Andrew RT Davies i 'gymryd saib' dros iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Fe fydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Andrew RT Davies, yn "cymryd saib" o wleidyddiaeth er mwyn delio gyda'i iechyd meddwl.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Davies - sydd wedi dioddef coronafeirws a'r ffliw yn ddiweddar - bod ei salwch wedi cael "effaith ar ei les meddyliol".
"Fel nifer o ddynion, roeddwn i'n credu mod i'n anorchfygol, ac fel nifer eraill sydd wedi dioddef, dwi wedi ystyried a ddylwn ddweud hyn yn gyhoeddus," meddai.
"Ond fel arweinydd, dwi'n credu mewn gosod esiampl a dwi eisiau bod yn agored ac yn onest.
"Felly, o dan orchymyn y meddyg, dwi am gymryd saib o wleidyddiaeth er mwyn gwella a bownsio n么l o'r anawsterau dwi wedi eu hwynebu dros y pythefnos diwethaf."
Fe fydd cyn-arweinydd y blaid Geidwadol yn y Senedd, Paul Davies yn cymryd lle Mr Davies tra ei fod yn gwella.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021