y gwasanaeth.

Dywedodd yn y Senedd fod nifer o bobl yn mynd i unedau brys am mai "dyna'r unig le rydych chi'n sicr o gael gweld meddyg", gyda nifer yn cwyno nad oes modd gweld eu meddyg teulu.

"Yn ffodus, am y tro cyntaf ers i mi gael fy ethol, mae gennym ni weinidog iechyd rwy'n si诺r y bydd yn mynd i'r afael 芒'r problemau," meddai.

'Symptom o broblem ehangach'

Daw wedi i brif weithredwr yr ymddiriedolaeth ambiwlans, Jason Killens ymddiheuro bod cleifion wedi gorfod disgwyl cyhyd am gerbydau brys dros y misoedd diwethaf.

"Mae'r pwysau eithriadol ry'n ni'n ei weld ar y gwasanaeth ambiwlans yn symptom o broblem ehangach ar draws gofal brys yma yng Nghymru," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn credu mai'r datrysiad tymor hir ydy "i drin mwy o gleifion yn y gymuned".