大象传媒

Llinos Owen: Gweu i gyfleu profiadau'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
CelfFfynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr artist Llinos Owen yn ei stiwdio yn Llundain

"Mae fy ngwaith i yngl欧n 芒 diary entries fi a'r pethau dwi'n teimlo, y pethau dwi'n gweld, y bobl dwi'n gweld a pherthnasau."

Wrth edrych ar waith celf Llinos Owen byddai rhywun yn meddwl mai paentio mae hi. Ond os edrychwch yn fanylach mae dimensiwn arall, meddalach, i waith yr artist 23 oed o Gaernarfon.

Trwy ei gwaith mae Llinos yn arddangos ei theimladau, ei phrofiadau gyda gorbryder, a'i dehongliadau o'r byd o'i chwmpas wnaeth godi yn ystod y pandemig - i gyd gan ddefnyddio tecstiliau.

Mae hi'n gweu i gyfleu'r hyn sydd yn mynd trwy ei meddwl cyn clymu'r holl beth at ei gilydd i greu campweithiau.

Ar hyn o bryd mae ganddi arddangosfa yn oriel Orleans House yn Twickenham, Llundain - ei arddangosfa "mwyaf erioed" - ble mae nifer wedi uniaethu yn fawr gyda'i chynnwys.

Cafodd Cymru Fyw olwg tu 么l i feddylfryd yr artist a'i chrefft.

Ffynhonnell y llun, Orleans House/ Paulina Fr膮czek
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Poster yr arddangosfa yn Orleans House (chwith) a Llinos yn sefyll o flaen ei gwaith yno (dde)

O le ddaeth dy ddiddordeb mewn celf?

Dwi'm yn rili cofio adeg lle do'n i ddim efo diddordeb mewn celf. Ro'n i bob tro yn d诺dlo petha' yn blentyn.

Ro'n i'n un o'r plant annoying 'na yn ysgol oedd yn licio pan oedd hi'n bwrw glaw i ni gael ista tu mewn yn gwneud drawings trwy'r dydd.

Wnaeth y diddordeb droi yn fwy serious pan nes i wneud cwrs Sylfaen Celf yng Ngholeg Menai, Bangor. Wnaeth y tiwtoriaid yna wthio fi i gymryd o'n fwy serious a thrio troi fo mewn i yrfa.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Hiding Halfway and Running to Nowhere', 2020

Ro'n i mainly yn paentio adeg yna a nes i fynd i astudio fo yn University of Arts, Llundain. Pan o'n i'n yr ail flwyddyn nes i golli interest yn llwyr yn paentio a newid i tecstiliau...

Ma' hynna yn esbonio pam bo' lot o bobl yn deud bo' gwaith celf tecstiliau fi yn rili tebyg i paintings. Dwi'n meddwl ges i'r lot o'r dylanwad o fanna.

Pryd nes di ddechrau gweu? A be' ydi dy broses di o greu?

Nes i ddim dechrau ar y math yma o waith tan lockdown 2020. Mae o'n broses hir, ond o gymharu i paentio dwi'n joio fo mwy.

Nes i jest ffeindio fo ar-lein yn ystod mis Mai a meddwl, "o c诺l, na'i drio hwn" a jest ordro llwyth o decstiliau.

Dwi'n defnyddio gwl芒n a hessian materials, mae o bron iawn fel weaving. Ond nes i jest pigo fo fyny a gan bo' fi efo gymaint o amser - oedd o'n gr锚t.

Os mae'r darn yn fawr mae'n gallu cymryd misoedd i greu. Ond mae'n anodd dweud oherwydd dwi'n gweithio ar lot o ddarnau'r un pryd.

Dwi'n gwneud nhw i gyd gyda llaw hefyd felly mae'n cymryd sesiynau 10 awr weithiau. Ma' dwylo fi llawn cuts!

Be' sydd yn ysbrydoli dy waith di?

