Arweinwyr datganoledig yn galw am atal torri credyd cynhwysol

Ffynhonnell y llun, SEAN GLADWELL

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Canghellor Rishi Sunak yn cynllunio atal y taliadau ychwanegol o 拢20 yr wythnos ym mis Hydref

Mae prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw ar Boris Johnson i wrthdroi ei gynllun i dorri credyd cynhwysol.

Mae'r Canghellor Rishi Sunak yn cynllunio i atal yr 拢20 ychwanegol y mae pobl wedi bod yn derbyn yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd.

Mewn llythyr i'r Prif Weinidog, dywedodd arweinwyr y llywodraethau datganoledig bod y toriad yn cael ei weithredu wrth i'r DU wynebu "argyfwng sylweddol costau byw".

Dywedodd Llywodraeth y DU mai mesur dros dro oedd y taliad ychwanegol o 拢20.

Yn 么l yr Is-ysgrifennydd Gwladol David TC Davies mae'r llywodraeth yn bwriadu helpu pobl "mewn ffyrdd eraill."

Mae 5.5 miliwn o deuluoedd yn hawlio credyd cynhwysol yn y DU.

Cafodd y taliad o 拢20 ychwanegol ei ymestyn gan chwe mis ym mis Mawrth, er i'r Canghellor fynnu mai ond mesur dros dro oedd e.

Ond mae ASau o bob plaid yn ogystal ag elusennau ac ymgyrchwyr wedi galw ar Lywodraeth y DU i barhau i ddarparu'r taliad trwy gydol tymor yr hydref.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, a Phrif Weinidog ac Is-brif Weinidog Gogledd Iwerddon Paul Givan a Michelle O'Neill.

'Argyfwng costau byw'

Dywedon nhw yn y llythyr "nad oedd unrhyw reswm am dorri cefnogaeth mor bwysig ar adeg pan mae pobl ar draws y DU yn wynebu straen digynsail ar eu cyllid".

"Rhaid i ni sicrhau bod anghenion ein poblogaeth fwyaf bregus yn cael eu hystyried," dywedodd y llythyr.

"Nid yw'n rhy hwyr i chi wrthdroi'r penderfyniad i gymryd arian allan o bocedi pobl dlotaf y gymdeithas yn ystod adeg pan maen nhw'n wynebu argyfwng difrifol costau byw."

'Dydy'r arian ddim gyda ni'

Yn siarad ar Raglen Dewi Llwyd ar 大象传媒 Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol ac AS Ceidwadol Mynwy David TC Davies ei fod yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Prydain i dynnu n么l y cynnydd o 拢20 i bobl ar gredyd cynhwysol, er gwaetha'r feirniadaeth gan arweinwyr y gwledydd datganoledig.

"'Dan ni wedi gwneud lot i sicrhau fod pobl yn gwella a bod y minium wage yn mynd fyny," meddai.

"Mae miliwn o vacancies ledled Prydain. 'Dan ni wedi dweud ein bod ni wedi rhoi pres ychwanegol yn y pandemig ond hefyd yn dweud fod o methu parhau - dydy'r arian ddim gyda ni".

"Mae pawb yn sylweddoli bod ni methu cario mlaen am byth ond 'dan ni am helpu mewn ffyrdd eraill.

"Dylai neb orfod dewis rhwng bwyd a gwres".