Hwlffordd: Teyrngedau i dri fu farw mewn damwain padlfyrddio

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Morgan Rogers, Nicola Wheatley a Paul O'Dwyer yn y digwyddiad ar 30 Hydref

Mae tri o bobl fu farw mewn damwain padlfyrddio yn Sir Benfro bellach wedi'u henwi'n swyddogol gan yr heddlu.

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Morgan Rogers, 24, Nicola Wheatley, 40, a Paul O'Dwyer, 42, a fu farw ddydd Sadwrn.

Roedd y tri yn rhan o gr诺p o naw o bobl a aeth i drafferthion tra'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd.

Cafodd menyw arall ei hanafu'n ddifrifol a chafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r afon gan y gwasanaethau brys yn ddi-anaf.

Roedd y gr诺p yn dod o South Wales Paddle Boarders a Salty Dog Co, cwmni wedi'i leoli ym Mhort Talbot.

'Gw锚n gynnes'

Mae teulu Ms Rogers, a oedd yn ddirprwy reolwr mewn archfarchnad, wedi rhoi teyrnged i "enaid hardd, caredig a chariadus".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Roedd Morgan Rogers yn caru bod yn yr awyr agored, medd ei theulu

Dywedodd datganiad gan deulu Ms Rogers, o Gefn Coed ym Merthyr Tudful, a roddwyd i asiantaeth newyddion PA: "Roedd Morgan yn enaid hardd, caredig a chariadus, yn annwyl gan bawb sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ei gw锚n gynnes a'i phersonoliaeth ofalgar.

"Nid oedd Morgan erioed yn hapusach na phan oedd yn yr awyr agored yn gwneud yr hyn yr oedd hi'n ei garu ac yn treulio amser gyda'i theulu.

"Bydd colled fawr ar ei h么l gan ei theulu a'i ffrindiau a phawb y mae hi wedi'u hadnabod ar hyd y ffordd.

"Bydd Morgan bob amser yn ein calonnau a'n hatgofion. Byddwn yn gweld ei eisiau yn ofnadwy."

Mewn datganiad pellach drwy'r heddlu, dywedodd y teulu: "Morgan Rogers oedd y gorau y gallai hi fod. Bydd colled fawr ar ei h么l gan ei mam, ei thad, Rhys, Harry, Holly a Katy."

'G诺r, tad, mab a brawd ffyddlon'

Mae teyrngedau hefyd wedi eu rhoi i Paul O'Dwyer, o Draethmelyn, Port Talbot.

Dywedodd ei deulu ei fod yn "诺r, tad, mab a brawd ffyddlon".

"Rhoddodd ei fywyd i gyfrannu at gymdeithas yn ei amryw anturiaethau wrth godi arian at wahanol achosion.

"Babi d诺r oedd Paul. Dechreuodd ei angerdd am y d诺r gydag achubwyr bywyd Aberafan o oed ifanc."

Ffynhonnell y llun, Aberavon Green Stars RFC

Disgrifiad o'r llun, Roedd Paul O'Dwyer wedi sefydlu elusen i helpu cyn-filwyr

Ychwanegodd: "Roedd ei allu chwaraeon yn ymestyn i lawer o wahanol chwaraeon.

"Roedd yn bencampwr syrffio'r fyddin, aelod o d卯m rygbi 7-bob-ochr y Fyddin Brydeinig, chwaraewr rygbi Aberavon Green Stars, hyfforddwr sg茂o ac fe gymerodd ran sawl gwaith yn nigwyddiadau Tri Chopa Prydain a Chymru.

"Roedd ei restr gyflawni hefyd yn cynnwys Marathon Llundain, yn rhedeg ras 100 milltir, nifer o driathlonau gan gynnwys Ironman Cymru ac yn ddiweddar Stand Up Paddle yn byrddio 100 milltir mewn 21 awr i godi arian ar gyfer sgrinio'r galon ym Mhort Talbot.

"Helpodd Paul hefyd i sefydlu elusen Sa1ute i gefnogi cyn-filwyr.

"Rydyn ni fel teulu yn wirioneddol ddiolchgar am y negeseuon caredig a anfonwyd atom yn ein hamser o dristwch mawr."

'Anhygoel ym mhob ffordd'

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Nicola Wheatley yn "anhygoel ym mhob ffordd" meddai ei theulu

Dywedodd teulu Nicola Wheatley, a oedd yn dod o Bontarddulais yn sir Abertawe, eu bod wedi'u "chwalu'n llwyr".

"Roedd Nicola yn fam, merch, merch-yng-nghyfraith a gwraig gariadus," meddai datganiad gan y teulu.

"Roedd Nicola yn berson hardd, gofalgar, ystyriol a doniol. Roedd hi'n anhygoel ym mhob ffordd.

"Mae hi wedi gadael gwagle yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi.

"Hoffem nawr gael amser i alaru a byddem yn gofyn am gael preifatrwydd i wneud hynny."

Roedd Ms Wheatley yn gweithio fel arbenigwr mewn gwybodaeth gwenwynau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Fe wnaeth pennaeth dros dro y bwrdd, yr Athro Stuart Walker, ddisgrifio Ms Wheatley fel unigolyn "brwdfrydig, ymroddedig ac andros o alluog".

"Trwy ei phersonoliaeth hyfryd, fe wnaeth Nicola nifer o ffrindiau yn ystod ei gyrfa, a bydd ei ffrindiau a'i chydweithwyr yn ei cholli hi'n fawr."

Ffynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 09:00 fore Sadwrn

Yn 么l Heddlu De Cymru, roedd swyddog heddlu yn un o'r bobl fu'n rhan o'r ddamwain.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" o'r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 09:00 fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar 么l glaw trwm.

Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd y penwythnos diwethaf.