大象传媒

Dim ffordd osgoi i bentref Llanbedr yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Llanbedr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd dadleuon bod y bont gul sydd yng nghanol pentref Llanbedr yn peri problemau i gerbydau mawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynlluniau i gael ffordd osgoi i bentref Llanbedr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r penderfyniad yn rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru o gynlluniau ffyrdd newydd ac yn 么l cadeirydd pwyllgor o arbenigwyr ar drafnidiaeth a newid hinsawdd dyw ffordd osgoi Llanbedr ddim yn cydfynd 芒 pholisi trafnidiaeth a hinsawdd y llywodraeth.

Yn 么l y llywodraeth bydd yn cynnig cyllid ar gyfer cynlluniau eraill a allai ddatrys problemau traffig Llanbedr a phentrefi eraill ar yr A496.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn o Blaid Cymru, ei fod yn "gandryll" 芒'r penderfyniad.

"Mae'n seiliedig ar adroddiad sy'n dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o sefyllfa wledig o ran defnydd ffyrdd a'r angen dirfawr am swyddi o ansawdd uchel yn un o'r ardaloedd sydd 芒'r incwm isaf," meddai.

"Mae'n amlwg, unwaith eto, y gellir aberthu ardaloedd gwledig yn wyneb newid hinsawdd tra bo'r gwir broblem a'r atebion yn ein hardaloedd trefol."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn ei fod yn "gandryll" 芒'r penderfyniad

Cafodd cais i godi ffordd osgoi ei gymeradwyo yn Medi 2018 ond yna bu'n rhaid oedi.

Yn Ionawr 2019 fe benderfynodd swyddogion ail-asesu'r cais ar 么l i dirfeddiannwr lleol ofyn am adolygiad barnwrol ac ym Mawrth 2020 fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol ei gymeradwyo - 60 mlynedd ar 么l i'r syniad gael ei wyntyllu gyntaf.

Roedd yna ddadleuon bod angen ffordd osgoi am fod lonydd cul y pentref ar yr A496 yn achosi oedi - yn rhannol wrth i bobl ymweld 芒 thraeth poblogaidd Mochras.

Roedd adroddiad gerbron pwyllgor y Parc Cenedlaethol yn dweud nad oedd polis茂au cyfredol yn caniat谩u datblygiadau mawr o fewn y parc, ond cafodd y ffordd osgoi ei dynodi fel un o bwys.

Gobaith Cyngor Gwynedd oedd y byddai'r ffordd yn gwella'r mynediad at Faes Awyr Llanbedr.

Roedd yna obeithion hefyd y byddai'r ffordd osgoi yn helpu i ddenu cwmn茂au i'r ardal, ar 么l i Asiantaeth Ofod y DU gyhoeddi buddsoddiad o 拢500,000 yn y maes awyr ar gyfer sefydlu canolfan ofod yno.

Cynnig cynlluniau eraill

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y bydd yn cynnig cyllid ar gyfer cynlluniau eraill a allai ddatrys problemau traffig Llanbedr a phentrefi eraill ar yr A496.

Fe fyddai'r hynny yn canolbwyntio ar ostwng allyriadau CO2 ac yn ystyried mynedfeydd i'r maes awyr, meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi gofyn i'w swyddogion weithio gyda Chyngor Gwynedd i gomisiynu Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu pecyn amgen i'w ystyried - mae'n ofynnol gwneud cais yn y ffordd arferol ac fe fyddai cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru yn dod drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Annwen Hughes ei bod yn teimlo fod pobl yr ardal wedi cael eu camarwain gan Lywodraeth Cymru

Ychwanegodd Mr Siencyn: "Mae hon yn ergyd drom i'n gobeithion a'n dyheadau ar ran bobl Meirionnydd.

"Er gwaethaf geiriau teg y gweinidogion sy'n cynrychioli ardaloedd trefol, nid oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth na chydymdeimlad 芒'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau gwledig, ac yn amlwg, nid oes ganddynt unrhyw awydd i wella bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yma.

"Mae'r cynnydd posib mewn allyriadau carbon o'r cynllun ffordd newydd yn pylu'n llwyr o'i gymharu 芒'r allyriadau a'r llygredd mae trigolion Llanbedr yn ei ddioddef dros fisoedd yr haf, pan fydd cannoedd o gerbydau yn sefyll yn stond yn y pentref.

"Dwi'n gwahodd awduron yr adroddiad i ddod i fyw i Feirionnydd, fel y gallant brofi'r realiti o fywyd yma."

'Camarwain yn llwyr'

Ychwanegodd Cynghorydd Plaid Cymru dros Lanbedr, Annwen Hughes ei bod yn "teimlo bod cymuned Llanbedr a'r ardal wedi cael eu camarwain yn llwyr gan Lywodraeth Cymru".

"Roedd ein trafodaethau gyda'r llywodraeth dros y misoedd diwethaf yn gadarnhaol," meddai.

"Codwyd ein gobeithion y byddai ffordd osgoi Llanbedr yn cael ei gwireddu, ond heddiw mae'r gobeithion hynny wedi eu chwalu. Mae'n ergyd drom i'r ardal."

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ogledd Cymru, Darren Millar AS fod "traffig yn hunllefus yn yr ardal" a bod nifer wedi codi eu gobeithion am y ffordd osgoi newydd.

"Mae'r newyddion yma'n enwedig o anodd deall o ystyried bod rhai prosiectau ffyrdd yn dal i fynd yn eu blaenau yn ne Cymru, tra bo'r cynllun hwn yn y gogledd yn cael ei sgrapio," meddai.