Cefnogi cwyn myfyrwyr wedi newid i gyrsiau prifysgol
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai prifysgol ymddiheuro i fyfyrwyr ac ad-dalu ffioedd ar 么l honni bod y pandemig wedi arwain at newidiadau mewn cyrsiau, yn 么l adroddiad sydd wedi ei weld gan 大象传媒 Cymru.
Mae cwyn gan 13 o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi'i chefnogi gan ddyfarnwr annibynnol.
Dywedodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei bod wedi ymrwymo i ddarparu'r sgiliau cywir i fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd a'u dyfodol.
Ni fydd yr argymhellion yn cael eu cadarnhau nes bydd adborth gan y brifysgol a'r myfyrwyr yn cael ei asesu.
Fe ddaeth y g诺yn gan gr诺p o fyfyrwyr a ddechreuodd eu cyrsiau celf a dylunio ym mis Medi 2020.
Roedd modiwlau ar-lein newydd yngl欧n 芒 chyflogadwyedd a sgiliau digidol wedi cael eu cyflwyno yn lle cyrsiau mwy arbenigol.
Roedd y myfyrwyr yn honni nad oedden nhw wedi cael rhybudd am y newidiadau.
Aeth y myfyrwyr 芒'r mater i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch ar 么l i'w cwyn gael ei gwrthod gan y brifysgol.
Mae'r swyddfa yn gorff annibynnol sy'n adolygu cwynion myfyrwyr am ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004.
Wedi eu 'bradychu'
Dywedodd un myfyriwr bod y broses o herio'r brifysgol wedi creu "lot o straen".
Tra bod staff academaidd wedi gwneud "gwaith arbennig" o addasu deunydd i ddysgu ar-lein, roedd y broblem yngl欧n 芒'r modiwlau newydd, meddai.
Dywedodd ei fod yn teimlo bod y brifysgol wedi eu "bradychu".
"Rwy'n credu eu bod wedi bod yn sinigaidd iawn yngl欧n 芒 hyn," meddai.
"Mae'n nhw wedi defnyddio'r pandemig er mwyn cyflwyno darpariaeth ddigidol gan arwain at fwy fyth o amser yn sownd o flaen sgrin."
Dywedodd y brifysgol ei bod wedi gorfod ystyried sut i ddarparu addysgu yn sgil y pandemig.
Ond mewn adroddiad, dywedodd Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch nad oedd wedi rhoi rhybudd rhesymol o newidiadau yn unol 芒 chanllawiau gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Dywedodd bod cyflwyno'r modiwlau newydd wedi cael ei yrru gan "ail-ddychmygu'r" cwricwlwm yn hytrach na chyfyngiadau'r pandemig.
Dywedodd yr adroddiad: "Er bod angen newidiadau i fodiwlau i gydymffurfio 芒 chyfyngiadau'r llywodraeth oherwydd y pandemig, dewisodd y brifysgol ddisodli modiwlau oedd wedi eu hysbysebu gyda modiwlau hollol wahanol yn hytrach nag addasu'r cynnwys oedd wedi ei addo."
Mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch wedi dweud y dylai'r brifysgol ymddiheuro i fyfyrwyr a chynnig ad-daliad o 拢1,050 am bob un o'r ddau fodiwl gafodd eu disodli yn y flwyddyn academaidd 2020-21.
Awgrymodd hefyd y dylai'r brifysgol, am ddwy flynedd nesaf y cwrs, weithio gyda'r myfyrwyr i ddod o hyd i ffordd i gynnig rhywbeth "sy'n cyfateb yn fras" i'r cyfleoedd y bydden nhw wedi'i ddisgwyl ar 么l cofrestru ar y cwrs.
'Dyletswydd i ddatblygu gwytnwch'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nad oedd y brifysgol yn gallu gwneud sylw gan fod y broses gyda Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn parhau.
Ond dywedodd bod y brifysgol yn credu mai "rhan o'i dyletswydd i'w graddedigion yw'r angen i ddatblygu eu gwytnwch fel eu bod yn datblygu i fod yn ddysgwyr gydol oes hyblyg, addasadwy a llythrennog yn ddigidol".
Ychwanegodd: "Dyma'r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig o ganlyniad i'r trawsnewidiad digidol a gynyddwyd gan y pandemig.
"Mae dull y Brifysgol o gyflwyno ei darpariaeth dysgu ar-lein wedi cael ei groesawu gan fyfyrwyr a ymatebodd i arolwg allanol diweddar yngl欧n 芒'u profiadau digidol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
- Cyhoeddwyd3 Mai 2021
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2021