Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Menyw, 24, fu farw tra'n padlfyrddio yn 'enaid hardd'
Mae teulu menyw a fu farw mewn damwain padlfyrddio yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged i "enaid hardd, caredig a chariadus".
Roedd Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful, yn rhan o gr诺p o naw o bobl fu'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.
Bu farw Ms Rogers, a oedd yn ddirprwy reolwr mewn archfarchnad, a dau arall ar 么l mynd i drafferthion. Cafodd menyw arall ei hanafu'n ddifrifol.
Cafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r afon gan y gwasanaethau brys yn ddi-anaf.
Roedd y gr诺p yn dod o South Wales Paddle Boarders a Salty Dog Co, cwmni wedi'i leoli ym Mhort Talbot.
'Gw锚n gynnes'
Dywedodd datganiad gan deulu Ms Rogers, a roddwyd i asiantaeth newyddion PA: "Roedd Morgan yn enaid hardd, caredig a chariadus, yn annwyl gan bawb sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ei gw锚n gynnes a'i phersonoliaeth ofalgar.
"Nid oedd Morgan erioed yn hapusach na phan oedd yn yr awyr agored yn gwneud yr hyn yr oedd hi'n ei garu ac yn treulio amser gyda'i theulu.
"Bydd colled fawr ar ei h么l gan ei theulu a'i ffrindiau a phawb y mae hi wedi'u hadnabod ar hyd y ffordd.
"Bydd Morgan bob amser yn ein calonnau a'n hatgofion. Byddwn yn gweld ei eisiau yn ofnadwy."
Mae teyrngedau eisoes wedi eu rhoi i'r dyn fu farw yn y digwyddiad, Paul O'Dwyer.
Nid yw aelodau eraill y gr诺p wedi eu henwi'n swyddogol eto.
Ond swyddog heddlu oedd un o'r bobl fu'n rhan o'r ddamwain, yn 么l Heddlu De Cymru.
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" o'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 9:00 fore Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar 么l glaw trwm.
Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd y penwythnos diwethaf.