Stigma HIV o fewn cymdeithas yn 'dorcalonnus'
- Cyhoeddwyd
Mae mynd i'r afael 芒 stigma a gwahaniaethu ar sail HIV yn elfen allweddol o gynllun gweithredu HIV y flwyddyn nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.
Dywed dyn 24 oed o Gaerdydd sy'n byw gyda'r cyflwr bod hi'n "dorcalonnus" gweld bod stigma "mor bresennol" o fewn cymdeithas.
"Cymrodd hi bedair blynedd i fi hyd yn oed dweud wrth fi fy hun fy mod i'n bositif am HIV," meddai Marlon Van Der Mark.
Gall stigma fod yn rhwystr mawr at lunio camau effeithiol i atal lledaeniad HIV, meddai'r llywodraeth.
Daw hyn yn ystod Wythnos Brofi HIV Cymru, ymgyrch i gynyddu'r nifer o bobl sy'n cael eu profi am HIV ar lawr gwlad ddwywaith y flwyddyn.
"Mae mwy o bobl yng Nghymru yn byw gyda HIV nag erioed o'r blaen," meddai'r trefnwyr, Fast Track Cardiff and Vale.
'Rwyt ti'n ffiaidd'
"Rwyt ti'n ffiaidd, rwyt ti'n haeddu cael AIDs, rwyt ti'n erchyll."
Dyma rhai o'r sylwadau mae Mr Van Der Mark wedi eu derbyn wrth rannu ei brofiadau ar-lein am fyw gyda HIV.
Mae'n dymuno gweld gwell ddealltwriaeth o fyw gyda'r haint yn 2021.
Cafodd Mr Van Der Mark ddiagnosis HIV pan yn 19, ac mae'n dweud iddo fyw mewn ofn o ddweud wrth unrhyw un am flynyddoedd.
Ond yn gynharach eleni penderfynodd mai digon oedd digon, a rhannodd fideo ar-lein yn siarad am fyw gyda'r cyflwr.
"O fewn munudau roedd llwyth o sylw i'r fideo... roedd pobl yn dweud pa mor falch roedden nhw ohona' i... roeddwn i'n gallu anadlu am y tro cyntaf," meddai.
Ond wrth iddo gyhoeddi neges ynghylch peidio teimlo cywilydd, daeth i sylweddoli bod stigma'n dal i fodoli ynghylch HIV.
"Mae'n andros o wael, 'nes i byth meddwl y byddai hi ar 么l y fideo cyntaf ond wrth i'r fideos mynd yn eu blaen... roedd e fel petai fod drws wedi ei agor ac fe wnaeth yr holl bobl yma lifo mewn," meddai.
Mae'n credu bod y fath agweddau'n deillio o hen wybodaeth o gyfnod yr argyfwng AIDS, gan brofi angen am well addysg ynghylch beth mae'n ei olygu i fyw gyda HIV erbyn hyn.
"Pob chwech mis rydw i'n mynd am apwyntiad rheolaidd... rydw i'n cymryd un dabled y diwrnod ac rwy'n byw bywyd normal," meddai.
Beth yw HIV?
Mae HIV yn sefyll am Human Immunodeficiency Virus - mae'r haint yn gwanhau'r system imiwnedd.
Os nad yw'n cael ei drin, fe allai'r haint arwain at HIV hwyr neu AIDs, sef yr enw ar gyfres o glefydau y mae HIV yn eu hachosi.
Ond mae cyffuriau effeithiol iawn sydd yn caniat谩u i'r mwyafrif o bobl fyw bywydau hir ac iachus gyda HIV.
Mae meddyginiaeth bellach yn medru lleihau'r HIV i lefel mor isel nad oes modd i berson ei basio ymlaen.
Ffynonellau: a'r .
Chwalu stigma
Chwalu'r stigma ynghylch HIV yw un o nodau Wythnos Brofi HIV Cymru, rhwng 22 a 28 Tachwedd.
Mae'r ymgyrch wedi ei drefnu gan Fast Track Cardiff and Vale, gr诺p gwirfoddol a gafodd ei sefydlu'n rhannol i fynd i'r afael 芒'r cyfraddau uwch o ddiagnosis hwyr yng Nghymru o'i chymharu 芒 gweddill y DU.
"Beth mae hyn yn ei olygu yw nad yw pobl yn cael eu profi a chael diagnosis nes eu bod nhw'n s芒l... ac mae'n debygol fod pobl sydd ddim yn gwybod fod HIV ganddyn nhw yn ei phasio ymlaen i bobl eraill," meddai Lisa Power.
Mae'r gr诺p yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o dros 300 o ddinasoedd sydd wedi ymrwymo i gyrraedd targed y rhaglen UNAIDS - sef fod 90% o'r rheiny sydd yn byw gyda HIV wedi derbyn diagnosis, eu bod ar driniaeth, a bod yr haint yn anghanfyddadwy ac yn amhosib ei throsglwyddo.
"Mae mwy o bobl yn byw gyda HIV yng Nghymru nag erioed o'r blaen," meddai Ms Power.
"Dydyn ni heb gael ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ers 14 mlynedd, a dyma yw'r rheswm pam bod neb yn gwybod y pethau newydd hyn am HIV sy'n gwneud hi'n bosib byw gyda'r haint fel cyflwr cronig ar hyd eich oes."
Mae'r gr诺p yn dymuno i Lywodraeth Cymru osod targedau clir fel rhan o'i Chynllun Gweithredu HIV fydd yn cael ei chyhoeddi flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y gallai stigma fod "yn rhwystr mawr at ymatebion effeithiol i atal heintiadau HIV".
Ychwanegodd: "Bydd mynd i'r afael 芒 stigma a gwahaniaethu ar sail HIV yn elfen bwysig o ein Cynllun Gweithredu HIV."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021