大象传媒

Y gyllideb: 拢2.9bn yn fwy i wasanaethau cyhoeddus Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rishi Sunak a thim y Trysolrys o flaen 11 Downing Street gyda'r focs gochFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd 拢2.9bn yn ychwanegol ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2024, yn 么l dadansoddiad o gyllideb y Canghellor.

Ond mae arbenigwyr cyllid ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhybuddio y gall teuluoedd wynebu gaeaf caled wrth i gostau byw a phrisiau ynni godi.

Fe wnaeth adolygiad gwariant Rishi Sunak osod maint cyllideb Llywodraeth Cymru am y tair blynedd nesaf.

Mae'r rhagolygon wedi "gwella'n sylweddol", i raddau helaeth diolch i wariant ar iechyd yn Lloegr.

Mae disgwyl i gyllid craidd ar gyfer gwasanaethau dyfu 3.1% y flwyddyn, yn 么l Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae'n golygu y bydd gan Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, 拢1.6bn yn fwy i'w wario pan fydd hi'n cyhoeddi ei chyllideb ar 20 Rhagfyr.

Mae hynny'n uwch na'r disgwyl, ond dydy'r ffigurau ddim yn cynnwys y biliynau o bunnoedd o arian brys y mae Cymru wedi'i dderbyn i ymladd y pandemig. Mae'r arian yna'n dod i ben eleni.

Mae datganoli wedi chwyddo'r coffrau hefyd, meddai'r dadansoddiad, gyda Chymru yn debygol o dderbyn 拢200m ymhen tair blynedd o ganlyniad i'r pwerau treth incwm ac eiddo a roddwyd i Fae Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gan Weinidog Cyllid Cymru 拢1.6bn yn fwy i'w wario pan yn cyhoeddi ei chyllideb

Dywedodd awdur yr adroddiad, Guto Ifan: "Mae'n ymddangos fel fod Llywodraeth y DG yn cefnu ar bolis茂au llymder ariannol a oedd yn eu lle yn ystod y degawd cyn y pandemig.

"Ond mae pwysau ar gostau byw yn bryder enfawr ac fe allai'r misoedd nesaf fod yn gyfnod caled i aelwydydd yng Nghymru."

Cyhoeddodd Mr Sunak newidiadau i'r Credyd Cynhwysol a fydd yn caniat谩u i bobl gadw mwy o'u taliadau os ydyn nhw'n gweithio.

Ond yn 么l adroddiad y ganolfan, ni fydd hynny'n ad-dalu yn llawn y bobl wnaeth golli'r taliad wythnosol o 拢20 yn ddiweddar - yn enwedig y rhai ar incwm isel.