Ymchwilio i farwolaeth yn uned iechyd meddwl T欧 Llewelyn
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn marwolaeth claf mewn uned iechyd meddwl yn Sir Conwy.
Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y farwolaeth yn uned ddiogel T欧 Llewelyn.
Mae T欧 Llewelyn yn uned sydd 芒 25 o wl芒u ar safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.
Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'n gwneud sylwadau pellach ar y mater tra bod ymchwiliad yn digwydd.
Dywedodd Iain Wilkie, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: "Gallaf gadarnhau bod marwolaeth wedi bod yn Nh欧 Llewelyn sydd yn cael ei ymchwilio yn unol 芒 gweithdrefnau'r bwrdd iechyd.
"Ni fyddwn ni'n rhoi unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021