大象传媒

Ysgolion yn 'fregus iawn' yn sgil achosion o Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Covid: 'Dan ni 'di bod yn eitha' agos at orfod cau ysgol'

Mae ysgolion mewn sefyllfa "fregus iawn" oherwydd niferoedd uchel o achosion Covid ymhlith disgyblion a staff, yn 么l arweinydd addysg lleol.

Sir Ddinbych yw'r ardal ddiweddaraf i ofyn i ysgolion gryfhau mesurau gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter.

Mae'r ffigyrau diweddaraf ledled Cymru yn dangos cynnydd mawr mewn achosion Covid ymhlith pobl o dan 16 oed.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod rhaid ystyried "effeithiau eraill" oni bai am Covid all effeithio plant yn y tymor hir os nad ydynt yn yr ysgol.

'Yr her yn fwy nag erioed'

Mae 50% o ddisgyblion wedi profi'n bositif am Covid mewn rhai dosbarthiadau, yn 么l y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Sir Dinbych.

Ychwanegodd bod mwy o achosion positif yn ystod pythefnos a hanner cyntaf y flwyddyn academaidd hon, na thrwy gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Ar Dros Frecwast, dywedodd y byddai'n "rhaid i ni edrych ar gau rhai [ysgolion uwchradd] yn yr wythnosau sydd o'n blaenau ni" oherwydd bod y sefyllfa mor ddifrifol.

"Mae'r staff yn mynd i lawr, mae'r plant yn mynd i lawr... ac mae'n warthus i feddwl bod teuluoedd 'efo Covid yn gallu gyrru plant i mewn ar 么l iddyn nhw brofi'n bositif adref."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i athrawon orfod aros i ffwrdd o'r gwaith i hunan-ynysu, dywedodd bod "pwysau ychwanegol".

"Does dim digon o staff, does dim modd cael athrawon llenwi gan asiantaethau ar hyd y gogledd, 'dan ni ddim yn gallu darparu addysg Gymraeg mewn rhai ardaloedd oherwydd bod dim modd cael staff ar fyr rybudd.

"Y neges gan Lywodraeth Cymru yw bod ysgolion yn 么l i normal - dyw hyn ddim yn gywir."

Dywedodd bod y pwysau'n cynyddu eto gydag arolygon yn ailddechrau, newidiadau i'r drefn i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol a'r cwricwlwm newydd.

"Mae'r her ar hyn o bryd yn fwy nag y bu erioed ym myd addysg," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn credu fod y broblem yn waeth i ysgolion cyfrwng Cymraeg gan ei bod yn anoddach cael staff llenwi pan mae athrawon i ffwrdd hefo Covid.

Galwodd ar y llywodraeth i ail-ystyried mesurau cenedlaethol fel swigod mewn dosbarthiadau.

"Mae'n rhaid meddwl be' 'di'r effaith ar blant, ac athrawon hefyd. Mae pobl mewn swyddfeydd yn gwneud penderfyniadau sydd ddim yn realiti ar lawr gwlad."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan bod rhaid ystyried effeithiau eraill oni bai am Covid ar blant sydd ddim yn yr ysgol

Ledled Cymru ar hyn o bryd, mae dros 40% o blant a a phobl ifanc rhwng 10 a 19 oed wedi cael profion positif.

Mae ffigyrau presenoldeb ar gyfer 13 i 17 Medi yn dangos bod 89% o ddisgyblion ar gyfartaledd yn bresennol mewn ysgolion yng Nghymru.

Wrth ymateb ar Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd nad oedd hi'n derbyn mai neges y llywodraeth oedd bod y sefyllfa yn 么l i normal.

Dywedodd Eluned Morgan bod gan awdurdodau lleol y gallu i amrywio mesurau Covid "lle mae hynny'n briodol".

Ychwanegodd ei "bod hi'n bwysig bod pobl yn deall nid just Covid yw'r broblem i blant", a bod "effeithiau eraill sy'n gallu effeithio nhw yn y tymor hir os nag y'n nhw yn yr ysgolion - gan gynnwys y ffaith y gallan nhw, dros gyfnod eu bywydau nhw, golli miloedd ar filoedd o bunnau achos bod nhw ddim wedi cael yr addysg gywir".

Byddai gallu brechu plant 12-15 oed yn gynt dros yr haf "wedi bod yn help", meddai, gan arwain at "sefyllfa ble byddai mwy o resistance gan y plant yn yr ysgolion, ond nid dyna oedd yr amserlen o ran y JCVI".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ledled Cymru ar hyn o bryd, mae dros 40% o blant a a phobl ifanc rhwng 10 a 19 oed wedi cael profion positif

Yn 么l pennaeth un ysgol uwchradd ym Merthyr Tudful, mae'r sefyllfa'n "hynod heriol".

Yn Ysgol Gatholig Bishop Hedley mae 87 o achosion positif wedi bod yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae mwy o achosion mewn rhai grwpiau blwyddyn nag eraill, meddai Sarah Hopkins, gyda rhai dosbarthiadau 芒 dim ond hanner y disgyblion yn bresennol.

"Mae gyda chi'r her i staff o gael hanner dosbarth o'u blaenau a hanner dosbarth gartref," meddai.

Ychwanegodd bod y rhai oedd yn wynebu arholiadau yn "bryder mawr" oherwydd "colli addysg, eu meddylfryd a'u hiechyd meddwl".

'Newid y cydbwysedd'

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod angen edrych ar niferoedd yr achosion yng nghyd-destun newydd rhaglen frechu lwyddiannus.

"Mae wedi newid y cydbwysedd," dywedodd.

"Bod yn yr ysgol yw'r lle gorau i'n plant a phobl ifanc, mewn lleoliad diogel lle mae'n nhw gallu dysgu gyda'u ffrindiau."