Cymru dan dd诺r: Yr ardaloedd sy' mewn perygl o ddiflannu
- Cyhoeddwyd
Mae delweddau yn gallu dweud mwy na geiriau, fel y mapiau yma sy'n dangos rhannau cyfarwydd o Gymru all fod o dan dd诺r yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd.
Ers blynyddoedd mae rhybuddion bod lefel y m么r am godi yn sgil cynhesu byd eang oherwydd toddi mynyddodd i芒 a chynhesu rhew parhaol, a bod yn rhaid lleihau allyriadau carbon i achub rhai ardaloedd arfordirol.
Mae tywydd eithafol a gorboethi yn mynd i effeithio ardaloedd mewn ffyrdd eraill hefyd - er enghraifft tirlithriadau a lleithder.
Wrth i arweinwyr y byd ac amgylcheddwyr drafod sut i fynd i'r afael 芒'r broblem yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, dyma enghreifftiau o rai o'r lleoliadau yng Nghymru all gael eu heffeithio.
Daw'r mapiau cyntaf gan , gr诺p annibynnol o wyddonwyr a newyddiadurwyr yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi creu gwefan rhyngweithol i ddangos y risg i ardaloedd yn y dyfodol.
Yn 么l adroddiad pwyllgor newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yr IPCC, os fydd gwledydd yn llwyddo i gadw cynhesu byd eang o dan 2 gradd celsiws gallai'r m么r dal godi o gwmpas hanner medr erbyn 2100 - fyddai'n golygu risg i ardaloedd arfordirol fel Pwllheli yn y map yma:
Yn 么l yr IPCC, os fydd allyriadau gwledydd yn uchel iawn yn y dyfodol gall lefelau'r m么r godi o hyd at 2.5m erbyn diwedd y ganrif a 5m erbyn 2150 - fyddai'n cael effaith amlwg ar Ynys M么n, Llandudno, Llanelli a Chaerdydd yn 么l mapiau Climate Central.
Mae gan sy'n dangos ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
Mae'n dangos lefelau risg presennol, yn ogystal 芒'r risg a achosir gan newid hinsawdd yn y dyfodol, sydd angen ei ystyried wrth asesu cynlluniau gan ddatblygwyr yn y dyfodol.
Bydd y mapiau, sydd ar y we ac yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, adrannau cynllunio awdurdodau lleol a datblygwyr, yn cael eu diweddaru ddwywaith y flwyddyn.
Nid ardaloedd arfordirol ydi'r unig lefydd sy'n creu pryder. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu sy'n dangos beth fydd y sefyllfa waethaf posib ar lefel leol ymhen 40 mlynedd o ran stormydd, tirlithriadau ac ansefydlogrwydd pridd os yw'r byd yn dal i ryddhau carbon fel mae ar hyn o bryd.