Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Swyddog heddlu'n rhan o ddamwain padlfyrddio Hwlffordd
Swyddog heddlu oedd un o'r bobl fu'n rhan o ddamwain padlfyrddio yn Hwlffordd ddydd Sadwrn, meddai Heddlu De Cymru.
Bu farw tri padlfyrddiwr ac mae un arall yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar 么l mynd i drafferthion mewn afon yn Sir Benfro.
Cafodd pump arall o'r un gr诺p eu hachub yn ddi-anaf.
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r dyn fu farw, Paul O'Dwyer, ond nid yw enwau'r ddwy fenyw fu farw wedi eu cadarnhau eto.
Nid yw aelodau eraill y gr诺p wedi eu henwi'n swyddogol eto chwaith.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" i'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 9:00 fore Sadwrn.
Roedd 20 swyddog heddlu a 30 diffoddwr t芒n yn rhan o'r chwilio, yn ogystal 芒 thechnegwyr achub d诺r arbenigol.
Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar 么l glaw trwm.
Ddydd Sul, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jonathan Rees nad oedden nhw am gyhoeddi manylion pellach am tro, ond dywedodd bod y chwilio ar ben, ac nad oedd unrhyw un arall ar goll.
Roedd Matthew Crowley - sy'n cynrychioli Aberafan a Dwyrain Sandfields ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot - yn adnabod Mr O'Dwyer am y rhan fwyaf o'i oes.
Mr O'Dwyer oedd "bywyd ac enaid y parti, o oedran ifanc iawn," meddai, gan ychwanegu ei fod bob amser wedi bod yn "frwd dros chwaraeon".
"Roedd yn ymwneud 芒 syrffio, padlfyrddio, sg茂o, unrhyw beth i'w wneud 芒 d诺r," meddai Mr Crowley.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod ei "feddyliau gyda'r teuluoedd a'r ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid yn dilyn y drasiedi dorcalonnus yma".
Dros y penwythnos, dywedodd yr heddlu bod aelod o'r cyhoedd wedi neidio i mewn i'r afon i geisio achub y padlfyrddwyr, ond fe lwyddodd i ddod allan o'r d诺r yn ddiogel.
Dywedodd Natasha Williams fod ei mab hi Joel, 20, wedi neidio i mewn i'r afon pan welodd fod y padlfyrddwyr mewn trafferthion.
"Fe welodd e Paul gyntaf a cheisio cael rhaff iddo, ac wrth iddo geisio cael Paul fe welodd e ddynes yn dod tuag ato," meddai.
"Fe roddodd e'r rhaff i ddyn, a mynd i mewn ar 么l y ferch, yna rhoi CPR tan i'r gwasanaethau brys gyrraedd."
Ychwanegodd Natasha fod Joel yn nofiwr cryf, ac felly er i bobl ei rybuddio i beidio 芒 mynd i'r d诺r, fe neidiodd i mewn beth bynnag.
"Roedd e yn y d诺r am ryw bum munud, ac yna'n dweud ei fod wedi gwneud CPR am ryw dri i bum munud," meddai Natasha.
"Doedden ni ddim wir wedi sylweddoli beth wnaeth e... tan i ni weld [y newyddion] y noson honno."
Roedd y padlfyrddwyr yn aelodau o gr诺p padlfyrddio o dde Cymru a chwmni Salty Dog Co., yn 么l asiantaeth newyddion PA.
Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd dros y penwythnos.
Dywedodd un fenyw wrth asiantaeth newyddion PA ei bod hi wedi penderfynu peidio cymryd rhan yn y padlfyrddio fore Sadwrn am ei bod hi'n poeni am y tywydd.
Dywedodd y cynghorydd tref Thomas Tudor fod Afon Cleddau Wen yn "beryglus" a bod cyflymder y d诺r yn "cynyddu llawer" ar 么l glaw trwm.
"Mae'r gymuned yn drist iawn," meddai.