大象传媒

Cymry Newydd y Cyfnod Clo

  • Cyhoeddwyd
iaith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Beca Brown, cyflwynwraig Cymry Newydd y Cyfnod Clo

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgwyr Cymraeg ar 大象传媒 Radio Cymru, mae Beca Brown o SaySomethingInWelsh yn adrodd straeon unigolion sydd wedi dysgu'r iaith yn ystod pandemig Covid-19, mewn cyfres newydd o'r enw Cymry Newydd y Cyfnod Clo.

Dyma Beca Brown yn rhoi blas i Cymru Fyw am beth sydd i'w ddisgwyl o'r gyfres fydd yn cael ei darlledu rhwng 11-14 Hydref am 18.30.

Wrth fy ngwaith gyda chwmni dysgu Cymraeg ar-lein SaySomethingInWelsh, dwi'n gyson ddod i gysylltiad 芒 dysgwyr sydd yn ceisio adfywio'r Gymraeg o fewn eu teulu neu ar eu haelwydydd.

Nhw yn aml ydi'r genhedlaeth a gollodd y Gymraeg o ganlyniad i gred yr oes mai Saesneg oedd yr iaith a fyddai'n dod 芒 llwyddiant i ran person ifanc ar daith bywyd. Mae'r golled yma'n brathu, a nifer fawr yn penderfynu hawlio eu hetifeddiaeth yn 么l iddyn nhw eu hunain, ac yn aml iawn, i'r genhedlaeth nesaf.

Gwelwn rieni yn dewis dysgu Cymraeg wrth i'w plant fynychu ysgolion Cymraeg a neiniau a theidiau yn dysgu ar 么l ymddeol, er mwyn cael siarad yr iaith gyda'u hwyrion. Mae amgylchiadau a chymhellion pob teulu yn amrywio wrth gwrs, ond yr un yw'r balchder o fod wedi ennill y Gymraeg yn 么l.

'Colli iaith'

Dyna thema un o raglenni'r gyfres. Mae trafod profiadau'r dysgwyr yma yn tanlinellu'r ffaith bod llawer mwy i ddysgu Cymraeg na dim ond codi iaith newydd - er gymaint o gamp yw hynny.

Mae'r drysau ymarferol ac emosiynol mae'r Gymraeg yn eu hagor yn anodd ei disgrifio gan fod y cyfan yn fwy na rhif y darnau, rhywsut. Mae hynny'n arbennig o wir pan fo'r Gymraeg wedi bod yn iaith deuluol yn hanes rhywun ers talwm ond iddi gael ei cholli am ba bynnag reswm, ac mae dysgu'r iaith o'r newydd fel estyn llaw i'r gorffennol a'i dynnu'n agosach.

Mae'n galluogi i bobl gyffwrdd bron iawn 芒 pherthnasau nad ydynt bellach ar dir y byw a chydio eto yn yr hyn sy'n rhan ohonyn nhw ond sydd wedi teimlo ychydig yn ddiarth tan r诺an.

Mae'r gwaith caled mae'r dysgwyr yma yn ei wneud - yn aml yng nghanol bwrlwm gwaith a theulu neu law yn llaw 芒 gwarchod wyrion - yn ymdrech na fedr unrhyw siaradwr mamiaith amgyffred 芒 hi mewn gwirionedd, ond rydan ni'n diolch amdanyn nhw, bob un.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Adfywio'r Gymraeg

Mae adfywio'r Gymraeg ar yr aelwyd yn arbennig o heriol pan ydych yn byw mewn ardal ble nad yw'r iaith i'w chlywed o'ch cwmpas yn ddyddiol.

Clywn hanes Neil Jones o Gilgwri sydd bellach yn diwtor Cymraeg ond a roddodd sawl cynnig ar ddysgu'r Gymraeg ar wahanol adegau o'i fywyd. Roedd ei rieni yn Gymry Cymraeg yn Wallasey ac er ei fod yn mynychu digwyddiadau Cymraeg yn gyson, llithrodd iaith y cartref i'r Saesneg.

Ffynhonnell y llun, Neil Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neil Wyn Jones a'i fam Olwen Roose Jones

Symud yma o Loegr wnaeth Judi Davies gan ymgartrefu yn Aberd芒r i fagu ei theulu. Er mai mynychu ysgol Saesneg wnaeth ei phlant hi, roedd y ddwy ferch wrth eu bodd gyda'r Gymraeg a phan ddaeth Bethan y ferch yn fam ei hun roedd addysg Gymraeg yn ddewis naturiol.

Aeth Judi ati i ddysgu Cymraeg wedi iddi ymddeol ac mae wrth ei bodd yn siarad Cymraeg gyda Caru, ei hwyres fach. Roedd cael sgwrsio gyda'r teulu bach ar gyfer y gyfres yn brofiad cwbwl arbennig a'r emosiwn yn amlwg wrth i'r tair cenhedlaeth fedru ymhyfrydu yn eu camp.

Ffynhonnell y llun, SaySomethingInWelsh
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Judi Davies, ei merch Bethan Owen, a'i hwyres, Caru

Un emosiynol hefyd yw stori Si芒n Harkin o'r Rhondda, a hithau'n ymwybodol iawn o beth fyddai'r atgyfodiad ieithyddol wedi golygu i'w diweddar dad. Er mwyn i Si芒n dderbyn addysg Gymraeg pan yn ifanc fyddai'n rhaid iddi fod wedi teithio ar y bws i'r ysgol, ac roedd ei mam yn pryderu gormod amdani i ganiat谩u hynny ar y pryd.

Mae'n taro rhywun mor ddewr oedd y rhieni a fentrodd yrru eu plant ar y bws yn nyddiau cynnar addysg Gymraeg, cyn i'r addysg honno gael ei normaleiddio fel mae hi heddiw.

Ffynhonnell y llun, Sian Harkin a鈥檌 hwyrion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sian Harkin a'i hwyrion

Creu siaradwyr Cymraeg newydd

Cawn ddarlun unigryw o ardaloedd gwahanol o Gymru drwy gyfrwng y sgyrsiau yma, a hynny drwy sbectol ieithyddol a thaith ddysgu'r cyfranwyr sy'n un digon troellog ar brydiau.

Mae'r siaradwyr newydd yma wedi mwynhau defnyddio eu Cymraeg at wahanol ddibenion yn ystod y cyfnod clo. Mae'n sicr nad ydi'r rhai ohonom sydd yn byw mewn br枚ydd Cymraeg, bob amser yn gwerthfawrogi nag yn dathlu digon ar ymdrechion a llwyddiannau'r rhai sy'n adfywio'r iaith ar eu haelwydydd ac yn eu cymunedau.

Hefyd o ddiddordeb: