Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Perchennog CPD Dinas Bangor yn taro'n 么l dros ddiffyg t芒l
- Awdur, Gwyn Loader
- Swydd, Prif ohebydd Newyddion S4C
Wedi i gwestiynau gael eu codi am sefyllfa ariannol clwb p锚l-droed Cymreig, mae'r perchennog wedi beirniadu chwaraewyr a staff am fynd i gyfraith ar 么l peidio eu talu.
Bythefnos yn 么l, daeth pryderon i'r amlwg yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C i glwb p锚l-droed Dinas Bangor.
Daeth i'r amlwg bod dyledion gan y clwb, a bod clwb arall yn Yr Eidal oedd hefyd dan arweinyddiaeth eu llywydd, Domenico Serafino, wedi mynd i'r wal wedi i chwaraewyr a staff yno beidio a chael eu talu.
Mewn ymateb, dywedodd Mr Serafino mewn datganiad bod "trefn ar bethau" o fewn y clwb.
'Hawlio arian heb chwarae p锚l-droed'
Bellach mae wedi dod yn glir bod CPD Dinas Bangor wedi cael gorchymyn i wrandawiad disgyblu Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn ddiweddarach y mis hwn "dros anghydfod yn ymwneud 芒 pheidio talu cyflogau chwaraewyr a swyddogion".
Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal ar 25 Hydref.
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Mr Serafino: "Mae rhai taliadau heb eu gwneud, ac mae chwaraewyr a staff hyfforddi wedi penderfynu mynd i gyfraith i hawlio pob ceiniog am dymor lle na chwaraeon nhw b锚l-droed!"
Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod sawl chwaraewr heb gael eu talu o gwbl dros y misoedd diwethaf, tra bod eraill ond wedi derbyn rhan o'u cyflog.
Doedd y rheolwr, Hugo Colace, ddim yn bresennol yng ng锚m y clwb y penwythnos diwethaf, gyda dyn arall, Methurin Ovambe, yn gyfrifol am y t卯m.
Dros yr wythnosau diwethaf hefyd, mae llun wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos chwaraewyr y clwb a Hugo Colace yn dal baner yn dangos y geiriau "hyd yn oed heb gyflog, dyw ein hysbryd heb ei dorri" arno.
Darganfyddodd ymchwiliad bod gan y clwb bum dyfarniad yn y llys sirol yn eu herbyn am gyfanswm o 拢26,127.
Dywedodd Mr Serafino ei fod "eisoes wedi talu 90% o ddyledion hanesyddol" a'i fod yn "ail-negydu'r dyledion sydd yn weddill".
Roedd yn beio'r pandemig a'r perchnogion blaenorol am iddo etifeddu "sefyllfa gymhleth iawn".
Pan ofynnwyd pam nad oedd cyfrifon y clwb wedi eu cofrestru gyda Th欧'r Cwmn茂au, fe ddywedodd: "Mae'r cyfrifon presennol yn nwylo fy nghyfrifwyr ac mae popeth yn ei le."
Pythefnos yn ddiweddarach, mae T欧'r Cwmn茂au yn dangos bod y cyfrifon yn orddyledus.
Clwb yn cwtogi ei chyllideb
Wrth ymateb i'r pryderon diweddaraf, roedd Mr Serafino am bwysleisio effaith y pandemig, gan ddweud bod y clwb wedi parhau i dalu chwaraewyr drwy gydol y cyfnod, yn wahanol i glybiau eraill.
"Heb beryglu cyfrinachedd, ry'n ni'n talu 拢2,000 i 拢3,500 y mis i'r chwaraewyr proffesiynol yma", meddai.
"Y rhan fwyaf o fisoedd, mae'r taliadau yma wedi cael eu cwblhau er bod nifer o glybiau ar draws y byd wedi gweld chwaraewyr yn cytuno i gwtogi cyflogau oherwydd y crisis, nid dyna sydd wedi digwydd ym Mangor yn anffodus.
"Mae'r clwb wrthi yn cwtogi ei chyllideb o ran chwaraewyr ac hyfforddwyr, ac ry'n ni'n hyderus y byddwn ni'n dod i setliad ariannol gyda staff i ddiddymu cytundebau cyn hir.
"Ar hyd yr amser, mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Dinas Bangor wedi bod yn agored gyda'r gymdeithas b锚l-droed, gan esbonio'r sefyllfa. Byddwn ni'n parhau i wneud hynny."