大象传媒

Agor cwestau i farwolaethau padlfyrddio Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
O'r chwith uchaf gyda'r cloc; Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola WheatleyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc; Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Mae'r cwestau i farwolaethau pedwar o bobl aeth i drafferthion wrth badlfyrddio yn Hwlffordd wedi agor.

Clywodd y gwrandawiad yn Llanelli fod y gwasanaethau brys wedi eu galw am 09:02 ar fore Sadwrn 30 Hydref.

Roedd criw o badlfyrddwyr wedi mynd i drafferthion yn Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd.

Bu farw Paul O'Dwyer, 42 o Aberafan, Morgan Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Clywodd y crwner fod archwiliadau post mortem wedi eu cynnal ar Mr O'Dwyer, Miss Rogers a Mrs Wheatley a bod disgwyl canfyddiadau'r patholegydd maes o law.

Clywodd y gwrandawiad hefyd bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i droseddau posib ac oherwydd hynny, dywedodd y crwner, Paul Bennett, y byddai'n rhaid gohirio'r cwestau llawn tan ar 么l i'r ymchwiliad cael ei gwblhau.

Pynciau cysylltiedig