大象传媒

'Cywilydd y gyfrinach': Byw gydag anhwylder bwyta

  • Cyhoeddwyd
Lewis OwenFfynhonnell y llun, Lewis Owen

Dechreuodd Lewis Owen ddioddef o anhwylder bwyta pan oedd yn ei arddegau - rhywbeth mae'n ei deimlo a gafodd ei waethygu gan y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Lewis yn siarad am ei brofiad ar bennod o bodlediad Meddwl.org, , ac hefyd wedi sgwrsio 芒 Cymru Fyw am y teimlad o orfod edrych ffordd benodol i fod yn 'dderbyniol' o fewn cymdeithas.

"Mae anhwylderau bwyta yn wahanol i wahanol bobl; mae rhai ohonyn nhw yngl欧n 芒 rheoli rhywbeth yn eu bywyd nhw, ond i fi, oedd e i gyd am edrychiad.

"Ddechreuodd e pan o'n i tua 14/15, a phan ti'r oedran yna, ti ishe ffitio mewn ac ishe pobl i hoffi ti. O'n i 'di sylwi mod i ddim cweit yn edrych fel y bechgyn poblogaidd.

"Yr adeg hynny, tua 2007/8, roedd y dynion oedd yn boblogaidd yn skinny, yn yr adeg emo/hipster. Felly i fod yn boblogaidd, ac yn 'dderbyniol', o'n i'n teimlo fod angen edrych fel yna.

"O'n i ar wefannau fel Bebo a Tumblr, a doedd dim byd yn cael ei wirio na'i reoleiddio ar-lein - roedd pobl yn rhannu negeseuon oedd yn hybu gwahanol ddulliau o golli pwysau. Ac roedd rhaglenni teledu fel Skins. 'Nes i wylio clip yn 么l yn ddiweddar a mae e bron yn glorifying anhwylderau bwyta, ac yn rhoi canllaw cam wrth gam am sut oedd cymeriad yn cuddio ei salwch.

"O'dd e bobman, a dros amser o'n i'n teimlo fwyfwy fod angen edrych rhyw ffordd arbennig, neu fyddai pobl ddim yn fy nerbyn i. O'n i'n rhwystro fy hun rhag bwyta, i beidio rhoi pwysau 'mlaen. O'n i ofn rhoi pwysau 'mlaen. O'n i'n gwybod beth o'n i'n ei wneud, ond o'n i methu stopio ei wneud e.

Ffynhonnell y llun, Lewis Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cyfnod Lewis yn yr ysgol yn un hapus, ond roedd ganddo gyfrinach roedd yn ei chadw rhag teulu a ffrindiau

"O'n i'n gwybod fod e ddim yn iach nac yn beth da... ac wedyn o'dd cywilydd yn dod gyda fe, ac o'n i ddim eisiau i bobl ffeindio allan. Ond wedyn os oedd rhywun yn dweud sylw fel 'you're really skinny', roedd e'n bwydo mewn i'r llais yn dy ben sy'n dweud wrthot ti am gario 'mlaen.

"O'n i ddim yn cael fy mwlio, o'dd gen i lot o ffrindiau, a 'nes i fwynhau fy amser yn yr ysgol. Ond o'dd hwn yn y cefn, tu 么l i ddrysau caeedig. O'dd e'n cael effaith ofnadwy ar fy iechyd meddwl i.

"'Nes i wella 'chydig yn mynd i mewn i flwyddyn 13, ond pan 'nes i ddechrau'r brifysgol, o'dd 'na bach o relapse, achos yr un peth; chi'n cwrdd 芒 pobl newydd, chi eisiau ffitio mewn, chi falle eisiau mynd ar dd锚t, ac eisiau edrych ffordd arbennig.

"Ac wrth gwrs, gan mod i ffwrdd o gartref, doedd dim rhaid i mi goginio na bwyta. 'Nes i golli lot o bwysau yn y semester cyntaf.

