大象传媒

Cariad am ddillad efo 'stori a hanes'

  • Cyhoeddwyd
Branwen DaviesFfynhonnell y llun, Branwen Davies

"Wrth brynu dillad ail-law a phethau vintage mae 'na stori a hanes i ddilledyn ac hefyd mae 'na fywyd wedi bod cynt ac mae rhywbeth eitha sbeshal am hynny. Hefyd ti'n gallu cerdded i mewn i rhywle a gwybod fod neb arall yn mynd i fod wedi gwisgo yr un peth."

Gan fod hi'n fis prynu dillad ail-law (Second Hand September), bu Cymru Fyw'n siarad gyda Branwen Davies, dramodydd a rheolwr llenyddol yn Theatr Sherman, am ei chariad am ddillad ail-law a vintage.

Oxfam sy'n trefnu'r ymgyrch er mwyn annog pobl i brynu dillad ail-law yn hytrach na rhai newydd am 30 diwrnod, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o effaith ffasiwn ar yr amgylchedd.

Mae Branwen, sy' o Sir F么n yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, yn gwerthu dillad ail-law a vintage ac yma mae hi'n rhannu ei chariad am ddillad 'gyda cymeriad'.

Hobi ydy prynu dillad ail-law i fi. Roedd Nain yn arfer gweithio mewn siop Tenovus ym Mhorthmadog ac o'n i wrth fy modd yn mynd trwy'r rails.

O'n i'n arfer gweithio mewn siop dillad Morgan ym Mangor pan o'n i yn y brifysgol ac o'n i'n cael gwisgo fyny a chael bach o hwyl efo'r dillad. Felly er fod diddordeb gyda fi mewn dillad cyn hynny, oedd hwnna'n agoriad llygad i fyd ffasiwn hefyd.

Cyfnod clo

Dros y cyfnod clo o'n i'n edrych ar fy wardrob i, sy'n fwy na wardrob - mae o'n ddau bolyn hir sy'n mynd o un ochr y wal i'r ochr arall ac oedd o dan ei sang.

Falle fod hwn yn gyfle i gael rhyw fath o outlook creadigol gwahanol a gwerthu bach o ddillad. O'n i'n teimlo'n euog mod i ddim yn gwisgo nhw ac oedd o'n ffordd wahanol o arddangos dillad (ar Instagram) a rhoi cyfle i rywun arall i fwynhau nhw.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

Oedd o'n ridiculous bod nhw'n hongian yn fy wardrob i pan fyddai rhywun arall yn gallu mwynhau nhw - dwi 'di neud bach o waith ymchwil yngl欧n 芒 beth mae'n gymryd i wneud darn o ddilledyn (mi fyddai'n cymryd 13 mlynedd i yfed faint o dd诺r mae'n cymryd i wneud un crys-t ac un p芒r o j卯ns).

Mae o'n ddychrynllyd pan ti'n gweld pobl yn gweithio yn y ffatris, jest meddwl o lle mae'r dilledyn yma wedi dod, pa mor bell mae wedi teithio.

Gwastraff

Ac hefyd gymaint o ddillad sy'n cael eu gwastraffu, cael eu llosgi neu difa. Gan bod fi'n mwynhau ffasiwn gymaint o'n i'n meddwl, mae'n rhaid i fi gymryd cyfrifoldeb hefyd yngl欧n 芒 lle dwi'n gwario pres a lle dwi'n prynu dillad.

'Da ni'n gwastraffu gymaint a dwi'n meddwl mae'n rhaid i fi feddwl am ffasiwn mewn ffordd wahanol.

Ychydig flynyddoedd yn 么l 'nes i benderfynu peidio prynu unrhyw beth newydd am flwyddyn - mae Second Hand September yn para mis ond 'nes i wneud hyn am flwyddyn a 'nath e wirioneddol neud fi feddwl ble dwi'n gwario fy mhres a beth dwi'n prynu a pham dwi'n prynu.

