Ffrae cinio ysgol: 'Cyngor wedi fy nhaflu o dan y bws'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol yng Ngwynedd wedi dweud wrth y 大象传媒 mai "pasio neges" y cyngor sir y gwnaeth wrth ddanfon llythyr at rieni'n awgrymu na fyddai plant oedd mewn dyled cinio ysgol yn cael eu bwydo.
Dywedodd pennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Neil Foden bod y llythyr a daniodd ffrae yr wythnos diwethaf wedi ei lunio ar sail ebost ato gan Gyngor Gwynedd yn amlinellu sut i ddelio 芒 dyledion oedd wedi cronni ers diwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Ychwanegodd Mr Foden bod datganiad y cyngor sir mewn ymateb i'r ffrae wedi rhoi "argraff 'mod i wedi gweithredu tu allan i bolisi'r awdurdod" ac i lefel y bygythiadau iddo "godi'n sylweddol" o ganlyniad.
Mewn ymateb i lythyr diweddaraf Mr Foden at rieni, ble mae'n dweud ei bod "yn dechrau teimlo fy mod i wedi cael fy nhaflu o dan y bws", fe gyfeiriodd y cyngor at eu datganiad wythnos diwethaf yn "ymddiheuro am y pryder a phoen meddwl... yn sgil cynnwys a geiriad llythyr gan Ysgol Dyffryn Nantlle".
Mewn cyfweliad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru, dywedodd Mr Foden, sy'n gyfrifol am yr ysgol ers Mehefin, iddo "ymgynghori efo'r awdurdod" ynghylch dyledion cinio ysgol oedd wedi cronni ers diwedd y llynedd.
"Nathon nhw ddeud 'sa nhw'n dod i mewn i ddatrys y broblem," meddai.
"Ges i ebost ganddyn nhw i ddeud be oeddan nhw wedi 'neud, sef d'eud wrth bob rhiant efo dyled dros 拢10 bod y dyled yn mynd i drosglwyddo i'r awdurdod a deud wrth y gogyddes i beidio bwydo plant oedd mewn dyled llai na 拢10.
"Cwbl nes i oedd pasio neges yr awdurdod ymlaen i rieni."
'Sefyllfa niweidiol iawn i mi'
Yn ei lythyr diweddaraf at rieni, ysgrifennodd Mr Foden ei fod wedi cytuno ar eiriad datganiad i'r wasg gan y gyngor "bore dydd Iau pan oedd yr holl helynt wedi torri'n gyhoeddus".
Roedd y datganiad hwnnw "yn glir bod y weithred wedi'i chytuno 芒'r awdurdod a thrafodwyd cynnwys y llythyr gyda nhw".
Dywed Mr Foden nad oedd yn credu byddai'n "briodol dweud dyma oedd safbwynt yr awdurdod rhag ofn bod pobl yn awgrymu fy mod yn pasio'r cyfrifoldeb am benderfyniad amhoblogaidd" ond ei fod yn dioddef canlyniadau hynny erbyn hyn.
"Cyhoeddodd yr awdurdod lleol ddatganiad i'r wasg tuag amser cinio ddydd Iau diwethaf, gan awgrymu'n glir bod y penderfyniad wedi'i wneud gennyf y tu allan i bolisi arferol yr awdurdod ac y byddwn yn siarad 芒 mi o ganlyniad iddo", ysgrifennodd.
"Mewn gwirionedd, gan fod y cyngor yn darparu gwasanaeth prydau ysgol, roeddent wedi penderfynu beth i'w wneud ac yn syml wedi gofyn imi ei gyfathrebu i rieni."
Yn sgil datganiad oedd yn "awgrymu bod yr holl gyfrifoldeb arna' i", medd Mr Foden, fe wnaeth "lefel y camdriniaeth llafar a bygythiada' godi yn sylweddol, ac mae'r sefyllfa "wedi bod yn niweidiol iawn i mi".
Dywedodd ei fod wedi trosglwyddo dros 20 o ebyst at yr heddlu, ond ei fod yn credu bod mwyafrif awduron y negeseuon mwyaf "gwarthus" yn bobl heb gysylltiad o gwbl gyda'r ysgol ac yn meddwl "bod hawl iddyn nhw dd'eud be lician nhw" ar-lein.
Roedd yna negeseuon yn ei ddisgrifio'n destun cywilydd, neu'n mynd yn henwan a rhai gwaeth "yn disgrifio fi yn nherma' gwaetha' posib fedra' i'm ailadrodd yn fyw ar y radio".
'Ebost ar 么l ebost ar 么l ebost'
Dywedodd iddo "dreulio bron rhan fwya' dydd Gwener a lot o ddydd Llun jyst yn mynd trwy ebost ar 么l ebost ar 么l ebost... mae o'n wastraff amser, ac ar 么l 'chydig mae o'n tynnu chi i lawr".
Mae staff yr ysgol, meddai, "wedi ca'l amser bron mor galed ag ydw i" wrth ddelio 芒 negeseuon "hollol annerbyniol".
"Mae gen i p芒r o sgwydda eitha' llydan, ond mae'n cyrraedd y pwynt lle bob tro ma'r ff么n yn g'neud s诺n i ddeud bod ebost arall wedi cyrra'dd [dach chi'n meddwl] be nesa?"
Dywedodd wrth Post Prynhawn y byddai'n "meddwl dwywaith" yn y dyfodol cyn anfon negeseuon ar ran eraill "heb g'neud hi'n hollol glir 'mod i'n gweithio ar eu rhan nhw".
Ymateb y cyngor
Gofynnwyd wrth Gyngor Gwynedd am ymateb i lythyr diweddaraf Neil Foden, ac fe gyfeiriodd yr awdurdod at ddatganiad ganddyn nhw ddiwedd wythnos diwethaf.
Yn hwnnw fe ddywedodd y cyngor: "Rydym yn ymddiheuro am y pryder a phoen meddwl sydd wedi ei achosi yn sgil cynnwys a geiriad llythyr gan Ysgol Dyffryn Nantlle yr wythnos diwethaf at rieni yngl欧n 芒 thaliadau cinio ysgol.
"Fel Cyngor, mae lles plant a phobl ifanc wastad yn flaenoriaeth i ni, a byddwn bob amser yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn ar draws y sir yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol. Dylai hyn fod yn glir mewn unrhyw lythyr at rieni gan ysgolion y sir pan yn trafod cinio ysgol.
"Wedi ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd yn achos y llythyr diweddar, mae'n ymddangos fod cyngor technegol a roddwyd gan yr Adran Addysg ar sut i ymdrin 芒 dyledion taliadau cinio ysgol wedi creu aneglurder, ac rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant am effaith hyn. Yn sgil hyn, byddwn yn adolygu ein harweiniad i ysgolion.
"Byddem yn annog unrhyw rieni neu warcheidwaid sy'n cael anhawster talu am ginio ysgol eu plentyn i gysylltu 芒'r Adran Addysg neu'r ysgol yn uniongyrchol. Mae'n bosib y bydd gan eu plentyn hawl i ginio ysgol am ddim.
Os nad yw plentyn yn gymwys ar gyfer y cynllun cinio am ddim, byddwn yn annog y teuluoedd i gysylltu am arweiniad a chefnogaeth os ydynt yn wynebu caledi ariannol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2021