Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jack Sargeant wedi ei wawdio ar y we am hunanladdiad
Mae'r Aelod Senedd Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Jack Sargeant yn dweud ei fod wedi derbyn sylwadau dilornus ar y we lle mae pobl wedi cyfeirio at hunanladdiad.
Wrth siarad 芒 phodlediad 大象传媒 Walescast, fe ddywedodd Mr Sargeant, "yn drist iawn, mae camdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth cyffredin iawn".
Mae'n dweud bod angen i gwmn茂au cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.
Ym mis Tachwedd 2017, fe laddodd tad Mr Sargeant, Carl Sargeant ei hun, ar 么l cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones.
'Ddim yn haeddu cael fy nghamdrin fel yna'
Yn y podlediad, mae Jack Sargeant yn dweud, "Meddyliwch amdano, fyddech chi'n dweud hynna wrth unrhyw un arall?
"Efallai ei fod yn waeth gan fy mod i yn wleidydd - mae'n iawn i bobl graffu arna i, ond dwi ddim yn haeddu cael fy ngham-drin fel yna.
"Dwi'n meddwl bod angen i gwmn茂au cyfryngau cymdeithasol wneud mwy, oherwydd nid dim ond mewn gwleidyddiaeth mae'n digwydd, rydyn ni wedi gweld p锚l-droedwyr fel Marcus Rashford ac eraill yn dioddef ar sawl platfform."