大象传媒

'Plant yn cael eu brechu ar draul pobl h欧n a bregus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plentyn yn cael ei frechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna bryder bod plant yn cael eu brechu rhag Covid-19 tra bod degau o filoedd o bobl h欧n a bregus yn dal heb gael y cwrs llawn.

Yn 么l un arbenigwr iechyd cyhoeddus mae tua 90,000 o bobl yn y categori hwnnw heb gael ail bigiad, a rhai heb gael y cyntaf.

Ond wrth i'r gyfradd heintio barhau'n uchel ymhlith plant a phobl ifanc mae Llywodraeth Cymru a meddygon yn galw ar bawb sy'n cael cynnig brechlyn i'w dderbyn.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn mynnu bod y rhaglen frechu ar y trywydd cywir.

Pwysau 'di-angen' ar adnoddau

Mae'r cynllun brechu yn mynd yn ei flaen a phobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn cael cynnig y brechlyn ar hyn o bryd.

Ond ym marn cyn-gyfarwyddwr clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Roland Salmon, mae brechu pobl ifanc yn rhoi pwysau di-angen ar y gwasanaeth iechyd.

"Os y'ch chi'n defnyddio resource imiwneiddio ar gyfer y plant rhwng 12 a 15 oed, does dim resource ar gael [ar gyfer] imiwneiddio y bobl mewn risg clinical neu'n fwy na 60 oed," meddai.

Ychwanegodd bod 90,000 o bobl yn y grwpiau risg uchel ar hyn o bryd sydd heb eu brechu'n llawn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Roland Salmon yn gyn-gyfarwyddwr clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf plant a phobl ifanc sy'n cael eu heintio fwyaf ar hyn o bryd.

Mae 39% o achosion positif dan 19 oed, 27% o achosion rhwng 10 a 19 oed ac mae 'na amcangyfrif fod Covid ar dros 12% o blant 12 oed.

Ac os nad yw oedolion iau wedi eu brechu yna maen nhw bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty na rhai sydd wedi eu brechu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen yr un ymdrech i gynnig y brechlyn i bawb, medd Dr Eilir Hughes

"Dylsa ni fod yn neud yr un ymdrech i bawb, i fod yn onest," meddai'r meddyg teulu, Dr Eilir Hughes.

"Pwy bynnag sydd yn medru dod ymlaen i gael y brechlyn, mi ddylsa ni fod yn medru cynnig o iddyn nhw... ma' pawb yn medru lledaenu'r feirws 'ma a dyna mewn gwirionedd 'da ni'n trio cwffio yn fan hyn.

"Dwi'n deall bod ella angen roi mwy o bwyslais ar bobol h欧n ond dwi yn meddwl dylsan ni fod yn canolbwyntio ar roid o i bawb."

'Sawl rhaglen yn rhedeg ar yr un pryd'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Dwi yn meddwl bod ni ar y trywydd cywir, ac wrth gwrs y'n ni'n gobeithio dros gyfnod hanner tymor bydd plant yn cymryd y cyfle i gael eu brechu."

Mae'r rhaglen frechu, meddai, yn "eitha' cymhleth erbyn hyn lle mae 'na lot o raglenni yn digwydd ar yr un pryd, ond os rwbeth mae e'n bwysig ein bod ni'n diogelu'r rheiny sydd yn fwy tebygol o ddiodde".

"Felly y booster yna sydd yn bwysig, yn arbennig o gofio ein bod hi nawr llawer o fisoedd ers i bobl gael yr ail frechlyn mewn rhai o'r categor茂au yma."

Pynciau cysylltiedig