Mae bod yn berson Cymraeg yn Llundain definitely yn dylanwadu sut dwi'n creu.

Mae adref a gogledd Cymru yn rili ysbrydoli fi, er bo' fi ddim yna llawer ddim mwy. Mae motifs bach Cymraeg fel daffodils i gyd yn troi fyny yn y gwaith a dydi o ddim yn conscious decision, mae o jest yn dod yn naturiol.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Pick me up When I'm Down', 2021(chwith). 'Reaching Towards the Light in a Dark Room, Like Spring's Daffodils in a Pot', 2021 (dde). Edau ar hesian

Mae o'n neis cael dangos y gwaith yna yn Llundain achos mae pobl yn gofyn "o, be' di hyn?"

Ond erbyn hyn mae fy ngwaith i yngl欧n 芒 diary entries fi a'r pethau dwi'n teimlo, y pethau dwi'n gweld, y bobl dwi'n gweld a pherthnasau.

Pa fath o them芒u sydd yn ymddangos yn y dyddiadur?

Gan bo' fi yn defnyddio fy nyddiadur fel y prif ysbrydoliaeth mae gwaith fi trwy'r flwyddyn diwethaf wedi bod yngl欧n 芒'r pandemig hyd at r诺an.

Maen nhw i gyd yn based ar sut ro'n i'n teimlo ar yr adeg, be' oedd y bobl rownd fi yn gwneud, be' o'n i'n methu, be' o'n i'n cymryd for granted o'r blaen a be' dwi'n colli r诺an.

Ffynhonnell y llun, Paulina Fr膮czek/ Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Paulina at Streatham Common', 2021 (chwith). 'Penblwydd Hapus', 2021 (dde)

Yn fwy diweddar mae o 'di bod yn based ar iechyd meddwl a phethau ro'n i'n strugglo efo yn ystod y pandemig...

Lot o bethau am unigrwydd a gorbryder - rwbath dwi'n meddwl fod lot o bobl wedi bod yn teimlo dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth gymryd hyn fel ysbrydoliaeth mae o wedi bod yn theraputic iawn i fi - dwi 'di gallu gwneud sens o fy nheimladau fy hun. Mae o definitely yn helpu fi.

Weithiau dydi rwbath ddim yn 'neud sens ac mae o'n rili random, ond mae o yn ddifyr i archwilio. Mae o fel rhan o healing process fi.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen/ Paulina Fr膮czek
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Bruised Finger Tips', 2021 (chwith). 'Reoccurring Dreams of Losing My Teeth Down the Sink', 2021 (dde)

Sut mae pobl yn ymateb i'r gwaith?

Yn rhan o'r sioe 'ma ro'n i isio gweld sut oedd pobl yn ymateb i'r gwaith a gweld os oeddan nhw yn gallu perthyn i'r cynnwys...

Mae'r gwaith i gyd wedi cael ei arddangos gyda snippets bach o'r diary entries wnaeth ysbrydoli'r darn yna.

Oedd lot o bobl yn deud "o waw o'n i'n teimlo hyn" neu "o, dim jest fi oedd yn teimlo fel hyn?"

Mae o wedi bod yn neis gweld hyn a gweld sut mae pobl yn ymateb.

Ffynhonnell y llun, Llinos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'When Hyde Park's Sky Turns Magenta', 2021. Edau ar hesian

Be' sydd gen ti ar y gweill?

Dwi'n gwneud llawer iawn o sketches tu allan i'r gwaith tecstiliau a dwi wedi dechrau gwneud lot o waith animeiddio a ballu hefyd.

Ond hefyd dwi'n cael fy ysbrydoli lot gan gerddorion a cherddoriaeth ac ar y funud dwi ar fin dechrau cyfres o waith sydd yn edrych ar y s卯n clybiau gyda bob dim yn agor eto.

Ella fydd hwnna yn excuse i fi fynd allan mwy!

Hefyd o ddiddordeb: