´óÏó´«Ã½

Ysbyty Maelor Wrecsam yn 'storm berffaith' o amodau gwael

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Ysbyty Maelor WrecsamFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Ysbyty Maelor yn Wrecsam yn wynebu "storm berffaith" oherwydd diffyg staff, cyflwr yr adeiladau a methiannau technoleg gwybodaeth, yn ôl adroddiad.

Noda'r ddogfen gan Goleg Brenhinol y Meddygon bod ymgynghorwyr yno ymhlith y mwyaf "anhapus" erioed, gyda "diffyg buddsoddiad" hir-dymor yn achosi problemau recriwtio.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, maen nhw'n cymryd y materion "pryderus" hyn o ddifrif.

Tan 2020, roedd y bwrdd mewn mesurau arbennig ac o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan ei bod hi'n "hanfodol" mynd i'r afael â phryderon am les ac ysbryd staff y gwasanaeth iechyd.

Cafodd yr adroddiad ei lunio yn dilyn "ymweliad rhithwir" ag Ysbyty Maelor ym mis Mai eleni.

Y staff 'mwyaf anhapus'

Yn ei ragair, dywedodd Dr Andrew Goddard, llywydd y Coleg Brenhinol, ei fod wedi ymweld â bron i 100 o ysbytai ers ymuno â'r coleg, ac mai dyma'r "grŵp mwyaf anhapus o ymgynghorwyr i mi siarad â nhw yn ystod fy ngyrfa, ag eithrio un achos arall".

"Clywsom am storm berffaith gydag adeiladau'n syrthio'n ddarnau, systemau technoleg gwybodaeth sydd un ai ddim yn effeithiol neu ddim yno o gwbl, a diffyg staff," meddai.

Noda'r adroddiad hefyd bod gan staff dan hyfforddiant "lwyth gwaith trwm iawn" er eu bod yn "argymell" gweithio yn yr ysbyty ac yn cael "cefnogaeth" ymgynghorwyr, ac y gallai diffyg buddsoddiad olygu bydd staff yn penderfynu gweithio "mewn ysbytai mwy modern".

Mae hefyd yn nodi bod ymgynghorwyr yn teimlo'n "rhwystredig" a'u bod yn cael eu "hanwybyddu", ac mai "ewyllys da sy'n eu cadw i fynd", a bod aelodau o'r bwrdd rheoli "yn agored" i awgrymiadau'r coleg.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae'r ddogfen yn awgrymu y dylai'r bwrdd iechyd gyfarfod yr ymgynghorwyr a "gwrando ar eu pryderon".

Ymhlith yr argymhellion eraill mae recriwtio rhywun i reoli gwelyau a gwelliannau i hyfforddiant.

Noda Dr Goddard hefyd bod "cael ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn rhan o'r ateb hir-dymor i'r problemau recriwtio, ac mae angen gwthio'r achos yn gryf, gryf iawn."

Wrth ymateb, dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd, ei fod yn "cydnabod… y pwysau a'r llwyth gwaith" sydd ar feddygon.

"Mae'r materion a godwyd yn yr adroddiad yn bryder i mi fel cyfarwyddwr meddygol newydd y bwrdd iechyd, dwi wir yn eu cymryd o ddifrif.

"Drwy weithio gyda'n timau clinigol, gallwn wneud cynnydd go iawn o ran delio â'r pryderon maen nhw wedi eu codi.

"Mae gennym ni sylfaen dda i adeiladu arni, fel mae'r adroddiad yn ei nodi, gan gynnwys profiad addysgol da y meddygon iau, a'r arloesi a ddigwyddodd yn ystod y pandemig."

Ffynhonnell y llun, Google

Rhwng 2015 a 2020 - cyfnod o bron i 2,000 diwrnod - roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, ac felly o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

Cyhuddo'r Llywodraeth o 'lusgo traed'

Wrth ymateb i'r adroddiad am Ysbyty Maelor, mae'r gwrthbleidiau'n pwyntio'r bys at gabinet Mark Drakeford.

"Mae'r adroddiad diweddaraf yma'n tanlinellu diffygion hanesyddol o ran buddsoddiad mewn adeiladau, cyfleusterau, technoleg gwybodaeth a'r gweithlu, a dydy gweinidogion Llafur ddim yn gallu defnyddio'r pandemig i gelu'r drychineb hon," meddai Russell George AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd.

"'Dan ni wedi bod yn dweud bod diffyg cynllunio'r gweithlu wedi bod yn broblem sylfaenol," meddai Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru dros ranbarth y gogledd.

"Mae angen datblygu mwy o gyfleoedd i hyfforddi nyrsys a meddygon… Maen nhw wedi bod yn llusgo'u traed a dydy hynny ddim yn dderbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn "ymwybodol" o'r adroddiad a bod y bwrdd iechyd "wedi llunio cynlluniau gweithredu i fynd i'r afael â'r argymhellion."

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y pwysau enfawr sydd wedi bod ar staff y GIG am gyfnod hir ac mae'n hanfodol mynd i'r afael ag unrhyw bryderon o ran eu lles a'u hysbryd.

"Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos ag ymgynghorwyr y coleg ac yn ymrwymedig i weithredu ar eu cynlluniau. Byddent yn parhau i roi diweddariadau i'r gweinidog iechyd."