Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢100 i helpu rhai teuluoedd yng Nghymru i dalu biliau'r gaeaf
Bydd cartrefi yng Nghymru sydd ar gredyd cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill yn cael cynnig taliad o 拢100 y gaeaf hwn i'w helpu gyda biliau tanwydd.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i 350,000 o aelwydydd elwa o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gwerth 拢38m.
Mae gweinidogion Llafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr yn Llundain o fethu 芒 helpu teuluoedd ar 么l dileu'r codiad pandemig o 拢20 i gredyd cynhwysol.
Ond dywedodd y Tor茂aid eu bod yn rhoi mwy o gyllid nag erioed i Gymru.
Fe ddaw wrth i bwyllgor Senedd awgrymu y dylai cynghorau sir ddileu dyledion pobl sydd heb allu cadw i fyny 芒 biliau treth cyngor, gyda Llywodraeth Cymru yn eu had-dalu.
Daw'r argymhellion mewn adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch effaith y pandemig ar ddyled, a glywodd fod beil茂aid wedi defnyddio ymddygiad "ymosodol" yn ystod y cyfnod clo.
Pwy sy'n gymwys?
Dywed Llywodraeth Cymru fod y taliad tanwydd gaeaf yn rhan o becyn cymorth o 拢51m i helpu teuluoedd, yn sgil ofnau am argyfwng costau byw.
O hynny, mae 拢1.1m yn cael ei roi "i gefnogi a hybu banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol".
Ond ni chyhoeddodd Llywodraeth Cymru sut y byddai'r 拢11.9m sy'n weddill yn cael ei wario, gan addo cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae cynllun Cymru ar wah芒n i daliadau tywydd oer, y mae Llywodraeth y DU yn talu amdanyn nhw.
Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae o leiaf un person mewn oedran gweithio, ac yn gyfrifol am dalu biliau ynni'r eiddo.
Rhaid bod pobl wedi bod yn hawlio unrhyw un o'r buddion canlynol rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022:
- Cymorth incwm
- Lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans cyflogaeth a chymorth
- Credyd cynhwysol
- Credydau treth gweithio
Bydd cynghorau'n ysgrifennu at dderbynwyr budd-daliadau, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, a gall unigolion hefyd hawlio trwy eu hawdurdod lleol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd y taliad yn effeithio ar fuddion cyfredol unigolyn nac yn destun treth.
Nid oes cadarnhad eto pryd y bydd y taliadau'n cael eu gwneud, ond y gred ydy ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer tua chanol mis Rhagfyr.
Mae prisiau nwy uchel wedi cynyddu cost ynni, gan arwain at lawer o ddarparwyr bach fynd i'r wal.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn pryderu y gallai teuluoedd fod yn troi at fenthycwyr cost uchel neu siarcod benthyg i gael dau ben llinyn ynghyd.
'Seibiant dros dro'
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru: "Mae teuluoedd ledled Cymru yn wynebu argyfwng costau byw go iawn diolch i brisiau cynyddol a thoriadau i daliadau budd-daliadau allweddol.
"Lle mae San Steffan wedi methu 芒 chefnogi teuluoedd, bydd Llywodraeth Cymru yn camu i mewn ac yn cefnogi'n cymunedau trwy'r cyfnod heriol hwn."
Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox: "Mae Llafur wedi bod mewn grym am y 22 mlynedd ddiwethaf ac yn anffodus mae wedi gadael Cymru gyda'r t芒l cartref isaf ym Mhrydain, a'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yn y DU.
"Mae'r llywodraeth Geidwadol yn helpu teuluoedd i dalu costau byw a chefnogi cartrefi sy'n agored i niwed trwy ostwng y gyfradd meinhau (taper) credyd cynhwysol o 63c i 55c, yn ogystal 芒 chodi'r cyflog byw cenedlaethol i 拢9.50."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams fod yr ychwanegiad ariannol "i'w groesawu, er mai dim ond seibiant dros dro yw hyn rhag cyni Tor茂aidd a chostau byw cynyddol".