大象传媒

Enwi Si芒n Doyle fel Prif Weithredwr newydd S4C

  • Cyhoeddwyd
Si芒n DoyleFfynhonnell y llun, Huw John

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Si芒n Doyle fydd Prif Weithredwr newydd y sianel o fis Ionawr 2022.

Mae Ms Doyle yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk a chyn hynny EE.

Bydd Ms Doyle yn cymryd yr awenau oddi wrth Owen Evans, a gyhoeddodd ym mis Gorffennaf ei fod am adael y sianel ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd Ms Doyle ei bod yn edrych ymlaen at arwain S4C wrth i'r sianel ymateb i'r "newidiadau yn y tirwedd cyfryngau."

Bu Ms Doyle hefyd yn Uwch Is-Lywydd cwmni Comcast Cable yn Philadelphia.

'Ymbweru talent i arloesi ymhellach'

"Nawr fy mod wedi dychwelyd i Gymru rwy'n edrych 'mlaen i weithio gyda'r t卯m yn S4C ac arwain y sefydliad wrth iddo ymateb yn egn茂ol i'r newidiadau yn y tirwedd cyfryngau a sicrhau ei fod yn gwneud y gorau o bob cyfle'n chwim," meddai.

"Rwy'n ymuno gydag S4C ar drothwy'r esblygiad hwn a mi fyddaf yn gweithio i ymbweru'r dalent sydd gyda ni yng Nghymru i arloesi ymhellach yn y byd digidol cyffrous hwn."

Dywedodd bod ei "hangerdd" dros ei chydweithwyr ac anghenion defnyddwyr "wedi bod yn rhan annatod o fy mhrofiad dros y blynyddoedd".

Ffynhonnell y llun, S4C

Bydd Ms Doyle yn camu i'r r么l ym mis Ionawr wedi i'r Prif Weithredwr ers 2017, Owen Evans, gyhoeddi dros yr haf y byddai'n gadael S4C i fod yn bennaeth ar gorff arolygu ysgolion Estyn.

'Cyfoeth o brofiad'

Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol Cysgodol S4C: "Bydd profiad helaeth Si芒n ym myd telegyfathrebu a manwerthu yn y DU, Canada a'r Unol Daleithiau yn ogystal, wrth gwrs, 芒'i chariad at y Gymraeg yn gaffaeliad mawr i S4C yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd fod y bwrdd yn falch iawn i allu penodi arweinydd gyda "chyfoeth o brofiad mewn llunio a gweithredu strategaethau uchelgeisiol a llwyddiannus ac o ddeall a bodloni anghenion defnyddwyr".

"Mae angen mentro er mwyn sicrhau bod S4C yn atgyfnerthu ei hun fel darparwr cynnwys creadigol a beiddgar y mae defnyddwyr am ymwneud ag e' ar draws amrywiaeth o lwyfannau."

Pynciau cysylltiedig