大象传媒

笔锚濒-诲谤辞别诲 'yn cyfrannu dros 拢550m at economi Cymru'

  • Cyhoeddwyd
merched rhydaman
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l yr adroddiad mae clybiau p锚l-droed fel Rhydaman yn cyfrannu miliynau i'w heconom茂au lleol

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn galw am ragor o fuddsoddi mewn p锚l-droed ar lawr gwlad wedi i astudiaeth newydd ddangos bod y g锚m yn cyfrannu miliynau i'r economi.

Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae CBDC wedi rhoi ffigwr penodol ar yr effaith y mae'r g锚m yn ei chael ar economi Cymru.

Mewn astudiaeth arloesol gan UEFA, sy'n cael ei chefnogi gan Sefydliad Iechyd y Byd a'r Cenhedloedd Unedig, mae'r model yn cynnig arf i gymdeithasau a chlybiau lleol i arddangos gwerth cymdeithasol ac economaidd y gamp.

Mae'r ymchwil yn dangos bod clybiau a chwaraewyr yn cyfrannu 拢553m i'r economi.

"Ry' ni'n bendant yn credu bod angen rhagor o fuddsoddi mewn cyfleusterau yng Nghymru," meddai Noel Mooney, prif weithredwr CBDC wrth Newyddion S4C.

"Mae'r model yma'n cyflwyno cais busnes clir i Lywodraeth Cymru ac i randdeiliaid eraill i fuddsoddi yn y g锚m ar lawr gwlad."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-Droed Cymru

Gan edrych ar y 90,000 sydd wedi cofrestru i chwarae yng Nghymru, a'r 18,000 o wirfoddolwyr, mae 'na ffigyrau manwl yn tanlinellu'r effaith gadarnhaol ar dri maes allweddol - yr economi, buddion cymdeithasol ac iechyd.

Mae'r astudiaeth yn awgrymu bod yna gyfraniad uniongyrchol o 拢263m yn economaidd, gyda'r buddion cymdeithasol yn werth 拢84m.

Tra bod iechyd yn cael ei ystyried yn faes hollbwysig, amcangyfrifir bod yr arbedion i'r gwasanaeth iechyd yn cyrraedd 拢206m.

Wrth ystyried y ffigyrau yma, mae 'na alwadau am ragor o arian i hybu'r gamp ar lawr gwlad.

"Y broblem yw nad oes gyda ni ddigon o gyfleusterau ar lawr gwlad er mwyn chwarae p锚l-droed," meddai Mr Mooney.

"Felly yr hyn sydd ei angen, yn hytrach na bod llywodraethau yn gwario cymaint ar driniaethau, yw gwario cyfran o'r arian o'r dechrau ar yr ymdrech i atal y broblem.

"Felly mae angen mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, er mwyn arbed llwyth o arian yn y pendraw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rhaid buddsoddi arian yn gynnar er mwyn arbed arian yn y dyfodol," medd Noel Mooney

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd CBDC strategaeth 'Ein Cymru' sy'n gosod targed i gynyddu nifer y chwaraewyr i 120,000 erbyn 2026.

Byddai hynny yn 么l y model yma yn codi'r cyfraniad i 拢692m y flwyddyn i'r meysydd sydd eisoes wedi'u crybwyll.

"Ry' ni'n gwybod am bob punt mae'r llywodraeth yn rhoi i b锚l-droed, bod mwy yn cael ei arbed. Felly mae'n gyfle gwych i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn chwaraeon," ychwanegodd Mr Mooney.

"Y cais busnes sydd o'u blaenau nawr yw'r cyfiawnhad dros fuddsoddi ac arbed arian yn y dyfodol, ac yn bwysicach na hynny, arbed bywydau.

"Ry' ni'n bendant yn teimlo bod angen mwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau ar lawr gwlad. Mae'r Gymdeithas yn barod i fuddsoddi, mae angen partneriaid fel Chwaraeon Cymru a'r Llywodraeth ac eraill ymuno er mwyn creu dyfodol gwell i'n pobl."

Effaith ar gymunedau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gwella cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru "yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu".

"Yn 2021-22 rydym yn buddsoddi mwy na 拢8.6m mewn cyfleusterau cymunedol a chenedlaethol i ddarparu cyfleusterau modern a hygyrch i annog pobl o bob oed a gallu i gymryd rhan mewn chwaraeon."

Mae'r astudiaeth hefyd yn canolbwyntio ar effaith clybiau lleol ar gymunedau. Ynghyd 芒 prif ffigyrau, fe fydd y 943 clwb yng Nghymru yn medru gweld eu cyfraniadau unigol.

Fe fydd y gymdeithas b锚l-droed yn gwahodd y clybiau yma i gymryd diddordeb yn y gwaith er mwyn medru dechrau sgwrs gydag awdurdodau lleol yngl欧n a'r angen i ddatblygu adnoddau ac yn y blaen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhodri Jones, dirprwy cadeirydd CPD Rhydaman yn dweud bod y clwb yn cyfrannu lot yn lleol

Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Rhydaman yn rhedeg timau dynion, merched, pobl anabl, t卯m i chwaraewyr h欧n ac i blant. Mae'r adroddiad yn dweud bod cyfanswm yr hwb economaidd yn lleol yn 拢2.2m.

Dywedodd Rhodri Jones, dirprwy gadeirydd y clwb: "Mae'n dangos beth ni'n 'neud i'r gymuned. Falle nag yw pawb yn cydnabod beth ni'n 'neud yn lleol. A dwi'n credu bod cael rhif yn ein galluogi i gymharu ein hunain ag eraill, ac i edrych ar ffyrdd o wella."

Law yn llaw 芒 chanlyniadau'r astudiaeth o ran y manteision iechyd, mae modd edrych ar Sefydliad Jac Lewis sydd wedi'i sefydlu gan y clwb yn Rhydaman.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn dilyn marwolaeth un o'i chwaraewyr. Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae dros fil o sesiynau cwnsela wedi'u cynnal yn y gymuned.

'Y clwb yn deulu'

Mae adroddiad UEFA yn dweud bod clwb Rhydaman wedi arbed 拢1.3m i'r gwasanaeth iechyd.

Ychwanegodd Rhodri Jones: "Doedd y sesiynau yma ddim ar gael yn y gorffennol, felly mae'r ffaith bod dros fil wedi'u cynnal yn brawf bod yr angen yna.

"Erbyn hyn, ni wedi sefydlu partneriaeth gyda Chlwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Abertawe a'r Gymdeithas B锚l-droed. Mae hynny'n dangos ein bod ni'n neud lot yn lleol ond hefyd ar draws Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mi wnaeth t卯m p锚l-droed Rhydaman fy nerbyn i am bwy oeddwn i,' medd Yazmin Gutteridge

Mae Yazmin Gutteridge yn chwarae dros y t卯m merched lleol, ac nid yw'n synnu bod y clwb yn cael cymaint o effaith.

"I fi, mae'r clwb yn golygu teulu," meddai. "Fel merch ifanc, ro' ni'n ei chael yn anodd gwybod lle oedd fy lle. Dyna pam droies i at b锚l-droed.

"Dwi o Loegr, felly pan ddes i i Rydaman, ro ni'n teimlo'n wahanol. Ond pan ddes i o hyd i'r t卯m, 'naethon nhw fy nerbyn i am bwy oeddwn i."