Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen mwy o siaradwyr Cymraeg i helpu dysgwyr
- Awdur, Alun Thomas
- Swydd, Newyddion Radio Cymru
Mae'na alw am ragor o siaradwyr Cymraeg i helpu 芒 chynllun sy'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr ymarfer yr iaith.
Mae rhyw 800 o bobl yn cymryd rhan yng nghynllun Siarad ar hyn o bryd, ond mae'r galw yn cynyddu.
Dechreuodd y cynllun yn 2018, ac mae'n rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd yn rheolaidd i ymarfer eu Cymraeg gyda siaradwyr rhugl.
Dwy sydd yn cymryd rhan yw Judi Davies a Lynsey Normanton Davies o Aberd芒r.
Mae Judi yn dod o ganolbarth Lloegr, ond mae'n byw yng Nghwm Cynon ers yr wythdegau. Fe ddechreuodd hi ar y cynllun fel dysgwr ond erbyn hyn hi yw'r siaradwr rhugl.
"Dwi wedi bod yn rhan o'r cynllun Siarad ers y dechrau," meddai.
Mae'n dweud bod cael bod yn rhan o'r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi pan oedd hi'n dysgu'r iaith.
"Fy nod i wrth ddysgu Cymraeg oedd bod yn rhugl - yn swnio'n naturiol."
"Roedd yn brofiad anhygoel i fod ar y cynllun fel dysgwr - ces i bartner hyfryd gyda llawer o amynedd."
Erbyn hyn mae Judi yn helpu Lynsey i ymarfer ei Chymraeg.
Mae Lynsey yn dod o Ferthyr Tudful, ac mae'n byw yn Aberd芒r ers rhai blynyddoedd
Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg yn 2012 er mwyn helpu ei mab oedd yn cael addysg Gymraeg.
Mae cael cwrdd 芒 Judi yn rheolaidd wedi bod yn newid byd iddi, meddai.
"Mae'n brofiad arbennig. Clywes i am y cynllun pan oeddwn ni'n astudio gyda Chanolfan Gymraeg Morgannwg, ac fe wnes i ffrind newydd o'r enw Judi," dywedodd.
"Rydyn ni'n cwrdd am baned neu i fynd am dro - dwi'n gallu siarad yn rhydd, heb boeni am wneud llawer o gamgymeriadau."
Bellach mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am ragor o bobl i gymryd rhan yn y cynllun, gan fod yna fwy o ddysgwyr na siaradwyr rhugl ar hyn o bryd.
"Dyna un o'r prosiectau pwysig sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau nhw, ac i deimlo'n rhan o'r gymuned Gymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
"Mae rhan bwysig gan siaradwyr Cymraeg i'w wneud wrth groesawu dysgwyr - wrth siarad yn araf gyda nhw ac yn amyneddgar, ac i'w cyflwyno nhw i'r bywyd Cymraeg."
Mae bod yn rhan o'r cynllun yn golygu cwrdd 芒 rhywun sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg o leiaf ddeg gwaith y flwyddyn.
Mae neges Judi Davies i unrhyw un sy'n ystyried ymuno yn glir.
"Go for it! Ewch amdani! Ti'n gwneud ffrindiau newydd, ti'n gallu mynd i'r theatr, ti'n gallu mynd am dro."
"Does dim rhaid i ti wario arian o gwbl, ti'n gallu cwrdd a siarad, ac mae'n helpu i gadw'r iaith yn fyw."