Ac hefyd 'nath o neud i fi fod yn fwy dyfeisgar wrth ddewis dilledyn a rhoi pethau at ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

Trysorau

Gan bod fi'n gweithio ym myd y theatr dwi wastad wedi bod 芒 diddordeb mewn gwisg a gwisgo fyny a chreu outfit gwahanol. Dwi ddim yn lico'r syniad o wisgo yr un peth a phawb arall. Dwi'n licio cyffwrdd pethau, lliw a patrwm.

Dwi'n gwerthu y dillad vintage dwi wedi casglu ar hyd y blynyddoedd, ac hefyd y dillad dwi wedi prynu a chadw.

Mae 'na gymuned vintage ffantastig ar-lein a dwi wedi dod i adnabod lot o bobl.

Dwi wedi bod yn lwcus iawn i allu teithio yn y gorffennol a phan dwi'n teithio dwi'n ffeindio ble mae'r llefydd gwerthu dillad ail-law.

Fues i'n lwcus i fyw yn Japan am flwyddyn a dwi'n cofio prynu ffrog 芒 label Hong Hong arni hi a dwi wedi gwisgo hi dro ar 么l tro ac mae hi jest yn gwneud fi'n hapus.

O'n i'n gwisgo hi mewn eisteddfod rhyw dro a 'nath ddynes afael yn fy llaw i a dweud 'ti'n edrych yn ffabiwlys'. Am lyfli a gwnaeth hi fy niwrnod i. Mae o'n un o'r ffrogiau mae pobl yn gwneud sylw ohono.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffrog 'ffabiwlys' Branwen

Mae gen i siaced arall o Japan ac mae hi'n reversible - un ochr mae 'na ddau deinosor ac mae'r ochr arall yn binc. Mae 'na fap o Japan ar y cefn. Mae honno'n ffefryn hefyd - bydd honno'n dod efo fi i'r bedd.

Dwi'n mwynhau cael bargen - dwi'n cofio mynd i siop Tenovus yng Nghaerdydd a dod o hyd i got cashmere hir lliw camel ac 'oedd hi'n ffitio fel maneg.

O'n i'n meddwl, mae hon mor lyfli, yn glasurol ac alla'i gael cymaint o fywyd mas o hwn. 'Nes i sylweddoli mod i'n talu 拢20 amdano fo ac 'oedd o werth cannoedd - teimlad braf.

Dillad y gorffennol

Mae'r dillad wedi cael eu gwneud yn well, mae'r ansawdd yn dda. Maen nhw'n para.

Mae 'na lot o bethau fel patrymau gwahanol, deunyddiau gwahanol, lliwiau gwahanol - maen nhw jest yn unigryw ac mae rhywun yn cael pleser allan o ffeindio rhywbeth sbeshal.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

Ffasiwn 'cyflym'

Mae'n eitha' trist mynd i siop elusen a gweld cymaint o ddillad sy'n dod o'r siopau fast fashion. Dyw nhw ddim yn gallu cael eu gwerthu yn y siopau elusen achos maen nhw mor rhad yn y siopau arferol beth bynnag.

Cyngor

Dyw meintiau dillad vintage ddim yn cyfateb i meintiau r诺an. Fuaswn i'n mynd 芒 thap mesur a mesur dilledyn sy' gyda ti yn erbyn mesuriadau beth mae rhywun yn gwerthu.

Mae gen i obsesiwn efo dillad 60au ond yn aml mae defnydd polyester yn gallu ogleuo yn wael - mae eisiau gwneud yn si诺r fod o wedi cael ei olchi yn iawn. Mae dillad ail law wedi cael bywyd yn barod felly weithie mae 'na waith addasu hefyd.

Dwi'n prynu lot o frethyn Cymreig - mae gen i rhyw dri si么l sy' wastad yn mynd i fod yn boblogaidd a phara'n dda.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies

Ar hyn o bryd mae dillad Laura Ashley yn boblogaidd tu hwnt, yn enwedig pethau o'r 70au. Mae ffrog o'r 70au yn gallu bod yn 拢300.

Mae mwy o s么n hefyd am rhentu dillad - allu di rentu ffrog vintage, mae o'n ffordd wahanol o siopa a meddwl sut ydy ni'n edrych ar ffasiwn.

Pynciau cysylltiedig