Cwestiynau o'r newydd ynghylch dyfodol CPD Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau o'r newydd am ddyfodol Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Dinas Bangor wedi ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.
Bu'r clwb mewn helynt ychydig flynyddoedd yn ôl dan berchnogion blaenorol.
Mewn cyfnod cythryblus, fe adawodd nifer o'u cefnogwyr y clwb mewn protest ar sut oedd pethau'n cael eu rhedeg, gan ffurfio clwb newydd yn y ddinas, Bangor 1876.
Mae gan glwb Dinas Bangor hanes hir a llwyddiannus. Maent wedi ennill cwpan Cymru ar wyth achlysur ac wedi bod yn bencampwyr ar adran uchaf pêl-droed domestig Cymru deirgwaith ers dechrau'r 90au.
Bu'r clwb yn chwarae ar lefel Ewropeaidd hefyd, gan ennill buddugoliaeth enwog yn erbyn tîm Napoli ym 1962.
Ym mis Medi 2019, cafodd yr Eidalwr Domenico Serafino ei benodi'n llywydd ac yn unig gyfarwyddwr ar y clwb. Ac nawr, mae yna bryderon o'r newydd am ddyfodol y clwb dan ei arweinyddiaeth.
Tan fis Mawrth eleni, roedd Serafino hefyd yn berchennog ar glwb pêl-droed Sambenedettese oedd yn chwarae yn Serie C - trydedd adran Yr Eidal.
Ond ddiwedd mis Mawrth eleni, fe wnaeth Ffederasiwn ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Yr Eidal (FIGC) wahardd Serafino rhag bod yn llywydd am chwe mis ar ôl i'r clwb fethu â thalu cyflogau chwaraewyr a staff.
Dywedodd y newyddiadurwr pêl-droed Eidalaidd, Claudio Giambene: "Fe arwyddodd Sambenedetesse lawer o chwaraewyr ar gontractau dwy flynedd, a rhai yn chwaraewyr da.
"Mae hynny'n anarferol yn Serie C lle mae clybiau fel arfer yn ddibynnol ar chwaraewyr ar fenthyg neu ar gontractau blwyddyn yn unig.
"Ond roedd pawb yn meddwl bod Serafino yn anelu at frig yr adran gan iddo arwyddo ymhlith eraill, Maxi Lopez, cyn-chwaraewr gyda Barcelona ac AC Milan.
"Ond ar ôl rhyw ddeufis, doedd y chwaraewyr heb gael eu talu. Dydyn ni ddim yn sôn am safon aur y byd pêl-droed fel Serie A neu'r Premier League fan hyn, bydden nhw'n ennill o bosib €2,000 y mis.
"Roedd nifer o'r chwaraewyr yn rhentu tai yn ardal y clwb ac yn methu fforddio talu rhent. Erbyn diwedd y tymor, roedden nhw'n dibynnu ar gefnogwyr a noddwyr lleol i dalu iddyn nhw fforddio aros yn eu cartrefi."
Ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe aeth clwb Sambenedettesse i'r wal. Maent bellach wedi ailffurfio ond wedi eu gorfodi i ailddechrau o Serie D - lefel isaf pêl-droed yno.
Ac mae Claudio Giambene yn rhybuddio cefnogwyr Dinas Bangor i fod ar eu gwyliadwraeth.
"Petawn i'n gefnogwr Dinas Bangor, byddwn i'n bryderus iawn. Dwi ddim yn gyfarwydd â'r sefyllfa yng Nghymru, ond dwi'n amheus am ei rôl yno."
Dyfarniadau llys sirol - a 'sibrydion negyddol'
Mae Newyddion S4C hefyd wedi canfod bod pum dyfarniad llys sirol yn erbyn CPD Dinas Bangor sydd heb eu talu am gyfanswm o £26,127.
Mae tri o'r dyfarniadau yn dyddio i'r cyfnod cyn i Serafino gymryd yr awenau.
Ond ym mis Awst eleni, dyfarnwyd bod dyled o £3,713 gan y clwb i'w dalu i un hawliwr, cyn i ddyfarniad arall am swm o £18,475 ei wneud ar 5 Medi.
Mewn datganiad, mae Mr Serafino'n dweud ei fod wedi gorfod delio â sibrydion negyddol ers dod yn berchennog, a bod y rheiny'n deillio'n ôl i broblemau dan y cyn-berchnogion.
Mae'n dweud ei fod yn ceisio ailadeiladu'r clwb, wedi talu 90% o'r dyledion hanesyddol ac yn ail-negydu'r gweddill.
Dywed ei fod yn ailadeiladu'r academi, wedi ffeindio llety newydd ac addas i'r chwaraewyr a'i fod wedi rhoi cymorth i'r gymuned leol, gan gynnwys roi arian i'r ysbyty leol.
O ran y sefyllfa yn Yr Eidal, dywed ei fod yn gweithio gyda'i gyfreithwyr i ddatrys y sefyllfa ac yn cymryd camau cyfreithiol am ddifenwi a lledu newyddion ffug honedig.
Ychwanegodd bod y gwaharddiad o chwe mis bellach wedi ei ddileu.
Mae'n gorffen ei ddatganiad drwy ddweud ei fod yn benderfynol o arwain CPD Dinas Bangor yn ôl i Uwchgynghrair Cymru a bod y cyfrifon i gyd mewn trefn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019