"'Nes i ddechrau siarad gyda ffrindiau a theulu ac egluro beth oedd wedi bod yn digwydd ar 么l y brifysgol. O'dd cael y cyngor a'r gefnogaeth yna yn anhygoel, achos am flynyddoedd o'n i ar fy mhen fy hun a neb yn gwybod. O'n i'n teimlo cywilydd, o'dd e'n gyfrinach. Pan 'nath hynny ddiflannu, dyna sut 'nes i deimlo'n well.

"'Nes i hefyd ddechrau gwneud athletau a dwi'n rhedeg lot, a 'nath hynny helpu achos o'dd rhaid i fi fwyta er mwyn gallu rhedeg. O'dd e'n rhoi mwy o strwythur i mi.

"Ond dyw e byth yn mynd; dwi dal yn cael y meddyliau 'ma.

"Does yna ddim byd yn bod gydag unrhyw faint o gwbl, a dwi'n gwybod hynny... ond mae'r llais bach yna yn fy mhen ers blynyddoedd yn dweud hynny amdana fi fy hun. Ond dyw e ddim mor gryf heddiw.

Ffynhonnell y llun, Lewis Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lewis yn ei drydydd flwyddyn yn y brifysgol - roedd dal yn cadw ei salwch oddi wrth y bobl agosaf ato

"Mae'r cyfryngau dal yn broblem.

"Ar Instagram nawr, os ydych chi'n chwilio am hashtag penodol [sy'n annog anhwylderau bwyta], mae'n dod lan gyda neges yn dweud 'os ydych chi angen help, cysylltwch...' - ond 'dy chi dal yn gallu mynd drwodd i'r hashtag.

"Os oes negeseuon sy'n hybu hunan-niweidio neu anhwylder bwyta, ddylen nhw gael eu fflagio, achos maen nhw'n niweidiol. Dwi'n dod o oes lle roedd y cyfryngau cymdeithasol yn newydd - doedd dim regulation, a doedd yna ddim body positivity - ac mae hynny wedi sticio gyda fi.

"A hefyd, un o'r problemau ydi'r selebs 'ma sy'n amlwg yn defnyddio Photoshop ar eu lluniau nhw, neu sydd wedi cael rhyw fath o driniaeth - a does yna ddim byd yn bod gyda hynny o gwbl, ond maen nhw'n gwadu eu bod nhw. Felly mae pobl yn tyfu lan yn meddwl 'mae'n nhw'n edrych fel'na yn naturiol, felly pam dwi ddim?'

"Mae anhwylder bwyta yn digwydd i lot o ferched, ond dwi ddim yn meddwl fod yna lot o bobl yn siarad am y ffaith fod dynion hefyd yn dioddef oherwydd yr angen i edrych rhyw ffordd.

Ffynhonnell y llun, Lewis Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lewis heddiw: Mae rhedeg wedi ei helpu, meddai

"Mae yna wastad trend sy'n cael ei wthio gan y cyfryngau. Y dyddiau yma, mae dynion yn poeni pam bod nhw ddim yn edrych yn buff fel yr actorion yn ffilmiau Marvel, ac maen nhw'n mynd yn addicted i fynd i'r gym. Mae hwnna'n rhyw fath o body dysmorphia a maen nhw'n gallu cael anhwylder bwyta fel yna.

"Mae cymdeithas yn dweud, i fod yn ddeniadol, mae'n rhaid edrych fel Superman, ac mae'n bwydo mewn i'r false narrative sy'n y cyfryngau. Mae'n dibynnu beth sydd all the rage ar y pryd.

"Dyw dynion ddim yn siarad achos 'dyw dynion 'ddim yn cael teimladau'. Mae yna elfen o gywilydd, ac mae angen dod dros hynny.

"Dwi eisiau helpu pobl falle sy'n teimlo'r un fath drwy siarad allan. Fy neges i Lewis 15 oed yw: does neb arall yn poeni am sut ti'n edrych - mae gan bobl eraill bethau eraill i boeni amdanyn nhw!

"Gwna'n si诺r bo' ti'n edrych ar 么l dy hun, a ddim newid dy hun yn 么l beth mae cymdeithas eisiau i ti fod."