大象传媒

Undeb nyrsio yn cynnal pleidlais am weithredu diwydiannol

  • Cyhoeddwyd
Intensive care unitFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd undeb nyrsio yn gofyn i'w aelodau yng Nghymru os ydyn nhw'n barod i weithredu'n ddiwydiannol dros anghydfod cyflogau.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) mewn anghydfod gyda Llywodraeth Cymru dros gynlluniau i gynnig codiad cyflog o 3% i nyrsys.

Fe ddywed yr undeb - sy'n cynnal "pleidlais mynegol i gasglu barn aelodau" - fod rhaid i weinidogion gynnig mwy "os ydyn nhw o ddifri am sicrhau diogelwch cleifion".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi datblygu pecyn o welliannau o fewn y cyllid sydd ar gael sy'n canolbwyntio ar gefnogi ein staff ar y cyflog isaf".

Bydd aelodau'r undeb yn cael eu holi os fyddan nhw'n barod i weithredu'n ddiwydiannol mewn unrhyw ddull, boed hynny'n streic neu weithred arall heblaw streic.

Cyn gallu gweithredu'n ddiwydiannol go iawn, fe fyddai angen pleidlais bellach. Mae'r RCN hefyd yn cynnal pleidlais yn Yr Alban a Lloegr.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi dweud nad yw'n gallu "creu arian o ddim byd" ar gyfer nyrsys, ac mai'r unig ffordd o ddod o hyd i fwy o arian fyddai "gwneud hyd yn oed yn llai" i ddarparu gwasanaethau.

Mae'r RCN wedi cyhoeddi anghydfod ffurfiol gyda'r llywodraeth ac wedi mynnu bod gweinidogion yn agor trafodaethau am gyflogau.

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr RCN Cymru: "Mae ein haelodau yn flin nad yw Llywodraeth Cymru'n fodlon trafod cynnydd yng nghodiad cyflog y GIG.

"Gyda 1,700 o swyddi nyrsio yn wag yng Nghymru, does dim digon o staff nyrsio i ofalu am gleifion yn ddiogel ac effeithiol. Mae ein haelodau yn teimlo'n flin ac wedi'u tanbrisio.

"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri am sicrhau gofal diogel i gleifion, rhaid iddyn nhw flaenoriaethu nyrsio drwy gynyddu'r codiad cyflog yma i gadw nyrsys yn gweithio yn y GIG yng Nghymru a'i wneud yn yrfa mwy deniadol."

Mewn ymgynghoriad blaenorol gan yr RCN, fe wnaeth 29% o aelodau fynegi barn a 94% yn gwrthod y cynnig o godiad cyflog.

Bydd y bleidlais yn agor ar 4 Tachwedd ac yn para tan 30 Tachwedd.

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gobeithio bod gweithwyr y GIG yn deall cymaint rydyn ni'n gwerthfawrogi eu gwaith ac yn gwerthfawrogi popeth maen nhw wedi'i wneud.

"Rydym wedi derbyn argymhellion y corff adolygu t芒l annibynnol yn llawn.

"Er ei bod yn siomedig bod yr RCN yn symud ymlaen i bleidlais, rydym wedi datblygu pecyn o welliannau o fewn y cyllid sydd ar gael sy'n canolbwyntio ar gefnogi ein staff ar y cyflog isaf.

"Er ein bod ni eisiau buddsoddi yn ein gweithlu mae angen i ni hefyd fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau hanfodol y GIG."