大象传媒

Cynnig brechlyn i bob plentyn 12-15 oed 'cyn hanner tymor'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
merch yn cael pigiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i bob plentyn 12 i 15 oed yng Nghymru gael cynnig brechlyn Covid erbyn diwedd y mis, yn 么l y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

Daw hynny wrth i'r rhaglen frechu ar gyfer plant yn eu harddegau fwrw ymlaen o ddifrif yr wythnos hon, gyda tharged o gynnig pigiad i bawb erbyn hanner tymor mis Hydref.

Fe fydd y rhan fwyaf o'r brechiadau'n cael eu rhoi mewn canolfannau brechu, ac mewn rhai ardaloedd bydd ysgolion hefyd yn cael eu defnyddio.

Mae rhai o'r plant mwyaf bregus eisoes wedi derbyn y brechlyn.

Peryglon Covid hir

Daw hynny wrth i'r gweinidog iechyd ddweud fod "rhai astudiaethau wedi dangos bod lle i gredu bod un o bob saith plentyn sydd wedi'i heintio 芒'r feirws yn datblygu Covid hir".

"Brechlynnau yw'r ffordd orau o hyd o'n diogelu rhag y feirws. Maen nhw'n helpu i atal niwed a lleihau lledaeniad Covid-19," meddai Ms Morgan.

"Mae'n bwysig bod y plentyn a'r rhiant yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac rydyn ni wedi darparu adnoddau i blant a phobl ifanc a'u rhieni i'w cynorthwyo.

"Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod y brechlyn gyda'i gilydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan fod lle i gredu bod Covid hir yn effeithio hyd at un o bob saith plentyn oedd wedi dal yr haint

Ychwanegodd Dr Gill Richardson, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar gyfer Brechlynnau, fod manteision brechu "cynifer o bobl 芒 phosib" eisoes yn amlwg.

"Ar 么l ystyried y dystiolaeth yn ofalus, fe wnaeth pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU argymell brechu plant iach, 12 i 15 mlwydd oed, ar 么l ymgynghori ag arbenigwyr megis Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant," meddai.

"Daethant i'r casgliad bod y manteision iechyd a nodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), ynghyd 芒'r manteision ychwanegol o ran llai o darfu ar addysg a lleihau'r effeithiau ar iechyd meddwl, yn golygu y dylid cynnig brechiadau.

"Bydd plant a'u teuluoedd yn cael gwybodaeth gefndirol, yn ogystal 芒'u gwahoddiad drwy lythyr, fel y gallan nhw benderfynu ar sail tystiolaeth a ydyn nhw am gael y brechlyn ai peidio."