大象传媒

Diogelwch menywod: 'Pwl o banig os yw rhywun yn cerdded yn agos'

  • Cyhoeddwyd
Whitney DowlerFfynhonnell y llun, HotSpot Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Whitney Dowler: 'Dwi ddim yn gwybod a fydda i byth yn teimlo'n ddiogel eto'

Mae cyn-fyfyriwr wedi siarad yn gyhoeddus am ddarlithydd prifysgol wnaeth ymosod arni wrth iddi gerdded adref gyda'r nos.

Fe geisiodd Whitney Dowler, 22, redeg oddi wrth Kary Thanapalan, 49, wrth iddo fynd ar ei h么l yn Nhrefforest, Pontypridd ym mis Tachwedd 2020.

Mae Ms Dowler wedi penderfynu siarad am y digwyddiad i godi llais ar 么l ymosodiadau ar fenywod, gan gynnwys llofruddiaeth Sarah Everard.

"Dynion fel Kary yw'r rheswm pam fod menywod mor ofn cerdded adref ar eu pen eu hunain," meddai.

Cafodd Thanapalan, o Drefforest, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mai ar 么l cyfaddef iddo ymosod yn rhywiol.

Collodd Thanapalan ei swydd fel uwch ddarlithydd peirianneg awyrennol a mecanyddol ym Mhrifysgol De Cymru yn dilyn yr ymosodiad.

Nid oedd wedi dysgu Ms Dowler, sydd o ardal Bargoed yn sir Caerffili, a oedd yn ei blwyddyn olaf yn astudio TG yn y brifysgol.

Dywedodd ei bod wedi bod yn cerdded adref ar ei phen ei hun ar 么l cwrdd 芒 ffrind am noson allan pan ddaeth Thanapalan ati.

"Gan osgoi dal ei lygad, nes i frysio heibio iddo ond gwaeddodd 'baby' a dechrau fy nilyn," meddai.

"Mewn panig, nes i ddweud wrth fy hun i'w anwybyddu ac fe fydd yn diflannu cyn bo hir. Ond wnaeth e ddim.

"Nes i ddechrau rhedeg ond fe ddaeth ar fy 么l a gafael yn fy mraich.

"Daliodd i ddweud fy mod i'n torri ei galon a fy mod i'n mynd i ddod adref gydag e.

"Roeddwn i'n sobor ac yn dweud wrtho 'na' drosodd a throsodd."

'Sgrechian am help'

Ychwanegodd: "Ar un adeg fe gyrhaeddon ni stryd brysur ac fe dynnodd car i fyny wrth fy ymyl.

"Fe ofynnodd gyrrwr y car a o'n i'n iawn. Yn crio, nes i ddweud wrtho fy mod yn cael fy nilyn.

"Cynigiodd y gyrrwr lifft adref i mi ond sylweddolais ei fod hefyd yn ddieithryn.

"Doeddwn i ddim yn gwybod a oedd yn fygythiad hefyd. Doeddwn i ddim yn gallu ymddiried yn unrhyw un - felly dywedais 'na'."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd bargyfreithiwr Kary Thanapalan ei fod yn edifeiriol a'i fod wedi colli ei enw da

Wrth iddi agos谩u at orsaf reilffordd Trefforest, anfonodd neges destun at ffrind a oedd yn byw gerllaw a chyrhaeddodd yn fuan wedi hynny.

"Wrth i mi gyrraedd maes parcio'r orsaf, gafaelodd y dyn ynof eto a gafael yn fy mron," meddai Ms Dowler.

"Yn sydyn, mi wnes i sylwi ar fy ffrind yn y pellter a sgrechian am help.

"Rhedodd tuag atom, gan weiddi ar y dyn i ddod oddi arnaf.

"Diolch byth, fe ollyngodd fi a ffoi. Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i gael fy nhreisio neu fy lladd."

'Pwl o banig'

Adroddodd beth ddigwyddodd i'r heddlu a cafodd Thanapalan ei arestio.

Roedd swab DNA yn cyd-fynd 芒 hynny ar foch ei ddioddefwr.

"Os yw rhywun yn cerdded yn agos ata'i ar y stryd nawr, dwi'n cael pwl o banig," meddai Ms Dowler.

"Dwi ddim yn gwybod a fydda i byth yn teimlo'n ddiogel eto."