´óÏó´«Ã½

O ledr pysgod i hurio dillad, sut mae ffarwelio â ffasiwn cyflym?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llogi dillad i herio 'crisis' amgylcheddol y byd ffasiwn

Ffasiwn ydy'r trydydd diwydiant cynhyrchu mwyaf yn y byd, ac yn ôl rhai amcangyfrifon mae'n gyfrifol am hyd at 10% o allyriadau'r byd.

Wrth i'r sylw droi fwy-fwy at effeithiau newid hinsawdd, mae rhai busnesau o Gymru yn ceisio lleihau effaith y diwydiant ar yr amgylchedd.

Mae 'ffasiwn cyflym', lle mae pobl yn prynu dillad rhad a'u gwisgo unwaith neu ddwy cyn eu taflu yn gyfrannwr mawr tuag at gynhyrchu nwyon tŷ gwydr, a llygredd aer a dŵr wrth gynhyrchu lefelau niweidiol o wastraff.

I geisio arafu'r arfer o daflu dillad, mae Tegan Turnbull a Rhi Thomas, y ddwy yn 23 oed, wedi sefydlu cwmni bychan sy'n hurio dillad yn ne Cymru drwy Instagram.

Yn ôl Tegan, y syniad ydy bod rhywun sydd eisiau dilledyn ar gyfer noson allan neu ddigwyddiad arbennig yn gallu ei fenthyg drwy eu cwmni Hire The Attire, yn hytrach na phrynu dillad newydd.

"O'dd y concept i gyd wedi dechrau oherwydd ni wedi gwylio ffrindiau ni, a ni yn prynu pethau, gwisgo nhw unwaith a wedyn ni'n rhoi nhw yn y bin neu trio gwerthu nhw i pobl arall.

"So ni just di gwneud rhywbeth sy'n trendy a ma' pobl yn gallu cael y pethau ma nhw moyn just am unwaith, a rhoi o 'nôl i ni a wedyn mae rhywun arall yn gallu joio fe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhi Thomas a Tegan Turnbull yn rhedeg cwmni hurio dillad

Mae'r ddwy yn dweud bod cyfryngau cymdeithasol ac ymwybyddiaeth ehangach o broblemau amgylcheddol yn golygu bod pobl yn meddwl mwy erbyn hyn o ble daeth eu dillad.

"Mae lot a lot o ddillad yn mynd i wastraff pob blwyddyn," meddai.

"Mae 15% o bobl yn y DU yn ailgylchu eu dillad a mae hwnna'n fach iawn, ni angen gwneud hwnna'n fwy.

"Mae angen gwneud rhywbeth gwahanol - ni'n gwybod nawr mae'n amser i newid, a ni just yn hapus bo' ni'n gallu bod yn rhan o hwn."

Mae Moray Luke, sy'n ddylunydd 26 oed o Borthcawl wedi dewis defnyddio lledr pysgod i wneud rhai o'i bagiau llaw.

Mae bagiau Moray yn cael eu cynhyrchu o'r croen sydd yn weddill o fferm eog Albanaidd organig, ac er ei bod yn cydnabod na fydd hynny'n newid y byd, mae'n credu ei fod yn ffordd o gael pobl i feddwl am darddiad eu dillad a'u nwyddau.

"Mae'n ffordd dda o ddechrau sgwrs ynglÅ·n ag olrhain y tarddiad," meddai.

"Oherwydd bod croen pysgodyn yn ddeunydd mor drawiadol, mae pobl yn dechrau meddwl o le daeth y bag llaw? O le daeth y deunydd?"

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

Mae'r defnydd yn cael ei weld fel dewis mwy amgylcheddol gyfeillgar o'i gymharu â'r rhan fwyaf o ledr gwartheg oherwydd ei wydnwch, llai o effeithiau o'i liwio, a gallu defnyddio gwastraff wrth ei gynhyrchu.

Ar hyn o bryd, mae llai na 1% o'r holl ledr sy'n cael ei werthu drwy'r byd yn ledr pysgod.

Ond mae Sefydliad Bwyd ac Amaeth UDA yn hyrwyddo ei gynhyrchu fel ffordd o roi hwb i incwm cymunedau pysgota drwy'r byd.

"Allwn ni ddim cau ein llygaid i newid hinsawdd, mae'n rhaid i ni wynebu'r problemau yma", meddai Moray.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mirain Iwerydd yn annog pobl i wneud mwy gyda'r hyn sydd eisoes ganddyn nhw

Dywed Mirain Iwerydd, sy'n ailddefnyddio ei hen ddillad, ei bod hi'n "casáu'r" syniad o ffasiwn cyflym.

"Mae [ffasiwn cyflym] yn ddiwydiant sy'n really, really niweidiol i'r blaned," meddai.

"Dwi o hyd wedi mwynhau mynd drwy siopau elusennol i weld be' dwi'n gallu ffindo a mwynhau ailddefnyddio pethe'.

"Nes i ddod yn ymwybodol o ailddefnyddio dillad yn ystod y cyfnod clo cynta' lle oedd amser i fi feddwl achos ma' pawb yn gwisgo dillad a o'n i'n gweld o'dd pawb yn mynd i siopa yn ddiangen.

"Nes i ddechre' gwinio - fi'n trial prynu o siopa sy'n gynaliadwy, sy'n talu eu gweithwyr yn dda a ma'r dillad o safon da, yn wydn iawn, a dwi'n licio creu dillad fy hunan o hen ddefnyddie' a defnyddio be sydd gen i yn barod."

Pynciau cysylltiedig