大象传媒

'Yng nghanol storm' wrth i brisiau bwyd gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Cigydd Edwards

Mae pris bwyd yn mynd i godi ac rydyn ni "ar ganol ychydig o storm ar hyn o bryd" - dyna'r rhybudd plaen gan berchennog busnes cig yng Nghonwy.

Mae Ieuan Edwards, perchennog cigydd Edwards o Gonwy yn dweud y bydd y storm honno'n parhau am rai misoedd.

Y cynnydd mewn costau fydd yn arwain at y prisiau uwch, gyda Mr Edwards yn cyfeirio'n benodol at gostau ynni, wrth siarad 芒 rhaglen Newyddion S4C.

"Mae cytundeb y siop wedi dirwyn i ben yr wythnos ddiwetha' a'r costau wedi cynyddu o 拢600 yr wythnos i 拢1,000 yr wythnos am ynni," meddai Mr Edwards.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Ieuan Edwards y bydd costau uwch am ynni'n cynyddu prisiau i gwsmeriaid

"Felly yn amlwg mi fydd rhai cynnyrch, yn enwedig cynnyrch sydd angen trydan - megis coginio peis a chigoedd oer... mi fydd y prisiau hynny'n sicr yn codi, faswn i'n derbyn."

"'Dan ni ar ganol ychydig o storm ar hyn o bryd, a dwi'n teimlo bod y storm yma'n mynd i gario ymlaen am rai misoedd yn anffodus."

Effaith prinder gweithwyr

Yn lladd-dy Cig Calon Cymru yn Crosshands mae diffyg gyrwyr lori'n gallu bod yn broblem, heb s么n am brinder gweithwyr yn y lladd-dy ei hun.

"Mae digon o wartheg ar gael i brosesu," meddai'r rheolwr gwerthu Claire Davies.

"Ond oherwydd y prinder sydd i gael... dim just i ni ond gyda lladd-dai eraill, maen nhw'n cymryd carcasses mewn i'w torri nhw lawr, maen nhw'n stryglo

"Ni ffaelu gwerthu gymaint 芒 ni'n gallu prosesu'n hunain."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cig Calon Cymru'n teimlo effaith y prinder gyrwyr lori, medd Claire Davies

"Y gyrwyr wedyn, mae'r gost o gael gyrrwr wedi mynd lan. Wel, mae'n rhaid i rywun dalu am y gost 'na. Ar ddiwedd y dydd, mae'n mynd i ddod n么l lawr i be sy'n mynd ar y silff."

Mae hi'n llawn ddisgwyl y bydd bwyd yn mynd yn ddrytach.

"Mae cost y fuel wedi mynd lan, packaging, labour, popeth, trydan, nwy, so'r cwmn茂au'n mynd i gymryd hwnna. Mae'n rhaid iddo fynd n么l mewn i be sy'n mynd mas."

Miloedd o fisas

Yn 么l Llywydd Undeb NFU Cymru, John Davies, mae'r prinder llafur wedi amlygu mor fregus ydy'r gadwyn fwyd.

Mae'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Prydain wedi'i wneud wrth ganiat谩u cynllun fisa ar gyfer 5,000 o yrwyr lori a 5,000 o weithwyr yn y maes cyw i芒r i gynnal y gadwyn rhwng nawr a'r Nadolig.

Fe anfonodd Adran DEFRA o Lywodraeth y DU sylwadau at 大象传媒 Cymru, wedi i ni gysylltu i s么n am ofidiau rhai o gynrychiolwyr y diwydiant bwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna bryder difrifol dros gludo moch i'r lladd-dy oherwydd prinder gyrwyr lori

Mae'r llywodraeth yn dweud bod prisiau bwyd yn dibynnu ar lawer o wahanol bethau, gan gynnwys gwerth y bunt, prisiau mewnforion, prisiau byd amaeth a chostau llafur - pethau sydd i gyd yn amrywio dros gyfnod.

Eto i gyd, maen nhw'n pwysleisio bod y gadwyn fwyd yn gadarn, ac y daeth hynny i'r amlwg yn ystod y pandemig.

Yn ogystal 芒'r 5,000 o fisas dros dro ar gyfer gweithwyr cyw i芒r, mae 'na 30,000 o'r rheini ar gyfer gweithwyr i becynnu ffrwythau a llysiau.

Yn yr hirdymor, mae'r llywodraeth yn annog busnesau i gynnig swyddi mwy addawol i weithwyr ym Mhrydain drwy ganolbwyntio ar hyfforddiant, cyflog a datblygu gyrfaoedd.

Pynciau cysylltiedig